Cariad.

Mae yna 3 math gwahanol o gariad yn y Beibl – eros, sef cariad rhamantus; philos sef cariad brawdol, cariad at ffrindiau a theulu ac yn drydydd agape - cariad aberthol, cariad sy’n rhoi heb ddisgwyl dim yn ôl. Agape yw’r math o gariad mae Duw yn ddangos tuag aton ni.

 

Yn sicr mae pawb angen cariad yn eu bywydau! Does neb angen llai o gariad – mwy o gariad sydd ei eisiau arnon ni! Mae gan Dduw ddrws agored bob amser ac mae’n barod i dywallt ei gariad ar bob un sy’n troi ato. Dyma adnodau o Luc 11: 9-10:

“Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn; pawb sy'n chwilio yn cael; ac mae'r drws yn cael ei agor i bawb sy'n curo.”

 

Mae Duw bob amser yn cadw ein cyfrinachau. Os oes ganddon ni broblem – gallwn droi at Dduw; os ydyn ni’n poeni ac yn methu cysgu – pam na wnawn ni weddïo? Os ydyn ni’n ofni rhannu gydag eraill, yna mae gan Dduw glust sy’n barod i wrando bob amser. Mae’r Beibl yn dweud nad yw Duw’n cysgu, felly mae e ar gael bob awr o’r dydd. Mae tad da ar y ddaear yn barod i helpu ei blant, ond mae Duw yn dad perffaith. Gwrandewch unwaith eto ar yr adnod,

Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi'i ddangos aton ni!

Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw!”

 

Mae pob un sy’n credu yn Iesu Grist yn derbyn y fraint anhygoel o gael bod yn blant i Dduw. Caru Duw ydy’r gorchymyn pwysicaf yn y Beibl, ac yn ail iddo mae’r gorchymyn i garu ein gilydd.

“Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl feddwl ac â’th holl nerth’. A’r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.”

Mae cariad mor sylfaenol. Mae’r Beibl yn adrodd hanes cariad Duw tuag at ei bobl; cariad ei bobl tuag ato Ef, a chariad Cristnogion tuag at ei gilydd. Rydyn ni i gyd yn methu weithiau. Yn y Beibl mae yna hanesion lu o bobl Dduw yn troi cefn arno Ef ac ar ei gilydd. Ond, nid yw Duw ei hun byth yn methu. Mae ei eiriau yn sicrach na’r mynyddoedd. Yn yr hen ddyddiau, yr adnod gyntaf roedd plant yn ddysgu oedd, ‘Duw, cariad yw.’

 

“Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad!”

Dyma adnod bwysig. Mae Duw eisiau perthynas gyda ni. Mae Duw yn ein caru ni ac mae Duw eisiau i ni ei garu Ef. Ond, mae e hefyd eisiau i ni garu’n gilydd sydd ddim bob amser yn hawdd! Mae cariad yn fwy na rhoi rhosod cochion yn anrheg i rywun unwaith y flwyddyn. Mae cariad Duw yn gariad gweithredol – yn gariad sy’n gwneud pethau, e.e. anfonodd ei unig fab i’r byd. Mae cariad tad a mam da, yn gariad gweithredol hefyd – maen nhw’n dangos eu cariad wrth weithio i dalu biliau, wrth olchi dillad, wrth smwddio, wrth roi cusan, wrth helpu, wrth gysuro – mae rhieni da yn dangos eu cariad drwy yr hyn maen nhw’n wneud.

Drwy ei Air yn y Beibl mae Duw’n gofyn i ni ddangos ein cariad wrth helpu ein gilydd a helpu eraill.

 

Nid yw Duw’n gofyn am ein holl amser, na’n holl arian - ond mae e’n gofyn am rywfaint o’r ddau. Os oes ganddon ni arian ac eiddo, ac yn gwrthod helpu eraill mae’r Beibl yn glir nad yw cariad Duw ynon ni.

Mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3: 16.)

Oherwydd bod cariad Duw mor fawr aton ni, fe ddylen ni wedyn ddangos cariad tuag at eraill. Gobeithio yn wir y byddwn ni’n cofio’r adnodau yma yn ystod ein bywydau.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Ein Athrawiaeth.

Next
Next

Cadwraeth.