Y Porth
Mynediad i ddeffroad ysbrydol.
Ffordd o fyw a byw i ddysgu.
Y Porth yw rhaglen Capel Seion ar gyfer cynllun Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 2020.
Cenhadaeth Y Porth
Ein cenhadaeth yw ddyfnhau ein perthnas â Duw a'n gilydd, tyfu mewn cariad a gwybodaeth am Dduw a dysgu'r ffordd orau i gefnogi ein gilydd yn yr eglwys.
Gweledigaeth Y Porth
I helpu plant, ieuenctid ac oedolion i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.
Mae’r Porth yn gynllun gwbl arloesol sy’n ymateb i gais Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i’w aelodau datblygu rhaglen sy’n hyrwyddo’r Efengyl a gwasanaethu eu cymunedau.
Rhennir cynllun y Porth i ddwy brif adran sef, y Ffordd o Fyw neu weithgareddau er mwyn gwasanaethu’r gymuned a Byw i Ddysgu sef ffyrdd arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl, cyrsiau a hyfforddiant. Mae’r ddwy adran wedi eu rhannu i dri phrif faes yr un a phob maes wedi eu rhannu i feysydd trafod. Daw’r pynciau ar gyfer meysydd trafod i’r wyneb drwy holi ac asesu anghenion ein haelodau. Bydd nifer o eitemau yn codi o’r meysydd trafod ac fe fydd y tîm golygyddol yn paratoi deunydd ar ffurf erthyglau, podlediadau, lluniau a blogiau ar eu cyfer.
Er mwyn ein helpu i weld newid yn ein cymuned leol, mae canlyniadau ein cyfnod o holi yn cynnwys paratoi cyrsiau i helpu gyda chymorth priodas, iselder ysbryd, profedigaeth, buddsoddi yn natblygiad arweinwyr a gweithio gyda mudiadau gwirfoddol ac elusennau lleol. Mae’n haelodau yn cymryd rhan trwy gynnig eu sgiliau, eu hamser, eu rhoddion a'u gweddïau i gefnogi popeth yr ydym yn ei wneud i gyrraedd ein gweledigaeth.
Mwy am Y Porth
Hoffech chi wybod mwy am gynllun Y Porth? Pwyswch ar y botwm am y Ffordd o fyw a Byw i Ddysgu.
Diolch.
Hoffwn ddiolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am ymddiried ynom fel eglwys i gydweithio ar brosiect arloesol i hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl ac estyn allan a gwasanaethu’r gymuned. Bum yn llwyddiannus yn ein cais i ariannu swyddog am ddau ddiwrnod yr wythnos am bum mlynedd i redeg prosiect y Porth ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Undeb a phartneriaid eraill yn y dyfodol agos. Mae aelodaeth i’r Porth yn ein caniatáu i bori drwy’r safle i gael gwell amcan o beth yw’r prosiect. Bydd y Porth y tyfu o wythnos i wythnos wrth i ni baratoi deunydd sy’n berthnasol i’r isadrannau ac yn esblygu’n naturiol wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddi.