Rydym yn falch eich bod wedi cyrraedd yma.

Mae eglwys Capel Seion ond gwasgad botwm i ffwrdd a chyfoeth o wybodaeth am yr Arglwydd Iesu yn aros i'ch helpu ar daith bywyd.

Screenshot 2021-01-19 at 09.12.50.png

Cymerwch y cam cyntaf.

Cymerwch eiliad i ddweud ychydig o bethau amdanoch chi'ch hun gan ddefnyddio'r ffurflen uchod.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a dewch yn rhan o ffordd newydd o fyw yn Iesu.
Byddwn yn danfon newyddion, diweddariadau a myfyrdodau atoch yn wythnosol ac yn edrych ymlaen at eich ymateb.

Hoffem ddod i'ch adnabod yn well.

Tanysgrifiwch isod am fwy o wybodaeth a chymorth.

Ni’n edrych ymlaen at eich croesawu!

Dyma beth mae Capel Seion yn cynnig i chi.

Rydym i gyd yn barod i wasgu'r botwm ‘snooze’ ar fore Sul wrth gael egwyl penwythnos a mwy o amser i ni ein hunain. Mae ailgyflenwi’r egni sydd wedi darfod ac ymlacio yng nghysur ein cartrefi yn rhywbeth rydym wedi edrych ymlaen amdano wedi wythnos brysur.

  • Mae mwy i adfer ein ‘mojo’ na ymlacio’n unig. Efallai bod yr ateb gan yr eglwys. Nid yw bywyd yn deg ar neb ond mae crefydd bob amser yn rhan o'r ateb i beth bynnag rydych chi'n delio ag ef. Dangoswyd bod mynychu'r eglwys yn gwella hwyliau ac iechyd ysbrydol, a rhoi'r gostyngeiddrwydd sydd ei angen i ddechrau teimlo'n dda amdanoch chi'ch hun unwaith eto. Bydd yr eglwys yn rhoi gwell persbectif i chi mewn cyfnod anodd a bydd yn eich codi, eich cymell a'ch ysbrydoli.

  • Bydd yr heddwch a'r llonyddwch a brofwch yn yr eglwys yn llacio straen a thyndra ac mae amser i fyfyrio yn gwneud rhyfeddodau i'r meddwl, y corff a'r enaid. Bydd yr heddwch llesol yma hefyd yn dwyshau'r gallu mewnol i faddau, i wrando a diolch.Cofiwch fod mynychu gyda'ch teulu yn ffordd well fyth o greu perthynas llawer cryfach yn enwedig ar achlysuron nodedig yng nghalendr yr eglwys.

  • Eich eglwys yw teulu eich plwyf lleol a fydd yno i'ch helpu a'ch cefnogi. Ni fyddwch byth ar eich pen eich hun, bydd gennych deulu cefnogol wrth eich ochr a byddwch yn dod yn ffrindiau agosaf. Pan nad ydych chi yno fe fydd y teulu hwn yn gweld eich eisiau ac yn gweddïo drosoch os byddwch yn wynebu amser anodd.

Mae'r cyfnod dan glo Cofid yn ofid i ni i gyd ac mae angen cymrodoriaeth yr eglwys arnom yn fwy nag erioed. Mae ein gwasanaethau ar-lein a'n gwasanaethau Zoom yn ffordd o fynd trwy'r cyfnod hwn nes y gallwn ni i gyd ddod yn ôl at ein gilydd unwaith eto fel un teulu yng Nghrist.

Oes gennych ddiddordeb mewn cymryd y cam nesaf?

Hoffem eich helpu i gysylltu â gwahanol adrannau o'r eglwys.

Bydd yn bosibl i chi gysylltu â'r adrannau eraill hefyd cyn fo'n hir. Rydym yn adeiladu'r safle gam wrth gam. Arhoswch gyda ni mae 'na dipyn i ddweud am gariad Iesu. Cewch wledda wrth weld a gwrando ar Air Duw.

 
Screenshot 2021-01-19 at 10.08.06.png

Y Weinidogaeth.

Er bod drysau'r capel ar gau mae'r weinidogaeth yn parhau fel arfer. Gwyliwch myfyrdodau'r wythnos or YouTube. Mwynhewch!

Screenshot 2021-01-19 at 10.07.21.png

Y Cymrodoriaeth.

Mae aelodau'r gymuned yn cwrdd yn wythnosol yn festri Hebron, Drefach am goffi a chlonc. Galwch i'r Bore Coffi rhwng 9.30-11.00yb

Screenshot 2021-01-19 at 10.09.15.png

Adran y Plant.

Ysgol Sul y plant am 9.30yb yn festri Capel Seion bob dydd Sul. Ceir Ysgol Sul ar Zoom yn ystod cyfnod Cofid-19. Ymunwch â ni.