Dechrau yn y dechrau.
Mae Iesu yn gwneud gwahaniaeth.
Cynhwysedd a Chydbwysedd.
Datblygu cynhwysedd personol.
Yn yr adran hon, mae eglwys Capel Seion yn canolbwyntio ar y newidiadau bach sy’n gwneud effaith barhaol. Mae gennym gyfres sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, iechyd corfforol, iechyd ysbrydol, a gofalu am ein gilydd. Gwneir hyn drwy ffyrdd arloesol o hyrwyddo’r Efengyl a chyfarfod ar-lein neu mewn Cylch. Mae gwasanaethu’r gymuned yn ogystal â’n cyfrifoldeb dyngarol i helpu’r difreintiedig yn gymorth mawr i’r rhai llai ffodus yn bennaf ac i ni i dyfu’n bobl gyflawn.
Mae’r adrannau isod yn cael ei datblygu ac fe ychwanegir atynt o dro i dro.
Rhowch wybod os bydd unrhyw agwedd arall y gallwn edrych arni fyddai o fudd i chi ac fe wnawn ein gorau i ymateb i'ch cais. Byddwn hefyd yn croesawu cyfraniadau gennych er mwyn bod yn gyfrwng i chi helpu eraill. Cysylltwch trwy ddanfon ebost i'r cyfeiriad sydd isod neu trwy wasgu'r botwm.