Yn gwneud daioni na ddiogwn.
Mae Iesu yn gwneud gwahaniaeth.
Mae gwneud daioni yn gwneud gwahaniaeth.
Rydym mor falch o wneud, gwneud a gwneud mwy, ein bod ni'n colli golwg ar greu ystyr - fel arfer nes ei bod hi'n rhy hwyr. Ond beth mae gwahaniaeth go iawn yn ei olygu? Lawer gwaith nid yw'n debyg i'r hyn y gallem fod wedi'i feddwl ar y pryd. Neu mae eraill yn meddwl. Rhown ein ffydd yn yr Arglwydd i'n bendithio â galluoedd a thalentau i ni wneud gwahaniaeth er budd ein teuluoedd, ffrindiau a'n cymdogion.
Mae'r adrannau a welwch isod yn cael ei paratoi ar hyn o bryd ac fe ychwanegwn ddeunydd o dan y teitlau dros y misoedd nesaf. Os ydych am i ni ymdrin a rhyw faes pwysig arall yna rhowch wybod i ni. Mae’r ebost yn y troedlyn isod.
Dechrau trwy wneud
Y Pethau Bychain.
Cofiwn am Dewi Sant a’i awydd i’w ddilynwyr wneud y pethau bychain yn enw Iesu. Fe ddechreuwn gyda’n hagwedd a cherdded yr ail filltir.
1. Dechreuwch gyda chi eich hunain yn gyntaf, yna
2. Ymestynwch allan i helpu eraill.
Dechreuwch gyda chi eich hunain yn gyntaf.
Ymestyn allan i helpu eraill.
Pan fyddwch yn gyfforddus a phwy ydych chi a’ch cyfeiriad mewn bywyd rydych yn fwy hyderus i helpu eraill yn eu bywydau nhw.
Cofiwch does dim angen gwneud pethau mawr. Mae gair o gymorth neu o gefnogaeth i rywun sydd ei angen weithiau yn werth y byd.
Beth yw’r pethau bychain yn ôl ein pobl ifanc.
Dyma ganlyniad arolwg ymhlith pobl ifanc o’r pethau bychain oedd Dewi Sant yn cyfeirio ato y dylai pob Cristion ei wneud neu aneli ato. Mae’r atebion wedi’u rhestri yn ôl y rhai mwyaf cyffredin a dderbyniwyd.
1. Helpu pobl sy’n llai ffodus.
2. Dweud diolch a bod yn ddiolchgar.
3. Rhannu ag eraill.
4. Bod yn barod i wrando.
5. Bod yn anogwr.
6. Anfon cerdyn priodol i’r anghenus
7. Agor drws i rywun.
8. Rhoi cwtsh mawr i rywun.
9. Gwneud paned i rhywun.
10. Moli’r Arglwydd â pheidio’i guddio.
11. Gwenu.
12 Bod yn gwrtais.
13. Bod yn gymwynasgar.
14. Bod yn amyneddgar.
15. Peidio gwylltio.
16. Gwasanaethu o’r galon.
17. Anfon testun cefnogol.
18. Bod yn garedig ag eraill.
19. Bod yn garedig â phlant.
20. Dangos eich cariad pawb.
21. Codi sbwriel oddi ar y llawr.
22. Rhoi sedd i'r rhai llai ffodus eistedd.
23. Dweud "os gwelwch yn dda".
24. Gwirfoddoli.
25. Dangos eich bod yn Gristion.
26. Ffonio rywun. sydd mewn angen.
Pobl yr ail filltir yw’r Cristion.
Mae’r ail filltir yn ychwanegu gwerth i’ch ymdrechion i wneud gwahaniaeth ac yn adlewyrchu eich ysbryd Cristnogol.
GWNEUD GWAHANIAETH
Fe ddylen ni garu ein gilydd
Dylem roi amser i helpu eraill
Dylem roi yn rhydd
Gwrando ar beth mae pobl yn dweud
Fe ddylen ni annog pobl
Fe ddylen ni fod yn fwy goddefgar
Fe ddylen ni weddïo dros eraill
Fe ddylen ni roi gobaith i bobl
Os nad oes gennych ateb
> A CERDDED YR AIL FILLTIR
> a pharchu ein gwahaniaethau.
> a dim disgwyl iddynt weithredu’n ôl.
> a dim disgwyl unrhyw beth yn ôl.
> a dim eu barnu.
> a'u helpu rhag iddynt ‘syrthio’.
> a helpu pobl yn eu brwydrau .
> a holi sut maen nhw'n dod ymlaen.
> a rhannu eich tystiolaeth gyda nhw.
> peidiwch ychwanegu at y broblem.
Dyma enghreifftiau o fudiadau sydd yn gwneud gwahaniaeth.
Cymru Fyw l. Addysg Cymru l. Awyr eich golwg l. Iechyd Cymru