Dilyn Fi.
“Cymerwch y cam cyntaf mewn ffydd. Sdim rhaid i chi weld y grisiau i gyd, jest cymerwch y cam cyntaf.”
Geiriau Martin Luther King.
Erbyn iddi gyrraedd 27 mlwydd oed Mary Kay oedd un o ddrwgweithredwyr mwyaf enwog America. Roedd hi a’i gwr wedi dwyn o fanciau mewn pedair talaith ac roeddent yn darged i ‘hit’ gan y Maffia am eu twyllo wrth ddwyn diamwntiau. Roedd hi ar rhestr ‘10 most wanted’ yr FBI ac roedd ei bywyd yn symud tuag at ddiwedd gwaedlyd.
Ond roedd gan Dduw gynllun arall iddi.
Yn 1972 cafodd Mary Kay ei harestio a’i dedfrydu i 21 mlynedd yng ngharchar yn Alabama. Ac yno y galwodd Duw hi i fywyd newydd.
Wrth droi tudalennau’r Beibl un noson mi arhosodd Mary ar Eseciel 36: 26-27
“Bydda i’n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai’n cymryd y galon garreg, ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi. Dw i’n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siwr eich bod chi’n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy’n iawn.”
Y noson honno mi weddiodd Mary Kay yn ei chell gan ddweud “O’r gorau Dduw, os gwnei di hyn i mi, mi roddaf weddill fy mywyd yn ol i ti.”
Canlyniad yr addewid yna oedd Angel Tree, rhaglen Cymrodoriaeth Carchar (Prison Fellowship) a gynlluniwyd er mwyn rhannu cariad Duw trwy ymateb i anghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol teuluoedd carcharorion. Ers iddo gychwyn yn 1982 mae Angel Tree wedi cynorthwyo dros ddeg miliwn o blant trwy anfon anrhegion Nadolig iddynt ar ran eu rhieni oedd yn y carchar ac hefyd cynnig cyfleoedd mentora. Mae teuluoedd wedi cael eu hadfer a newyddion da yr Iesu wedi cael ei rannu.
Wedi i Mary Kay farw dyma ddywedodd Chris Colson, aelod o fwrdd y Prison Fellowship yn yr UDA –
‘While serving six years of a 21 year sentence in a state prison for burglary, grand larceny and robbery, Mary Kay watched women gather soap, shampoo and toothpaste received from charity groups and wrap them as Christmas gifts for their children. She vowed she would do something for children who have an incarcerated parent when she was released from prison, and Prison Fellowship’s Angel Tree programme is among her greatest legacies.’
Oes, mae rhywfaint o ddrwg yn y gorau ohonom ond mae rhywfaint a dda yn y gwaethaf ohonom hefyd ac mae ail gyfle yn bwysig ac mae cadw’r gobaith yn ein bywyd mor bwysig.
“Pan oedd Iesu’n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi’n taflu rhwyd i’r llyn.
“Dewch,”meddai Iesu “dilynwch fi, a gwna i chi’n bysgotwyr sy’n dal pobl yn lle pysgod.” Heb oedi dyma’r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ol.
Ychydig nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab sebedeus. Roedden nhw wrthi’n trsio eu rhwydi yn eu cwch. Dyma Iesu’n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw’n gadael eu tad Sebedeus gyda’r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.”
Mi alwodd yr Iesu bysgotwyr cyffredin i’w ddilyn. Mae’n dal i alw dynion, merched a phlant cyffredin i’w ddilyn. Gwahoddiad yr Iesu i bob un ohonom yw ‘Dilynwch fi.’ Mae’n ein gwahodd i fod yn rhan o’r dasg enfawr o ledaenu ei newyddion da ar hyd a lled ein byd. Marc1:16-20
Rydych wedi darllen stori Mary Kay Beard uchod, fe wnaeth hi ymateb i alwad Duw a dod yn ddilynwr i’r Arglwydd Iesu Grist. Mi wnaeth Duw wyrdroi ei bywyd. Pan roddodd hi ei bywyd i Dduw fe roddodd waith iddi gyflawni, gwaith sydd wedi cael effaith anhygoel ar fywydau miloedd o garcharorion a’u teuluoedd.
Sut fyddwn ni’n ymateb i wahoddiad yr Iesu i’w ddilyn?
Mae’n addas i mi gloi gyda geiriau o bennod 29 o lyfr Jeremeia –
“Fi sy’n gwybod beth dw i wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi”meddai’r Arglwydd. “ Dw iam roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddio, a bydda i’n gwrando. Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, a’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i. Bydda i’n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai’r Arglwydd.
Dyna’n union ddigwyddodd i Mary Kay Beard ac mae’r un cwestiwn yn dal i aros i ninnau –
Sut fyddwn ni’n ymateb i wahoddiad yr Iesu i’w ddilyn?