Gwrando
“Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu.” Mathew 11:15
Crynodeb
Mewn byd a nodweddir gan wneud penderfyniadau cyflym ac adweithiau uniongyrchol, mae rhinweddau gwrando wedi cymryd y lle canolog fel sgil gwerthfawr. Mae'r erthygl hon yn archwilio manteision dwys gwrthsefyll yr ysgogiad i weithredu ar ewyllys neu weithredoedd rhagfwriadol, gan eiriol yn lle hynny dros ymarfer gwrando gweithredol. Trwy ganiatáu lle ar gyfer dealltwriaeth, empathi, a myfyrio meddylgar, gall unigolion feithrin cysylltiadau dyfnach, datrys gwrthdaro yn fwy effeithiol, a gwneud dewisiadau doethach, mwy gwybodus. Mewn cymdeithas sy’n aml yn blaenoriaethu cyflymder a brys, mae’r erthygl hon yn ein hatgoffa bod gwir bŵer gwneud penderfyniadau yn gorwedd yn ein gallu i wrando’n gyntaf a gweithredu’n ddiweddarach.
Dw i am ddechrau trwy adrodd stori blant– stori’r blaidd a’r oen.
Pan oedd blaidd yn yfed o’r afon gwelodd oen bychan, llond ei groen yn prancio i lawr y bryn. Daeth i lawr at ymyl y dwr a dechrau yfed, ymhellach lawr yr afon.
“Bore da, a dyma fy mrecwast.” meddai’r blaidd gan lyfu ei weflau.
“Wyt ti am fy mwyta?” gofynnodd yr oen bach yn betrus.
“Yn sicr i ti” meddai’r blaidd gan agor ei geg a dangos ei ddannedd miniog.
“Plîs paid” plediodd yr oen. “Dydw i ddim wedi gwneud drwg i ti o gwbl.”
“Drwg?” meddai’r blaidd. “Beth am y gaeaf diwethaf pan oeddet ti’n cuddio tu ô i’r gwyrch ac yn gweiddi, ‘Pwy sydd ofn y blaidd mawr tew?”
“Ond doeddwn i ddim wedi cael fy ngeni gaeaf diwethaf. Dim ond mis oed ydw i.”
“Dy frawd oedd e felly. Roedd e’n union fel ti – dwy glust, pedair coes a chot o wlân” meddai’r blaidd.
“Ond does gen i ddim brawd. Y fi ydy’r oen cyntaf i gael ei eni. Dydw i ddim wedi gwneud drwg i ti o gwbl.”
Meddyliodd y blaidd am funud. “Rwyt ti wedi yfed dwr o’r un afon ag rydw i wedi yfed ohoni. Mae dy heb geg frwnt di wedi bod yn y dwr.”
“Ond” meddai’r oen bach, “yfed i lawr yr afon oeddwn i. Roedd y dwr o gwmpas fy ngheg i yn llifo lawr yr afon ac nid i fyny atat ti.”
“Beth bynnag, mi rydw i am dy fwyta” meddai’r blaidd.
“Pam? Rho un rheswm da i mi,” meddai’r oen bach.
“Wel, wythnos diwethaf mi wnest di ddifrod i nghartref i. Roeddet ti’n prancio ar y borfa uwchben fy ffau a dyna’r tir yn dymchwel mewn i’r ffau. “
“Dwyt ti ddim yn credu fod hynna’n wir? Y fi, oen bach ysgafn yn prancio a’r tir yn disgyn oddi tanaf?”
“Wrth gwrs fod hynny’n wir” meddai’r blaidd. Rhuthrodd tuag at yr oen bach ac ymosod arno’n ddidrugaredd.
Pan glywodd y dylluan ddoeth am hyn galwodd holl anifeiliaid y fro at eu gilydd.
“Rydw i eisiau i chi wrando’n astud iawn” meddai.
“Doedd y blaidd drwg ddim yn credu dim a ddywedodd wrth yr oen bach. Doedd e ddim am wrando ar yr oen o gwbl. Roedd y blaidd wedi penderfynu ei fod am fwyta’r oen bach. Doedd dim byd yn mynd i newid ei feddwl.”
Meddyliodd y dylluan ddoeth a meddai “Cyn i chi wneud drwg i neb, meddyliwch chi’n galed yn gyntaf a byddwch yn barod i wrando.”
Wrth ddarllen y stori yna mae sefyllfa enbydus nifer o wledydd y byd yn dod i’m meddwl, yn enwedig y rhai sydd yn sefyllfa’r oen. Mae bleiddiaid yn bodoli yn ein byd ac yn llechu mewn llywodraethau gwledydd bygythiol.
Mae yna wledydd ac arweinwyr sydd yn gwrthod gwrando ar bobl eraill ac yn amlwg yn gwrthod gwrando ar Dduw oherwydd llwybr heddwch yw llwybr yr Arglwydd.
Mae adnod 47 o bennod 8 o efengyl Ioan yn dod i’r meddwl –
“Mae pwy bynnag sy'n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.”
Ie, gweithrediadau annuwiol yw bygythiadau ac ymosodiadau’r blaidd, ym mhob cylch o fywyd.
Mae yna elfen o gachgi yn ymosodiad y blaidd ar yr oen hefyd, hynny yw y cryf yn ymosod ar y gwan, y gwan na all ymladd yn ôl. Ond mewn rhyfeloedd yn ein byd ni fe gaiff y blaidd sioc weithiau pan fydd y gwan yn ymladd yn ôl, gyda chymorth rhai o’r anifeiliaid eraill os liciwch chi.
Ond yr hyn rwyf am dynnu’n sylw ato heddiw yw’r pwysigrwydd i wrando ar ein gilydd – mae gwrando yn grefft ac yn bwysig, er mwyn osgoi sefyllfaoedd o gasineb yn aml.
Mae gwrando yn adeiladu perthynas gref, yn gymorth i ddatrys problemau, yn golygu eich bod yn dysgu mwy, yn help i adeiladu gwybodaeth ac ehangu gorwelion.
Mae’n holl bwysig i ni fel eglwysi wrando hefyd a thalu sylw i adnod 7 yn yr ail bennod o lyfr Datguddiad –
“Gwrandwch yn ofalus ar beth mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”
Gwyn E Jones.