Ydy chi’n chwilio am gymorth?

Mae gan Iesu yr ateb perffaith i chi.

Mae'r Pasg, conglfaen y ffydd Gristnogol, yn arwydd o adnewyddiad, gobaith, a phrynedigaeth. Wedi'i ddathlu ledled y byd, mae'n coffáu atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, gan ddangos buddugoliaeth dros bechod a marwolaeth. Wrth wraidd y Pasg mae neges ddofn cariad, aberth, ac iachawdwriaeth, wedi'i chrynhoi gan y croeshoeliad a'r atgyfodiad dilynol.

Mae'n amser i fyfyrio, maddeuant, ac adfywiad ysbrydol, gan wahodd credinwyr i gofleidio'r addewid o fywyd tragwyddol. Wrth i Mair gario corff difywyd ei mab, cawn ein hatgoffa o ddyfnder cariad dwyfol a grym trawsnewidiol ffydd.

Ymunwch â ni i goffáu’r digwyddiad cysegredig hwn.

Yr Egwys Fyw.

Elusennau.

‘…chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’ Mathew 25: 35-36

Banc Bwyd

Rhydaman.

Cyfanswm o 374kg ers Ddiolchgarwch 2023.

Dymuna’r Parch Gwyn Elfyn Jones ac aelodau Capel Seion Drefach ddiolch, ac estyn pob dymuniad da a phob llwyddiant i Meidrym wrth iddo ymddeol o’i waith fel arweinydd y Banc Bwyd Rhydaman ar ôl blynyddoedd lawer wrth y gwaith rhyfeddol o bwysig yma.

Dymuna Banc Bwyd Rhydaman ddiolch o galon i aelodau a ffrindiau Capel Seion am ei cyfraniad o 374kg i’r Banc Bwyd ers Diolchgarwch 2023.

Gwyn Elfyn Jones

“Beth bynnag ydyw, bydd adnabod Iesu yn gwneud y byd o wahaniaeth.”

Yr Ysgol Sul a phobl ifanc.

‘…mae pob plentyn yn blentyn i Dduw.’

‘… mae’r dyfodol yn ei dwylo ni.’

Y Porth

Ffordd o fyw a byw i ddysgu.

Prosiect arloesol yw’r Porth sydd wedi’i aneli at pobl ifanc rhwng 9 a 35mlwyd oed. Y Porth yw rhaglen Capel Seion ar gyfer cynllun Buddsoddi ac Arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Ein swyddog datblygu ac arweinydd y Porth yw Nerys Burton.

Diolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am ei haelioni ac ymddiried ynom i gyflawni’r prosiect ar ran yr eglwys a’r gymuned leol. Bydd datblygiad y prosiect i’w gael ar dudalennau gwefan arbennig Y Porth, yporth.org

Yr Eglwys Ar-lein.

Ar-lein i fywyd newydd.

Podlediadau.

Myfyrdodau.

Blogiau.

Y Llwyfannau.

Cyhoeddiadau