Canolfan Hebron

Mae Iesu yn gwneud gwahaniaeth.

 

Adeiladwyd Canolfan Hebron ym 1908 fel festri eglwys Capel Seion ym mhentref Drefach ac mae wedi gwasanaethu'r cymunedau cyfagos fel canolfan adnoddau cymunedol ers dros ganrif.

 

Canolfan Hebron, Drefach.

Ein nod yw ailddatblygu ac adnewyddu canolfan gymunedol Hebron i ddarparu gwell adnoddau a chyfleusterau i’r dalgylch o ganlyniad i arolygon cymuned.

Bydd ei wireddu yn cynnig lle i gyfarfod a derbyn gwasanaethau aml-asiantaeth a thrawsffiniol er mwyn hybu ac atal erydiad cynhwysedd yn ogystal ag arbed risgiau posibl i’r gymuned yn y dyfodol.

 

Yn gwneud daioni na ddiogwn.

Adnewyddu Hebron.

Mae Hebron erbyn hyn dros ei chan blwydd oed ac mae’r blynyddoedd wedi gadael ei farc ar yr hen adeilad. Mae adnewyddu er mwyn cynnal gweithgareddau dyngarol cyfoes yn costio ac er mwyn bwrw ymlaen a nod ac amcanion y ganolfan rydym yn y broses o wneud cais i'r Loteri Genedlaethol, Pawb a’i le - Grantiau Mawr.

Mae cefnogaeth y gymuned wedi bod yn rhyfeddol wrth i ni gasglu gwybodaeth am ei anghenion cyn ac wedi codi’r llen ar warchae Cofid-19. Mae adran gynllunio Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo’r cynllun adnewyddu a seiliwyd, ac a luniwyd ar anghenion y gymuned ar gyfer heddiw a heriau’r dyfodol. Er bod cyfnod Cofid wedi atal nifer o’n gweithgareddau mae hefyd wedi tanlinellu sefyllfaoedd bregus yn ein cymuned a’r gwasanaethau a’r darpariaethau angenrheidiol newydd bydd ei hangen ar gyfer gwneud cymdeithas hyfyw unwaith eto.

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein harolygon cyn ac ar ôl cyfnod Cofid ac am gydweithrediad y gymuned yn ein cynlluniau ar gyfer Hebron i’r dyfodol.

Pobl sy’n gwneud cymuned.

Mae gennym gymuned weithredol a chymdogol sy'n gofalu, cefnogi ac yn cyfrannu at les pentrefwyr a grwpiau cymunedol eraill. Canolfan Hebron yw calon y gweithgareddau hyn sy'n hyrwyddo datblygiad agored a chyfranogol mewn diwylliant o ddysgu traws-genhedlaethol.

Fel eglwys, mae'n ddyletswydd arnom i weithredu mewn ffordd foesol a chwarae rhan hanfodol wrth helpu eraill. Mae gweithgareddau Cristnogol a llawer o weithgareddau anghrefyddol yn digwydd yng Nghanolfan Hebron. Mae gallu'r gymuned i ddiwallu eu hanghenion yn dibynnu ar sgiliau pobl, ac mae angen adeilad priodol arnynt i'w gwasanaethu. Defnyddir y ganolfan fel cyfleuster gan sefydliadau a grwpiau cymunedol i hyrwyddo anghenion cymdeithasol.

Rydym yn gweithio gyda'r gymuned trwy:

  • Galluogi a pherfformio digwyddiadau a gweithgareddau elusennol gyda'r gymuned yng Nghanolfan Hebron. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i nodi angen lleol a defnyddio sgiliau a thalentau gwirfoddolwyr i'w cyflawni.

  • Dod â phobl ynghyd yn y ganolfan i gyfnewid barn, i gael y wybodaeth ddiweddaraf a lleddfu unigrwydd yn ein boreau coffi a ‘galw heibio’.

  • Cefnogi cymunedau dysgu trwy gyrsiau a dosbarthiadau Beibl ac ati.

  • Cefnogi gweithredu cymdeithasol trwy gynnal cyfarfodydd a swyddogaethau cyhoeddus ar bynciau a nodwyd gan y gymuned a chyngor cymunedol lleol.

Pobl.

Mae ein harweinwyr cymunedol yn bobl fedrus sy'n cynrychioli croestoriad o alwedigaethau ac yn dangos arweinyddiaeth gref. Maent yn croesawu newid ac yn cynnal normau a ffiniau cymdeithasol.

Mae arweinyddiaeth yr eglwys yn cynrychioli sylfaen ddiwylliannol eang sy'n hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ac yn anhunanol wrth hyrwyddo gwell cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus.

Gweithgareddau cymunedol Hebron.

  • Mae boreau coffi yn dod â phobl ynghyd i gyfnewid barn a lleddfu unigrwydd.

  • Mae cyfarfodydd henoed yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau hunangymorth.

  • Mae'r Chwaeroliaeth yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, yn meithrin gallu ac yn cefnogi sefydliadau elusennol.

  • Canolfan astudio Beiblaidd lle mae gweinidogion a’r gymuned yn trefnu rhaglenni hyfforddi ar gyfer arweinwyr eglwysig.

  • Digwyddiadau elusennol sy'n darparu prydau bwyd a lluniaeth ysgafn.

  • Defnyddiau eraill yw’r ysgol Sul, cyfarfodydd diaconiaid, partïon cylch chwarae a digwyddiadau dathlu.

 

Anghenion y Gymuned.

 

Arolygon o anghenion y gymuned.

Mae 2,750 o bobl ar gyfartaledd wedi defnyddio Hebron yn flynyddol cyn Cofid-19. Gyda'r cyfleoedd newydd a fwriedir o ganlyniad i gynlluniau ar gyfer y dyfodol rydym yn disgwyl i hyn dyfu i dros 4,000 o ymweliadau bob blwyddyn. Ceir mynediad i ystod estynedig o weithgareddau yn yr adeilad newydd newydd sydd wedi ei lunio ar anghenion yn hytrach na chyfleuster yn unig.

Mae canlyniadau’r broses o asesu lleol yn ddadlennol iawn ac wedi ein gorfodi i ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r astudiaeth.

  1. Arolwg cyn Cofid-19. Gorffennaf - Medi 2019.

    1.1 Gorffennaf: Astudiaeth pen agored o anghenion y gymuned trwy bostio cardiau post i 750 o bentrefwyr a dadansoddi’r canlyniadau.

    1.2 Gorff-Medi: Astudiaeth o ddefnyddwyr Hebron dydd Gwener 26 Gorffennaf. Adeiladu Pobl. Yr Eglwys yn y Dyfodol yn ardal Drefach

    1.3 Rhagfyr: Ymateb Cyngor Cymuned Gorslas.750

  1. Arolwg ôl-Cofid 19, Medi 25ain

    Astudiaeth pen agored o anghenion y gymuned mewn cyfarfod cyhoeddus o 54 o bentrefwyr, rhieni ifainc a ieuenctid.


Pigion o’r arolygon.

Dyma bigion o’r anghenion ond ceir manylion llawn yn yr arolygon uchod.

  • Grwpiau ieuenctid: Y siop goffi, sesiynau cerdd, hunaniaeth a ffasiwn, gemau digidol a sinema fach, cyngor iechyd a lles.

  • Dysgwyr: Grwpiau wedi'u trefnu neu grwpiau ac unigolion sy'n ymweld trwy gynadledda fideo.

  • Rhieni ifanc: Cyngor cyn priodi a chyn enedigol, dosbarthiadau bywyd, cyfnewid dillad, cyngor dirgel, ac ati.

  • Pobl hyn: Man cyfarfod, boreau coffi, dysgu sgiliau digidol, cwnsela, telegyfathrebu â’r unig, banc bwyd.

Cysylltwch â'r tîm bugeiliol am ragor o wybodaeth.

 

Banc Bwyd.

Bydd y Banc Bwyd ar agor yn Hebron bob dydd Mercher i dderbyn eich cyfraniadau wedi bygythiad Cofid fynd heibio.

Boreon Coffi.

Ar ôl cyfnod Cofid byddwn yn ail gychwyn ein boreon coffi yn Hebron, Drefach. Ymunwch â ni.

Elusennau.

Mae aelodau Capel Seion yn casglu ar gyfer nifer o elusennau yn ystod y flwyddyn.. Gweler elusennau a gefnogwyd gennym ar dudalen yr Hafan.

 

Hebron

Heol Cwmmawr
Drefach, Llanelli SA14 7AA

Cysylltwch.

gwynelfyn@gmail.com

01269 870893
07970 410278