Cymorgth amhisadwy i dlodi bwyd a chyngor ar anghenion personol a theuluol.

Banc Bwyd Rhydaman.

Mae eglwys Capel Seion wedi cefnogi banc bwyd Rhydaman dros y blynyddoedd diwethaf ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae’r banc bwyd bellach yn hanfodol bwysig i’r ardal wrth i dlodi i gynyddu ac effeithio gymaint o bobl.

I bobl Drefach a’r cylch, dewch a’ch cyfraniadau bwyd i Hebron, Drefach rhwng 10.00 a 11.30 ar ein boreau coffi.

Rydym yn cwrdd bob pythefnos. Gwyliwch y calendr.

Gan fod y bwyd sydd angen yn amrywio fe gewch y gwybodaeth diweddaraf ar wefan Banc Bwyd Rhydaman

Cylchlythr Banc Bwyd Rhydaman.

Annwyl Gyfeillion y Banc Bwyd,

Ni allwn fynegi mor ddiolchgar ydyn ni am eich cefnogaeth barhaus naill ai drwy negeseuon o anogaeth neu drwy roi bwyd ac arian. Trist yw dweud bod yr angen am ein gwasanaeth yn fwy nag erioed wrth i fwyfwy o bobl wynebu argyfwng ariannol. Unwaith eto rydym yn gweld y rheiny sydd yn y sefyllfaoedd gwaethaf yn cael eu taro waethaf gan y cynnydd mewn prisiau ynni, bwyd a thai. Lle roedd rhai’n llwyddo o drwch blewyn i gael deupen llinyn ynghyd o’r blaen, maen nhw wedi cael trafferth goroesi yn ystod y misoedd diwethaf. Prin y maen nhw’n ymdopi yn ôl rhai, ac nid yn ariannol yn unig oherwydd mae’r pwysau ar gyllidebau yn creu straen meddyliol ac emosiynol hefyd gan beri i lawer o’n cwsmeriaid ddioddef iechyd gwael iawn.

Mae eich cefnogaeth gyson yn golygu bod modd i ni barhau i helpu pawb sydd mewn angen. Drwy sicrhau bod gennym gyflenwad da ar ein silffoedd rydych yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ddosbarthu bwyd a gweithio i helpu pobl i ddod allan o’r argyfwng maen nhw’n ei wynebu. Diolch yn fawr.

Ar 1 Awst dechreuom ddatblygu’r cymorth hwn ymhellach drwy ein Canolfan Gymorth newydd - sydd ar agor bob dydd Llun (10am - 3pm) a dydd Gwener (12pm - 3pm). Mae’n dilyn misoedd o gynllunio ar gyfer cais llwyddiannus am grant sydd wedi’n galluogi i gyflogi 2 Reolwr Cymorth a fydd yn goruchwylio ac yn darparu arweiniad ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys tai, materion ariannol, iechyd ac ati. Nid oes angen atgyfeiriad ar gyfer y rhan hon o wasanaeth y Banc Bwyd ac mae ar agor i’r cyhoedd; gall unrhyw un alw heibio i’r Llusern, Stryd y Gwynt yn ystod yr oriau agor os oes ganddo ymholiad. Os na allwn helpu, neu os nad oes gennym y sgiliau angenrheidiol, byddwn yn gwneud ein gorau glas i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Lle roeddem yn helpu’r rhai a oedd eisoes yn wynebu argyfwng o’r blaen rydym bellach am atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Wrth i ni symud tuag at y gaeaf gofynnwn i chi barhau i’n cefnogi, drwy rannu am ein gwaith, ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi’r eitemau sydd eu hangen arnom. Diolch eto am bopeth rydych chi’n ei wneud sy’n ein galluogi i helpu ein cymuned; yn wir, ‘Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.’

Ar ran Tîm y Banc Bwyd,

Mydrim Davies [Rheolwr]