Crist yn y Canol

Gwasanaethu’r gymuned, gofalu am ein gilydd a’r byd o’n hamgylch.

Mae eglwys Capel Seion wedi ei galw gan Dduw, wed’i hyfforddi’n broffesiynol ac yn ddiwinyddol i ddefnyddio egwyddorion datblygu cymunedol i ymateb i’r materion sy’n wynebu ei cymdogaethau, a’u herio. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o unigolion, grwpiau a sefydliadau, gan ddatblygu mentrau a phrosiectau i gefnogi unigolion a’i teuluoedd, eglwysi a chymunedau’r dalgylch i ‘godi’r pwysau’.

Mae Capel Seion yn rhannu’r un weledigaeth â Bethesda, Y Tymbl, Nasareth, Pontiets, sydd yr un weledigaeth ag eglwysi eraill Cwm Gwendraeth.

Mae’r eglwysi, yn y modd yma yn gallu ehangu eu cenhadaeth trwy nodi anghenion a chyfleoedd lleol, wynebu anghyfiawnder, trefnu gweithredu cymunedol, datblygu a chefnogi mentrau sy’n gwella bywydau a lles leol, a myfyrio’n ddiwinyddol ar y weithred honno.