Cadw ffocws
Cadw ffocws mewn byd sy’n ein tynnu i bob cyfeiriad.
Rydym yn byw mewn oes o orlwytho gwybodaeth. Bob dydd, cawn ein bomio â newyddion brys, barnu’n llym, a phenawdau dramatig. Mae ein ffonau’n seinio’n gyson gydag hysbysiadau, negeseuon, a diweddariadau – llawer ohonynt yn peri pryder, dryswch, neu hyd yn oed anobaith.
Ac eto, yng nghanol yr anhrefn hwn, cawn ein galw i rywbeth hollol wahanol: tangnefedd. Casn ein galw i fod yn bobl o oleuni, eglurder a chariad mewn byd sy’n llawn dryswch ac ofn. Mae geiriau Hebreaid 12:2 yn atseinio’n glir:
“Gan gadw ein golygon ar Iesu, awdur a pherffeithydd ein ffydd.”
Ond sut mae gwneud hynny’n ymarferol, pan mae popeth o’n cwmpas yn tynnu ein sylw i gymaint o gyfeiriadau?
Un ateb yw sut i ni’n cyfathrebu. Er y gall dulliau cyfathrebu modern—cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, fideos, apiau negeseuon—gael eu defnyddio i wasgaru gwybodaeth gamarweiniol a chreu rhaniad, maent hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd, pwerus i ledaenu neges Iesu.
Yn lle ofni technoleg, gallwn ei defnyddio i ailganolbwyntio pobl ar Grist. Gall neges syml o galondid, fideo byr, neu weddi a rennir ar-lein gyrraedd calon rhywun ar yr ymyl. Gall ein geiriau—ar lafar neu’n ddigidol—ddod â goleuni yn y tywyllwch.
Yn ein heglwys, gallwn ddefnyddio dulliau newydd i gysylltu nid fel ffasiwn, ond fel cenhadaeth. Defnyddiodd yr Eglwys Fore bob arf a oedd ar gael iddynt—geiriau, llythyrau, symbolau—i rannu’r efengyl. Roedd Iesu ei hun yn defnyddio straeon pob dydd a delweddau cyfarwydd i ddysgu gwirioneddau tragwyddol.
Ond wrth estyn allan, rhaid inni hefyd edrych i mewn. Nid yw cyfathrebu’n effeithiol oni bai ei fod yn tarddu o galon dawel, sydd wedi’i wreiddio yn Iesu. Rhaid inni oedi. Anadlu. Ailfeddwl.
Ydy ni’n gadael i’r byd lunio’n gobaith yn fwy na’r efengyl?
Ydy ni’n caniatáu i ddadleuon ein rhwygo yn hytrach na’n uno mewn gras?
Ydy ni’n bwydo’n calonau ar negyddiaeth yn hytrach na geiriau Iesu?
Gallwn ddim reoli cyflymder na phoen y byd, ond gallwn reoli ein ffocws. Boed i ni fod yn gymuned sy’n dewis clywed llais Duw bob dydd. Gadewch i’w Air fod y dylanwad cryfaf ar ein bywydau. Bydded i’r hyn a ddywedwn—ar-lein ac wyneb yn wyneb—adrodd stori sy’n dangos gobaith, gras a gwirionedd.
Dywed Iesu yn Mathew 5:14–16, “Chi yw goleuni’r byd... boed i’ch goleuni lewyrchu o flaen pobl fel y cânt weld eich gweithredoedd da a gogoneddu eich Tad sydd yn y nefoedd.” Mae gan ein geiriau a’n gweithredoedd bwrpas. Gallant ddisgleirio neu ddirywio. Gallant dawelu dryswch neu ei waethygu.
Felly yr wythnos hon, gadewch i ni gyfathrebu’n ddoeth. Defnyddiwch bob arf sydd gennych i ledaenu gobaith a chadw ein golygon ar Iesu.
Yn y distawrwydd rhwng y sŵn, mae ei lais yn fain ond yn eglur: “Tawelwch. Byddwch yn llonydd. Dilynwch Fi.”