
Dathlu 300
Dechreuad eglwys Capel Seion yn allt Penlan Fawr tri chan mlynedd yn ôl. Cuddiau addolwyr yma yn ystod yr erledigaeth.
Hynt a Hanes
Taith yw hon. Taith sy’n orlawn o hanes tair canrif o gariad Iesu.. Dyma ddarn bach yn unig o’r bwrlwm. Dewch i greu’r rhan nesaf o hanes gyda ni. Wel, ni’n aros!
Oes aur a hindda.
Tri chan mlynedd o olau Iesu yn dangos y ffordd i bererinion y ffydd yng Nghapel Seion. Dathliad hanesyddol yr Anghydffurfwyr.
Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1712 ac fe estynnwyd yn 1814. adeiladwyd y festri gan mlynedd wedi hyn. Coed oedd gwneuthuriad y capel gwreiddiol cyn ei ailadeiladu.
Diaconiaid Capel Seion.
Stiwardio’r Achos.
Cyflwynwyr y baton o un genhedlaeth i’r llall yn y ras gyfnewid fythol i warchod buddiannau’r eglwys yng Nghapel Seion, Drefach.
Rheng flaen yr achos yng Nghapel Seion yw’r diaconiaid a diolchwn iddynt am ei llafur o drysor na allwn ei golli o wead cymdeithas mewn cyfnod sydd mor ansicr.
Gary Anderson
Oes oer a garw.
Cyfnod mwy ansicr efallai ond er garwed y tywydd mae eglwys Iesu yn dal yn ddylanwad pwysig ym mywydau ei dilynwyr.
Tynnwyd y llun yma gan arweinydd y gan, Gary Anderson. Mae Gary a’r teulu yn aelodau yng Nghapel Seion ac yn byw tafliad carreg o’r capel.
Capel Seion.
Galeri o luniau 2020
Gradd II * (dwy seren) - adeiladau arbennig o bwysig o fwy na diddordeb arbennig. Mae'r rhain yn cyfrif am oddeutu saith y cant o gyfanswm nifer yr adeiladau rhestredig yng Nghymru.













O allt Penlan a’i chuddfan, i dderwen falch a’i chytgan
Bu’n rhaid i’r addolwyr cynnar gyfarfod i addoli mewn mannau dirgel, o olwg yr awdurdodau a’u sbïwyr. Un o’r lleoedd hyn oedd yn allt Penlan Fawr; roedd ehangder y caeau a’r llethrau o gwmpas yn ei gwneud hi’n hawdd i weld perygl oddi wrth yr awdurdodau, a chael cyfle i ffoi.
Ar ddiwedd cyfnod yr erledigaeth symudodd y ffyddloniaid i addoli dan goeden dderwen ar dir fferm Clôs Isa, ar lan afon Gwendraeth Fawr. Bydden nhw’n gallu cuddio dan ei changau deiliog am gyfnod helaeth o’r flwyddyn heb dynnu sylw’r awdurdodau.

Yma o hyd.
Cychwynnodd yr achos yng nghapel Pant-Teg ger y Felin Wen, Caerfyrddin cyn i griw o'r aelodau ddechrau addoli ger yr hen goeden dderw. Arweiniodd hyn tuag at adeiladu Capel Seion ym 1712.

Dilyn yr arad.
Criw o bobl ifanc Capel Seion yn paratoi rhedeg y ffordd o Phanteg i Gapel Seion gan ddilyn ôl troed ein cyndeidiau wrth iddynt blannu’r eglwys ymneilltuol gyntaf rhwng ardal lofaol y Gwendraeth Fawr ac ardal amaethyddol y Gwendraeth Fach yn 1712.


O’r fesen derwen a dyf.
‘Yn angof nac aed byth eu haberth hwy Ac ennyn fflam eu sêl fo’n gweddi mwy.’

Llyfryddiaeth.
Cedwir llyfryddiaeth yr Ysgol Sul gan athrawon yr Ysgol Sul.
Gair a chân.
Y Beibl
Beiblau rhoddwyd gan John ‘Y Sais’
Caneuon Ffydd
Gynt y Caniedydd :
Y Caniedydd
Caniedydd yr Ifanc
Cyhoeddiadau.
Hanes Nebo 1897 – 1997 Helen Owens
Hanes Capel Seion 1712 – 1980 Gwilym Evans
Ein Gwreiddiau Dathlu 275 mlynedd. Cyflwyniad
Adroddiadau 1940 – 1970 Rhodd Caerwen Gibbard
Y Gymdeithas Genhadol 1999 Y Cadeirydd
Llusern Ffydd 2013 Dathlu 300
Rhaglenni’r Gymanfa Ganu Cyhoeddiad blynyddol Capel Seion
Gwasanaeth.
Llyfr Gwasanaeth 1998 Ty John Penry
Llyfr Gwasanaeth 1962 Ty John Penry
Llawlyfr Gweddio Blynyddol Ty John Penry
Y Ddarlith Goffa.
Y Parcheg. Tudor Ll Jones
Yr Enw Mwyaf Mawr 1996 Tâp ac Ysgrif Parcheg. Tudor Ll Jones
Aflonyddu ar y Cysurus 2001 Tâp / Ysgrif R Alun Evans
Cynorthwyo’r Galarus 2002 Tâp / Ysgrif Dr. Rosina Davies
Y Winllan Wen 2003 Tâp / Ysgrif Parcheg. T.R.Jones
Y Christ Croeshoeliedig 2004 Yr Athro Hywel Teifi Edwards
Yr Athro Gwyn Thomas 2005 Y Parcheg Wilbur lloyd Roberts
Cenhadaeth.
Bod yn Gristion. W.E.Powell
Bod yn Ddiacon. E.S.John
Trefn Oedfaon. Geraint Tudur
Bod yn swyddog Eglwys T. Arfon Williams
Swn Seion.
Cyfres o daflenni pedwar tudalen cyhoeddwyd gan Gapel Seion rhwng 1998-2001
Cyfeiriadau.
Priod waith yr eglwys yw ei chenhadaeth Hmar Sangkhuma
Ein Hargyfwng Ein Cyfle Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Adeilad o Ddiddordeb Pensaerniol neu Hanes Arbennig Cadw
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Y Tyst: Cylchgrawn wythnosol gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Gweler llyfryddiaeth a deunydd hyfforddi ar https://annibynwyr.org