Diolch am eich cymorth.
Diolch am bob cymorth.
Mae’r banc bwyd lawr i ddwy dunnell o fwyd yn unig!
Mae’n amser prysur iawn yn Fanc Bwyd Trussell Trust yn Rhydaman. Mae’r dirwasgiad yn cael effaith andwyol ar yr angen am fwyd ac ar y gallu i bobl i gyfrannu bwyd.
O gyfnod diolchgarwch i ddiolchgarwch mae aelodau a ffrindiau i’r achos yng Nghapel Seion wedi cyfrannu 559.5lb sef chwarter tunnell o fwyd mewn cyfnod o wir angen.
Mae’r silffoedd eto’n wag fel y gwelwch uchod ac felly cais sydd gennym i’ch annog i gadw cyfrannu.
Dwy dunnell yn unig sydd bellach ar y silffoedd lle'r amser yma'r llynedd rhoedd 10 tunnell yn barod i’w ddosbarthu.
Gwnewch eich gorau i rannu’r e-bost yma i’r teulu a’ch ffrindiau. Dewch a’ch bagiau bwyd i’r capel ar fore Sul, i Hebron yn ystod y boreau coffi bob yn ail fore Mercher am 10.00-12.00 neu yn union i’r banc bwyd ei hun.
Pob bendith a chofiwch rannu!
Gwyn