Cwmpawd i’r enaid.
Dawnsiodd y flamau yn yr awyr oer, gan daflu golau a chysgodion ar wyneb rhychlyd y dyn digartref.
Neshaodd at y tân, ac ymestynodd allan, gan geisio’r cynhesrwydd oedd yn gwanhau pob munud. Wrth i'r fflamau bylu, felly hefyd ei obaith, ac yn nhawelwch y nos, dechreuodd ymddiddan ag ef ei hun.
"Pam, oh pam y daeth i hyn?" mwmialodd, ei lais yn cario pwysau gofid. “Diflannodd fy musnes i’r lludw, yn union fel y tân marw hwn.”
Syllodd i weddillion y tan, wrth i atgofion o amseroedd gwell ddod i'r cof. "Cefais fy nallu gan lwyddiant a boddi yn fy uchelgais fy hun. A nawr, dyma fi, wedi fy ngadael ac yn unig."
Sibrydodd y gwynt drwy'r strydoedd gwag, atgof dirdynnol o'i unigedd. Cwympodd ei stumog, atgof o'i ddyddiau gwag. "Dau ddiwrnod heb fwyd, a'r eglwys ... efallai y gallen nhw helpu. Ond sut ydw i hyd yn oed yn dechrau?"
Wrth iddo fyfyrio, canodd cloch eglwys bell, gan atseinio trwy'r tywyllwch oer. Sbardunodd rhaeadr o feddyliau, atgofion o'r Suliau a dreuliwyd yn y capel, wedi'u hamgylchynu gan gymuned o ffrindiau.
"Y capel, lle noddfa," meddyliai yn uchel. "Ond fydden nhw'n croesawu rhywun fel fi heddiw?"
Daeth pang o euogrwydd i’w galon wrth iddo gofio’r teulu oedd wedi’i golli. "Rhwygodd alcohol fy nheulu. Llithrodd y gwerthoedd a oedd unwaith yn annwyl gennyf, trwy fy mysedd. A all yr eglwys gynnig ail gyfle i mi tybed?"
Edrychodd tua'r nefoedd, fel pe bai’n disgwyl ateb gan allu uwch. "Arglwydd, os wyt yn gwrando, arwain fi. Collais y ffordd, a'r tân hwn yw fy unig gwmni bellach."
Roedd yr eglwys, yn ffagl gobaith yn ei atgofion, yn galw amdano. "Rwy'n cofio'r gweinidog yn pregethu am dosturi a maddeuant. A allai'r eglwys estyn llaw i rywun sydd wedi cwympo fel hyn?"
Fflachiodd ei lygaid gyda sbarc o benderfyniad. "Efallai ei bod hi'n bryd i mi geisio cymorth. Dysgeidiaeth maddeuant ac elusengarwch mae'r eglwys yn ei phregethu. Efallai y byddan nhw'n darparu pryd o fwyd cynnes, lloches dros dro, cyfle i ailadeiladu?"
Gyda synnwyr newydd o bwrpas, ymlafniodd ar ei draed, gan wingo ar yr oerfel a drylifai trwy ei ddillad carpiog. “Mae'r eglwys yn noddfa i'r colledig, yn fan lle mae hyd yn oed y rhai toredig yn dod o hyd i gysur.”
Wrth iddo gamu tuag at gysgod y capel, sibrydodd y tân marwol y tu ôl iddo ei anadl olaf. Roedd y daith i brynedigaeth, wedi ei danio gan ddysgeidiaeth yr eglwys newydd ddechreu i'r dyn a gliniai yn yr oerfel, gan geisio cynhesrwydd nid yn unig i'w gorff, ond i'w enaid bregus hefyd.
Ydyw’r stori fer hon yn sbarduno’r awydd i helpu’r gwan a’r difreintiedig. Cofiwch, mae’r angen llawer mwy agos adref na’r gŵr yn y stori. Efallai yn yr un stryd â ni. Hyd yn oed drws nesaf efallai!?