Eglwys Annibynnol Gymraeg Drefach.

Beth bynnag ydyw, gall Iesu wneud y byd o wahaniaeth.

I chi, sydd am wneud daioni a gwahaniaeth i fywyd y gwanaf a’r difreintiedig… mae gennym yr ateb i chi.

 

Yn gwneuthir daioni na ddiogwn.

 

Croeso i Gapel Seion

'Yn gwneuthur daioni na ddiogwn'

I’ch helpu i wneud daioni a gwahaniaeth i’ch bywyd chi ac i fywyd pobl eraill mae angen profiadau Cristnogol a chefnogaeth eglwys gyfoes arnoch.

Os yw ansicrwydd neu swildod yn eich rhwystro rhag cymryd y cam cyntaf yna darllenwych ymlaen.

 

Mae gan Capel Seion yr union ateb i chi.

Mae Capel Seion yn hyrwyddo Efengyl Iesu Grist i deuluoedd, plant ac oedolion ifanc yn ardal Drefach (Llanelli) a'i chyffiniau ac wedi gwneud hyn ers dros dri chan mlyned. Gwnewn wahaniaeth i fywyd bobl wrth ddilyn yr egwyddorion craidd o ofalu, parchu, grymuso a bod yn atebol wrth gadw safonau o’r radd flaenaf yn ein holl ymwneud a'r gymuned.

Oes angen eglwys ddibynadwy arnoch i gyflwyno neges yr Arglwydd Iesu Grist i chi ac i'ch teulu neu ffrindiau?  
Oes angen eglwys arnoch i dderbyn profiadau a sgiliau newydd i gyfoethogi eich bywyd a bywyd eich teulu? Gallwn eich helpu i gyflawni pob un o’r anghenion hyn.

Ffoniwch neu ebostiwch Gwyn am ymgynghoriad preifat.

 

Beth sydd gennym i gynnig.

Rydym yn cynnig cyfle i chi adnabod Iesu trwy ei wasanaethau yn y capel, yn y gymuned, ar-lein a llawer mwy. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a chwrdd lle mae pobl yn cwrdd. Heddiw, hoffwn gwrdd â chi!

Y Cyfryngau.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan annatod o’r eglwys. Mae cyfuniad o’r eglwys draddodiadol a’r cyfoes yn cyrraedd fwy o bobl nag erioed i ogoneddu Duw ac ymestyn ei deyrnas.

YN Y CAPEL

Gwasanaeth dydd Sul am 10.30yb.

Ysgol Sul am 9.30yb yn festri’r capel.. Bydd Ysgol Sul Ar-lein hefyd.

Cwrdd Plant ar ail Sul y mis - 10.30yb.

Gwasanaethau tymorol, arbennig..


Cofid l Cofid-19

Y GYMUNED

Boreon Coffi. Dydd Mercher 9.30-11.30

Cyfarfodydd cyhoeddus a mudiadau

.Ciniawau cymuned e.e Nadolig, Pasg

Gweithgaredd elusennol -Banc bwyd


Hebron l Hebron


AC AR-LEIN

Myfyrdodau YouTube, podlediadau.

Blogiau wythnosol yn syth i’ch ffon.

Cyfryngau cymdeithasol. Facebook.

Cyhoeddiadau ar ffurf electronig.


Ar-lein l Ar-lein

Buddion.

Drwy adnabod Duw cawn amddiffyniad a’n tynnu at y rhai sy'n gyfiawn. Mae adnabod Duw yn ein gwneud yn fodlon wrth gael ein harwain mewn ffyddlondeb a llawenydd.

Gwneud Gwahaniaeth.

Elusennau a gefnogwyd gennym.

Mae’r rhestr o elusennau a gefnogwyd yn tyfu bob blwyddyn.
Mae cael eich cefnogaeth yn gwneud gymaint o wahaniaeth.

Rhyfel Wcráin.

Mae eglwys Capel Seion, Drefach yn casglu arian ar gyfer ffoaduriaid a phobl sy’n byw yn yr Wcráin sy’n dioddef erchyllderau rhyfel a gormes gwlad Rwsia.

Byddwn yn casglu eich cyfraniadau yn yr eglwys ar y Sul, yn y boreau coffi neu gallwch gyflwyno’ch cyfraniadau i’r arweinwyr dosbarth neu i unrhyw un o’r diaconiaid.

Rydym yn disgwyl cyfrannu’r holl arian â gasglwyd ymhen pythefnos at DEC neu Disaster Emergency Committee ac yn cadw’r gronfa ar agor nes i ni glywed yn wahanol ganddynt.

Gweddïwn gyda’n gilydd,

Dduw pawb, braw a phryder a ddygwn ger Dy fron ymyrraeth filwrol yn yr Wcrain. Mewn byd a wnaethoch ar gyfer heddwch a ffyniant, rydym yn galaru am y defnydd o rym arfog. Rydyn ni'n galaru am bob anafedig o'r gwrthdaro hwn, pob bywyd gwerthfawr a ddiffoddwyd gan ryfel.

Gweddïwn gysur i’r rhai sy’n galaru a'r rhai ofnus. Clyw ein hiraeth bod arweinwyr a chenhedloedd bydd yn anrhydeddu gwerth pawb trwy gael y dewrder i ddatrys y gwrthdaro trwy ddeialog. Boed i'n holl fethiannau dynol gael eu trawsnewid trwy dy ryfeddol ras a'th ddaioni. Gofynnwn hyn yn enw Crist,awdwr tangnefedd a chynhaliwr y Greadigaeth.

Amen..

Mae Iesu yn aros i chi.

Credaf i Iessu farw dros fy mhechodau a chodi oddi wrth y meirw. Credaf fy mod yn berson newydd trwy ei aberth. Maddeua imi am fy mhechod a llanw fi â'th Ysbryd.

Heddiw, dewisaf dy dilyn am weddill fy oes fel Arglwydd fy mywyd.

Byddwn wrth ein bodd yn siarad â chi. Ffoniwch neu e-bostiwch heddiw.

Tystebau

Darllenwch beth sydd gan rhai aelodau i ddweud.