Cyhoeddiadau.

Cyhoeddiadau Capel Seion. Cedwir pob hawl ar eu cynnwys.

Dewiswch pa gyhoeddiad rydych am ddarllen o’r carwsel isod. Cewch fwy o fanylion yn y darnau sy’n canlyn.

Mwy o wybodaeth yn yr adrannau.

 

Pethau.

Mae Gair Duw cylchgrawn Capel Seion wedi cyrraedd cannoedd o ddarllenwyr ers sefydlu’r rhifyn cyntaf yn haf 2021.

Ysgrifennwyd er mwyn i bob erthygl fedri ei ddarllen yn hawdd dros rhyw 4 munud. Os oes rhywbeth rydych am i ni drafod yn Pethau yna rhowch wybod. Mae rhifyn 1 a 2 uchod ac yn paratoi at rifyn haf 2022 yn barod.

 

Cylch.

Fe wnaeth yr eglwys fore ffurfio patrwm o addoli hyd ar y drydedd ganrif ac wedi hynny patrwm torfol mewn adeiladau oedd natur ein haddoli.

Tybed mai hyn yw’r ateb i ni heddiw, priodi’r ddau fath o addoli? I ryw raddau mae cyfarfodydd hithiol wedi llwyddo ymestyn i gartrefi ein haelodau a ffrindiau i’r achos.

Chwiorydd.

Y Chwiorydd yw cymuned menywod ein heglwys yng Nghapel Seion, sydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ac anogaeth i bob menyw sy'n ymuno a’r grŵp.

Mae’r Chwiorydd yn cwrdd yn Canolfan Hebron yn y pentref neu yn y capel yn fisol trwy gydol misoedd yr hydref a'r gaeaf

 

Yr Ysgol Sul.

Mae rhaglen Ysgol Sul Capel Seion yn cynnig profiad Ysgol Sul i blant oed ysgol rhwng 09:30 ac 10:30 bob bore Sul. Mae'r dosbarthiadau'n cwrdd yn festri Capel Seion, Drefach ac yn ogystal â'r Ysgol Sul, mae'r eglwys yn cynnig amrywiaeth o raglenni a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i deuluoedd â phlant ifanc a phlant oed ysgol uwchradd.

Gwneud Gwahaniaeth.

Mae gwneud gwahaniaeth yn y gyfres yma yn delio a phroblemau iechyd meddwl. Mae’r profiadau yma yn effeithio bron i un ym mhob pedwar ohonom ac er syndod yn achosi gofid mawr i bobl ifanc hefyd.

Yn y llyfryn yma cawn olwg ar brofedigaeth, unigrwydd, gorbryder ac iselder ysbryd i ddechrau ac rydym yn gobeithio ychwanegi ar y wybodaeth yn ein diweddariadau blynyddol.

Os oes unrhyw sylw gennych yna fe fyddwn yn falch eu derbyn er mwyn parhau i wella’r cynnwys a’u gwneud yn gymorth mawr i ddefnyddwyr ein safle.

 

Cerddwn Ymlaen.

Fe ewn ni ddim i un lle heb fentro. Ond bydd mentro llwyddiannus yn dibynu ar baratoi yn dda. Mae na gyflwr o or-baratoi heb ddechrau camu ‘mlaen ac arbrofi yn bod ac rydym yn at risg o syrthio i’r cyflwr yma yn yr eglwys heddiw.

Cynnig sydd yn y cyhoeddiad yma i symud ymlaen a’r eglwys ar-lein a chreu cyhoeddiadau diddorol a phwrpasol.

Rhifynnau Pethau i chi bori drwyddynt. Mwynhewch!

Rifyn yr Haf. Mwynhewch!

Pethau Gaeaf 22

〰️

Pethau Gaeaf 22 〰️

Ôl-rifynnau

Cyfrol 2 Rhif 1 Haf2022

Cyfrol 2 Rhif 2 Gaeaf 2022

Cyfrol 1 Rhif 1 Gaeaf 2021

Cyfrol 1 Rhif 1 Haf 2021