Gweddi plentyn.

Siarad â Duw.

Mae plant yn gweld y byd yn wahanol i ni oedolion ac wrth iddynt weddïo cawn fewnwelediad i fyd rhyfedd o wahanol.

Mae llawer o bethau'n mynd yn gyfan gwbl dros ein 'radar' ni ond yn taro plant, ac mae'r pethau bach yn bwysig iddyn nhw. Weithiau dydyn ni ddim yn sylweddoli faint mae plant yn ei ddeall nac yn camddeall. Wrth wrando ar eu gweddïau gwelwn beth sy’n eu poeni nhw’n wirioneddol neu’r cymorth sydd ei angen arnynt gan Dduw.

Gweddïau yw’r rhain sy’n rhoi cipolwg ar fyd mawr plentyn. Y llon a'r lleddf.

Gweddi dros Harri ( y ci).

Annwyl Dduw, Diolch i Ti am Harri! Harri yw fy ffrind gorau. Hyd yn oed pan fydd yn rhedeg o gwmpas yn wallgof a bwrw popeth drosodd a dwyn bwyd o’r ford. Diolch am yr holl hwyl wrth i ni chwarae gyda'n gilydd, ac am y ffordd mae'n gwneud i mi chwerthin gyda'i gynffon in siglo nôl a mlaen a dal pren mawr yn ei geg, pren llawer mwy nag ef.

Ond, Dduw, wyt Ti’n gallu helpu Harri i ddysgu i beidio â dod i mewn o'r ardd gyda phawennau mwdlyd? Byddai'n gwneud Mam a Dad mor hapus! Rwy'n addo rhoi da (mwythau) iddo fe os bydd e’n dysgu. Diolch am ei wneud Harri gymaint o hwyl, hyd yn oed os ydyw weithiau yn ddrwg. Amen.

Gweddi Wir, Felys.


Annwyl Dduw, Diolch am heddiw, mae wedi bod yn llawn hwyl a sbri! Rwy’n eithaf siŵr Dy fod wedi chwerthin hefyd pan sarnais gwpan o sudd dros goesau mamgu a phan wisgais sanau gwahanol i’r dre. Diolch am wneud heddiw yn llawn sbort ac am wneud i mi wenu - fel bysedd fy nhraed sy’n gallu cyrlio, pobol a thrwynau pigog, ac wynebau doniol. Mae'n rhaid Dy fod yn chwerthin am i Ti wneud gymaint o bethau gwirion!

Helpa fi i freuddwydio am bethau hapus heno - fel anifeiliaid sy'n siarad, crempog sy’n hedfan a dinosoriaid sy’n dawnsio! Ac os gallu di hefyd rhoi mwy o hufen iâ yn y rhewgell yfory a mwy o fisgedi siocled yn y drâr? Rwy'n addo rhannu! Rwy'n caru Ti Dduw! Amen.


Gweddi am Ddewrder


Annwyl Dduw, Weithiau, dwi'n teimlo'n ofnus, ond dwi'n gwybod Dy fod yma gyda ni bob amser. Diolch am edrych ar ôl mam a Jac, hyd yn oed pan nad wyf yn Dy weld. Helpa fi i fod yn ddewr pan fydd ofn arnaf wrth i dad daro Mam a Jac pan fydd yn dod gartref yn hwyr wedi meddwi. Helpa fi i stopio nhw i grio a gwneud i Dad stopio yfed a’i taro mor ddrwg.

Allu Di helpu pob plentyn sydd ag ofn fel fi sydd â thadau drwg a gwneud i’r heddlu fynd â nhw i ffwrdd i'r carchar. A gllu Di hefyd wneud Mam a Jac yn hapus eto a helpa fi i ddweud wrth dad am beidio â bod yn ddrwg o hyn ymlaen. Amen.


Gweddi dros Dad Mewn Rhyfel.


Annwyl Dduw, Os gweli Di’n dda, edrych ar ôl dad sy'n bell i ffwrdd, mewn gwlad lle mae rhyfel. Rwy'n gweld yr ymladd ar y teledu, rwyf eisiau dad gymaint, ac rwy'n poeni amdano. Cadw fe’n ddiogel Arglwydd, a'i amddiffyn rhag y bomiau a’r bwledi. Rho wybod i dad ein bod yn ei garu a Dy fod yn gofalu amdano bob dydd, hyd yn oed pan dydyn ddim gyda'n gilydd.

Helpa fi i fod yn gryf ac yn ddewr tra mae e i ffwrdd. Byddwn yn hapus yn ein calonnau, gan wybod dy fod bob amser yn gwylio drosto. Dere ag ef yn ôl adref atom yn ddiogel pan fydd yr ymladd drosodd gan fod mam bob amser yn crio wrth edrych ar ei lun yn yr ystafell wely. Amen.

Elan Thomas

BroMyrddin

Previous
Previous

Ffydd a Heddwch.

Next
Next

Gwerthoedd.