Caethwasiaeth Fodern

 
Mewn byd lle mae teithio rhyngwladol yn beth cyffredin, mae caethwasiaeth fodern yn broblem fyd-eang. Ond mae'n anodd dod o hyd i ystadegau cywir gan fod cymaint o bobl gaeth yn gudd neu'n anweledig. Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys sawl agwedd - masnachu mewn pobl, cam-drin rhywiol, camfanteisio ar lafur ac yn y blaen.
Gweledigaeth Duw, trwy Iesu Grist, yw byd lle mae bodau dynol yn byw mewn cytgord a chariad, gan barchu ei gilydd a chefnogi ei gilydd. 
Mae Genesis yn dweud wrthym fod bodau dynol yn cael eu gwneud ar ddelw Duw (Genesis 1.26-27). Mae Duw yn gwerthfawrogi ac yn caru pob person yn gyfartal. Mae hyn yn golygu na ddylem ecsbloetio bodau dynol eraill fel eiddo na'u trin fel nwyddau.Dywed Iesu wrthym: carwch eich cymydog fel chi'ch hun (Marc 12.31). Haws dweud na gwneud! Dy'n ni ddim yn rhan uniongyrchol o gaethwasiaeth fodern, ond efallai y byddwn yn cyfrannu at ddiwylliant sy'n gweld bodau dynol fel nwyddau. D'yw caethwasiaeth fodern ddim yn digwydd mewn gwagle, mae'n rhan o ddiwylliant ecsbloetiol lle mae tlodi, anghydraddoldeb, gormes ac ofn i gyd yn chwarae eu rhan.
Mae llawer o gaethwasiaeth fodern yn cynnwys camfanteisio ar fenywod, dynion a phlant am ryw. Mae gan stori Maya lawer o elfennau nodweddiadol:
Unwaith y deuthum i Mumbai, fe werthodd y dalal fi i malik [bos puteindy] yn Kamathipura. Dywedodd y malik wrthyf fod arnaf dri deg pum mil o rupees iddo a rhaid imi gael rhyw gydag unrhyw ddyn sy'n fy newis nes i'r ddyled hon gael ei had-dalu. Gwrthodais, a threisiodd ei ddynion fi ac ni wnaethant fy mwydo ... Rhoddodd y malik past tsili ar goes brwsh a'i wthio y tu mewn i mi. Yna torrodd fy asennau gyda'i ddwrn.
Mae camfanteisio ar lafur person hefyd yn groes i fwriad Duw ar gyfer y byd. Dyma hanes un dyn.
Un diwrnod daeth grŵp o ddynion i a dweud eu bod eisiau rhai pobl gref ar gyfer llafur achlysurol. Dywedodd y pennaeth ei fod am roi gwaith i mi ac roeddwn i'n falch iawn. 
Ond byddai'r pennaeth yn ein gosod i weithio a dweud wrthym fod yn rhaid i ni gyflawni'r swydd erbyn amser penodol. Doedden ni ddim i siarad ag unrhyw un na siarad am y swydd. Roedd yn rhaid i ni weithio nes iddi nosi a chysgu mewn garej.
Cymerodd y bos yr holl arian parod a rhoi dim i ni heblaw ychydig o fwyd a sigaréts. Pan geisiais ofyn i ddeiliad tŷ am fwyd a diod cefais fy nghuro gan y bos. A nawr rydw i ymhell o fy nghartref a does gen i unman arall i fynd.
 Mae Eseia yn dangos gweledigaeth Duw ar gyfer dynoliaeth ym mhennod 65 -

"Byddan nhw'n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth.

Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi'u dewis  yn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo.

Fyddan nhw ddim yn gweithio'n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i'w colli. Byddan nhw'n bobl wedi'u bendithio gan yr ARGLWYDD, a'u plant gyda nhw hefyd."

 

Pwy yw fy nghymydog?

Mae Iesu’n adrodd dameg y Samariad Trugarog i ddysgu eraill am sut i fod yn gymydog, hyd yn oed tuag at bobl sy’n wahanol i ni ac sydd angen ein help. Yn un o'i areithiau, rhoddodd Martin Luther King ei fys ar un o faterion dadleuol y ddameg - ein hofn dwfn ein hunain o ganlyniadau ymateb:
Y cwestiwn cyntaf a ofynnodd y Lefiad oedd, 'Os byddaf yn stopio i helpu'r dyn hwn, beth fydd yn digwydd i mi?' Ond yna daeth y Samariad Trugarog heibio, a gwrthdroi'r cwestiwn: ' Os na fyddaf yn stopio i helpu'r dyn hwn, beth fydd yn digwydd iddo?

Gwyrdroi'r cwestiwn yw’r unig ffordd i ateb cwestiwn Iesu ‘pwy yw fy nghymydog?’ Ein cymydog yw’r ferch o Ddwyrain Ewrop sy’n dod i weithio fel ysgrifennydd, dim ond i gael ei defnyddio ar gyfer rhyw yn y pen draw. Ein cymydog yw'r bachgen Somalaidd sy'n cael ei werthu i gylch pedoffeil. Ein cymydog yw'r dyn digartref sy'n cael ei orfodi i weithio ar fferm heb unrhyw dâl. Mae'r bobl hyn i gyd yn cael eu caru gan Dduw.

 

Flynyddoedd lawer yn ôl roedd pobl yn deall bod yr eglwys yn lle diogel ac roeddynt yn ymddiried yn y gweinidog a chymuned yr eglwys i'w hamddiffyn.
Dylai pob Cristion chwarae ei ran yn ei gwneud hi'n hysbys bod yr Eglwys yn dal i fod yn noddfa, lle gellir helpu pobl heb osod amodau arnynt. Rhaid i Gristnogion gadw eu haddewidion i'r rhai sy'n agored i niwed a'r rhai mewn angen.

 

Mae dyletswydd ar bob un ohonom i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern. Mae angen inni addysgu eraill ynghylch pam mae caethwasiaeth fodern yn drosedd, nid yn unig yn erbyn ein cymunedau, ond hefyd yn erbyn dymuniad Duw i ddynoliaeth. 
 
Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Pan fydd Duw yn dawel

Next
Next

Gweddïo