Bywyd y Cristion.
“Mae’r bywyd Cristnogol fel gornest yn y mabolgampau, a rhaid i ti ymdrechu i ennill. Bywyd tragwyddol ydy’r wobr.” Timotheus 6:12
Fe glywa i’r cwestiwn yn aml – sut mae byw fel Cristion?
Mae dyletswydd a bywyd y Cristion yn dod o dan o leiaf ddau bennawd.
1. Y cysylltiad â’i gyd Gristnogion.
Ein dull ni o dderbyn un yn aelod yw estyn iddo ‘Ddeheulaw Cymdeithas’. Ystyr hyn yw fod y gweinidog, yn enw’r eglwys, yn estyn ei law dde i’r aelod newydd ac yn ei groesawu mewn i’r gymdeithas.
Dyletswydd gyntaf pob aelod yw bod yn ffyddlon i gyfarfodydd a gwaith y gymdeithas – mae angen ein hatgoffa o hyn ar ôl y cyfnod covid. Peth hawdd yw stopio dod, peth llawer anoddach yw ail gychwyn.
Rhaid bod yn ffyddlon i’r capel a meithrin ysbryd da a chariad at ein gilydd. Dyna oedd yn nodweddiadol am yr Eglwys Fore – “Gwelwch fel y mae y Cristnogion yn caru eu gilydd.” Y gair y bydda i yn hoffi ddefnyddio amdanom yw ‘teulu’. Yn union fel y mae cariad a ffyddlondeb yn ein cartrefi rhaid cael hyn yn nheulu’r eglwys hefyd. Uwchben y drws mewn un eglwys mae’r geiriau “Pa fath eglwys fyddai’n heglwys ni pe bai pob aelod yr un fath a fi?”
Geiriau gwych i wneud i bob un ohonom ystyried ein cyfraniad.
2. Y cysylltiad â’r byd.
Mae stori yn yr Hen Destament am bedwar gwahanglwyfus yn byw tu allan i ddinas Samaria. Yr oedd pobl y ddinas yn taflu ychydig fwyd iddynt dros y mur ac ar hynny roedd y pedwar yn byw. Daeth byddin Syria a gosod gwarchae ar y ddinas ac o ganlyniad ni chai’r pedwar fwyd. Dyma nhw’n cynnal pwyllgor a phenderfynu mynd i ofyn i frenin Syria am fwyd ond pan ddaethant i wersyll y Syriaid doedd neb yno. Roedd y Syriaid wedi clywed swn rhyfedd yn ystod y nos ac yr oeddynt wedi ffoi gan adael popeth ar ôl yn eu pebyll – bwyd, dillad ac aur. Pan welodd y pedwar dyn claf yr holl gyfoeth bu bron iddynt lewygu o lawenydd. Dyma fwyta yn dda, gwisgo dillad newydd a phocedu’r aur a’r arian.
Ond yng nghanol hyn oll mi ddywedodd un ohonynt “Nid ydym yn gwneuthur yn iawn.”
Yr oeddynt hwy uwchben eu digon tra roedd gwragedd a phlant yn marw o newyn yn y ddinas – pobl oedd wedi bod yn eu helpu. Gadawsant y cwbl a mynd ar eu hunion i rannu’r newyddion da gyda trigolion y ddinas.
Rhaid i ninnau gofio eraill, cofio y rhai sy’n newynnu ac yn dioddef a rhannu gyda hwy. Yn ogystal a hynny rhaid i ni, fel Cristnogion, rannu yr Efengyl â phawb hefyd.
Mae a wnelo ein ffordd ni o fyw fel Cristnogion â byd gwaith a diwydiant. Nid rhywbeth i’r capel ac i’r dydd Sul yn unig ydyw. Byddwn yn rhoi ein dillad gorau amdanom ar y Sul ac yna eu tynnu a’u cadw hyd y Sul canlynol. Gofalwn beidio gwneud hynny â’n ffordd ni o fyw.
Y mae yna lawer o broblemau mawr yn ein byd heddiw – rhyfel, newyn, ffoaduriaid, tlodi a dioddef. Ond beth allwn ni wneud?
Mae’n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud beth allwn ynglyn â chwestiynau’r dydd a pheidio claddu ein pennau yn y tywod, fel yr estrys.
Nid yw yr eglwys yn sefyll yn ei hunfan chwaith, rhaid iddi symud yn gyson. Mae’n byd ni wedi mynd mor fychan erbyn hyn fel bod problemau Syria a gwledydd felly sydd ymhell oddi wrthym wedi dod yn hynod o agos atom. Cofiwch, fel aelodau o Eglwys Iesu Grist, ein bod yn perthyn i un o’r cymdeithasau sy’n ceisio gwneud eu gorau dros ddioddefwyr y byd a’n cenhadaeth yw i helpu rhai llai ffodus na ni.
Mae yna hen stori am lenor enwog o’r cyfnod lle nad oedd goleuadau stryd trydan wedi eu darganfod.
Yr oedd y llenor yn sefyll un min nos ar fryn ger dinas Caerdein ac yn edrych i lawr ar y ddinas yn araf gilio o dan fantell y nos. Prin y gallai weld yr adeiladau ac yr oedd am aros yno nes y methai weld dim. Ond ni ddigwyddodd hynny oherwydd daeth y dyn oedd yn goleuo y lampau nwy at ei waith. Yr hyn a welodd y llenor oedd y naill lamp yn cael ei goleuo ar ôl y llall nes bod pob stryd yn llawn o sêr golau.
Y mae hyn yn ddameg o neges yr Eglwys Gristnogol.
Swydd yr Eglwys a’r Cristion yw cynnau lamp ar ôl lamp ar hyd strydoedd y byd a gwneud yn siwr na fydd y tywyllwch byth yn ennill.
“Beth sy’n bwysig ydy’r hyn ydych chi’r tu mewn – y math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel.” 1 Pedr 3:4