Dysgu am Iesu.
Mae 'na gymaint o gyfleon.
Ymunwch â'r Ysgol Sul
Mae croeso i rieni a phlant
i ddysgu am Iesu gyda'i gilydd.
Ysgol Sul Capel Seion.
Cymerwch y cam nesaf.
“Gadewch i'r plant bach ddod ataf; peidiwch â'u hatal; oherwydd i'r rhai hyn y mae teyrnas Dduw yn perthyn. ”
Marc 10:14
Hoffem eich gwahodd i gymryd y cam nesaf trwy ymweld a chofrestru yn yr Yysgol Sul. Mae mynychu'r Ysgol Sul yn helpu i ddatblygu perthnasoedd personol gyda chyd-aelodau a gweinidogaethu i'w gilydd ac estyn allan at y rhai sydd angen cymorth.
E-bostiwch i wneud ymholiadau pellach ac fe geisiwn ateb eich cwestiynau ac fe ddanfonwn fwy o wybodaeth atoch am weithgareddau'r Ysgol Sul, a llawer mwy.
Llawlyfr yr Ysgol Sul. Cliciwch ar y llun i gael mynediad.
Ein gobaith yw…
Bod pob un o'n plant yn cael mewnwelediad newydd i gariad Iesu mewn ffordd y mae'nt yn teimlo awydd dwfn i rannu'r cariad hwnnw â'u ffrindiau. Dyma'r llwybr o wneud disgyblion.
Dyw hi ddim yn hawdd i rieni heddiw i geisio dod i’r Ysgol Sul. Rydym felly rydym yn darparu gweithgaredd i blant ar-lein. Byddwn yn ychwanegi at yr arlwy dros y flwyddyn a ganlyn. Beth am ddod i’r Ysgol Sul ac ymuno ar-lein.
Ysgol Sul gyda’n gilydd neu ar-lein.
Beth mae’r Ysgol Sul yn cynnig?
Mae'r eglwys yn cynnig amrywiaeth o raglenni a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i deuluoedd â phlant ifanc a phlant oed ysgol uwchradd. Mae gennym gwrdd plant, sef oedfa arbennig i'r plant yn y capel ei hun a lle canolog yn ein Gymanfa Ganu Sul y Blodau.
Adran yr Ysgol Sul.
Tyfu gyda Iesu: Plant dan 7 mlwydd oed.
Dysgu gyda Iesu: Plant 7-11 mlwydd oed.
Ymunwch â ni.
Gyda’n gilydd. Ysgol Sul Capel Seion. SA14 7BW
Cynhelir yr Ysgol Sul bob bore Sul am 9.30yb yn festri’r Capel Seion yn Nrefach, Llanelli. Tanysgrifiwch i gael y newyddion diweddaraf.
Dyw hi ddim yn hawdd i rieni heddiw i geisio dod i’r Ysgol Sul. Rydym felly rydym yn darparu gweithgaredd i blant ar-lein yn ogystal a’r Ysgol Sul arferol. Byddwn yn ychwanegi at yr arlwy dros y flwyddyn a ganlyn.
Adran Ar-lein.
Tyfu gyda Iesu: Plant dan 7 mlwydd oed.
Dysgu gyda Iesu: Plant 7-11 mlwydd oed.
Tyfu gyda Iesu.
Cyfnod Allweddol 1.
Plant dan 7 mlwydd oed.
Y Galeri yw’r lle y byddwn yn llwytho gwaith y plant er mwyn ei arddangos. Dyma’r lle byddwn hefyd yn cyhoeddi canlyniadau ein cystadlaethau hefyd. Pwyswch ar y llun i gael mynediad.
Dysgu gyda Iesu
Cyfnod Allweddol 2.
Plant 7-11 mlwydd oed.
Storïau o Feibl y Plant.
Pryd a Ble.
Mae’r Ysgol Sul yn cwrdd bob bore Sul am 9.30yb yn festri Capel Seion, Drefach. Bydd modd i rieni sefyll os mynnant neu gasglu’r plant am 10.30 cyn oedfa’r capel.
Cynhelir Cwrdd Plant ar ail Sul o'r mis drwy'r flwyddyn a thrip y plant bob blwyddyn yn yr haf.
Cysylltwch â ni dros y ffôn neu ebost am fwy o wybodaeth.
Mae’r manylion i chi gysylltu â ni yn y troedyn isod.
‘‘Bydd y plant yn mwynhau dysgu mewn awyrgylch gynnes a chartrefol.’’
Beth mae pobl yn ei ddweud.
“Mae'r plant i gyd wedi mynychu Ysgol Sul Capel Seion a'r wyron hefyd yn ei tro. Testun diolch sydd gennym fel teulu am ddylanwad yr Ysgol Sul ac arweiniad yr athrawon yn ei bywydau ”
— Ann Griffiths
“Mae Cadno yn dair a hanner ac rwy'n awyddus iddi ymuno â’r Ysgol Sul. Mae gennyf gof o gyfnod arbennig o’r Ysgol Sul a diolchaf i'm hathrawon am addysg glodwiw am gariad Iesu”
— Ffion Flockhart
“Dechreuais yn yr Ysgol Sul ac yn fy arddegau bum yn aelod o Ieuenctid Capel Seion. Heddiw rwy'n aelod o rengoedd addolwyr y Sul ac yn dal i ddweud fy ngweddïau a'm hadnodau.”