Gweinidogaeth yw’r hyn rydyn ni'n ei wneud dros Dduw.

Fe'n gelwir i berfformio gweinidogaeth weinidogaethu, mewn gwahanol ffyrdd fel y gellir cyhoeddi'r efengyl, ymestyn y deyrnas, a gogoneddu Duw.

Galwad Duw ydyw.

Credwn yng ngrym yr unigolyn i wneud pethau gwych dros Dduw.

Rydym yn bodoli i helpu pobl fyw bywyd llawn yn Nuw. Rydym yn creu platfform modern sy'n eich galluogi i adnabod creu perthynas a charu’r Iesu er mwyn rhannu eich straeon, datgan eich ffydd mewn presenoldeb dwyfol trawiadol a hardd.

Siarad am Dduw

Y Weinidogaeth

Gweinidog

Mwy am Gwyn

gwynelfyn@gmail.com

01269 870893 07970 410278

Eglwys annibynnol Gymraeg ym mhentref Drefach ym mhen uchaf Cwm Gwendraeth ydym. Sefydlwyd yr eglwys dros dri chan mlynedd yn ôl yn 1712 yn ardal lofaol ac amaethyddol y Mynydd Mawr.

Mae Capel Seion yn eglwys fywiog gada’n agos i 200 o aelodau â phwyslais ar Air Duw a’n cyfraniad i hyfywedd y cymunedau o amgylch. 
Mae’r plant yn cael lle canolog yn ein gweithgareddau a chynhelir Ysgol Sul wythnosol a chwrdd plant yn fisol. 
Mae’r cymrodoriaeth yn cwrdd yn festri Hebron ac mae hyn yn fodd i gadw ein bys ar bỳls y gymuned yn ogystal â lle i ymlacio yng nghwmni aelodau a ffrindiau o’r ardal.

Pam na ddowch i rannu’r mwynhad yma gyda ni?

Screenshot+2021-01-18+at+08.52.56.jpg

Nerys E Burton

Swyddog Pobl Ifanc a Datblygu Cymunedol

Mwy am Nerys

gwynelfyn@gmail.com

07971 879472

Mae Nerys

Oedfaon Arferol.

Mae’r capel yn agor ar y Sul a’r oedfa yn dechrau am 10.30yb. Pan ddowch atom gallwch barcio’r car yn y maes parcio neu ar ochr yr heol fawr. Ymunwch gyda’r aelodau wrth ddod i mewn a chewch eich croesawu yng nghyntedd y capel gan ein gweinidog a dau o’r diaconiaid. Bydd y diaconiaid yma’n barod iawn i’ch tywys i’ch sedd. Mae’r aelodau yng Nghapel Seion bron yn ddieithriad yn eistedd yn seddau’r teulu ond byddant yn siŵr o’ch croesawu atynt ar bob cyfle.

Mae trefn yr oedfa yn eithaf arferol ac yn parhau am tua awr. Wedi’r oedfa bydd ein gweinidog yn mwynhau sgwrs â phob aelod yn y cyntedd ac yna llwybro gartref wna’r mwyafrif wedi treulio peth amser yn sgwrsio a thynnu coes. Ar adegau arbennig byddwn yn cwrdd dros goffi a chacen yn y festri, rhywbeth mae pawb yn mwynhau.

Screenshot 2021-01-18 at 09.05.38.png

Yr Ysgol Sul

Caroline Jones

Athrawes

gwynelfyn@gmail.com 01269 870893 07970 410278

Mae 'na lawer o bethau mae plant yn eu caru am yr Ysgol Sul a hoffwn rannu rhai o rhain gyda chi.
Mae plant wrth eu bodd â dewisiadau ac mae gwahanol opsiynau o adrodd stori yn rhoi'r opsiwn i blant ddysgu mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhoi dewisiadau i blant yn golygu y byddwch chi'n gweld dysgwyr mwy ymgysylltiol a llawn cymhelliant. Mae plant yn caru eu teuluoedd ac fe fyddwch fel rhieni hefyd yn cael croeso yma a thrwy gysylltu teuluoedd fel hyn mae'n hyrwyddo twf ysbrydol ac ymdeimlad dyfnach o berthyn. Rydym yn dysgu rhyfeddodau Iesu ac yn gwybod pa mor naturiol o chwilfrydig yw plant ac yn mwynhau dysgu trwy ddiddordeb a disgwyliad. Ond yn anad dim, mae plant yn dymuno gwasanaethu a phan fyddwch chi'n rhoi ffyrdd diriaethol i blant roi ffydd ar waith, mae'r cyfan yn dod yn fwy ystyrlon iddynt.

Iesu

“Gadewch i’r plant bach ddod ata i”

Luc 18. 15-17

 

Ann Thomas

Athrawes

Mae'r Ysgol Sul yn rhoi sylfaen gadarn i blant ac oes o ddysgu a chyfeillgarwch parhaol â'u cyd-ddisgyblion. Mae'r Ysgol Sul yn adeiladu ar y sylfaen yma o addysg Gristnogol fel y gallant dyfu yn y ffydd ac adnabod Iesu fel eu harwr.

Gwahoddir plant i ymuno â ni yn festri Capel Seion rhwng 9.30-10.30 ar fore Sul ac fe fyddwn yn canolbwyntio ar straeon o’r Beibl a phob gwers yn gwahodd plant i stori newydd o'r Beibl. Bydd adrodd straeon rhyngweithiol fel hyn yn annog creadigrwydd a dychymyg ac ymateb adeiladol.

Byddwn yn cynnal oedfa arbennig i'r plant bob mis yn y capel ei hun lle bydd y plant yn cael cyfle i wrando ar stori, canu'r hen ffefrynnau a chaneuon newydd gyda band cyfoes ac ymarfer cyflwyniadau cyhoeddus mewn awyrgylch cynnes a diogel.

Ann Davies

Athrawes

Mae plant yn deall. Does dim angen dadansoddiad dwys, mae plant yn deall symlrwydd neges yr efengyl, weithiau'n well nag yr ydym ni'n ei wneud. Dysgodd Iesu bobl mewn damhegion. Hynny yw, adroddodd straeon. Roedd Iesu’n gwybod pan oedd angen i’w ddilynwyr ddysgu mewn ffyrdd y gallent ddeall. Roedd hefyd yn gwybod y byddai angen i ni feddwl fel plant bach er mwyn cofleidio'r maddeuant a'r gras a gynigiodd.

Fel oedolion, rydym yn gadael i broblemau'r byd ddod yn fwy i ni na Gair Duw ac yn gadael i ofynion bywyd ystumio gwirionedd diffuant yr Ysgrythur. Pan fyddaf yn dweud stori wrth blant am Iesu, gwelaf lygaid eiddgar yn goleuo. Mae eu calonnau yn agored i'r neges. Mae plant yn ei gael, a gallwn ddysgu oddi wrthyn nhw sut i fynd yn ôl i'r lle hwnnw o gred syml.

Swyddogion a Diaconiaid.

 

Gwyn E Jones

Gweinidog

 

Mal James

Is Gofrestrydd Priodasau.

Ann Thomas

Diacon ac Ysgrifennydd

 

Dr. Michael Jones

Diacon.

Marged Griffiths

Trysorydd

 

Stephen Thomas

Diacon

Gethin Thomas

Ysg / Cofrestrydd

 

Gareth Griffiths

Diacon

Teifion Sewell

Diacon

 

Caroline Jones

Diacon

Dr. Wayne Griffiths

Diacon

 

Ann Davies

Diacon.

Esme Lloyd

Diacon

 

Wyn Edwards

Diacon a Chadeirydd.

 

Dathlu 300 mlynedd

O Cofid a’i glawr ar arlwy, i lolfa glên a phum waith mwy.

 

1712

O guddfan allt deri Penlan Fawr i gysgod canghenau hen dderwen y Clôs; adroddir hynt a hanes Capel Seion gan genedlaethau o fynychwyr yr achos ar ddechreuad oes aur yr eglwys a mudiad yr Annibynwyr Cymraeg yng Nghymru.

170 aelodau

Syrthio mae’r nifer o aelodau wrth i ni golli fyddloniaid. Tyfu mae’r angen am arweiniad Crisnogol ar ein byd heddiw. Deuddeg disgybl oedd gan Iesu a llydaenwyd ei neges yn fyd eang. Beth gallwn ni gyflawni â 170 o ffyddloniaid?

Cyrraedd x 5 mwy

Daeth Cofid a’n taflu i fywyd newydd yng Nghrist. Cyflymodd y broses o gyrraedd unigolion a chynulleidfaoedd newydd pan gwrendir ar fyfyrdodau’r Sul gan agos i bum gwaith mwy o fobl nag arfer.