Hen ddyddiau da?

Nid yw mynd i mewn i adeilad erioed wedi bod yn bwynt canolog yn y ffydd Gristnogol. Dywedodd Iesu ddim wrthym am weithio’n galed i gasglu pobl yn dyrfaoedd mawr i lanw adeiladau er mwyn i ni gael dangos ein bod yn ei garu. Ond pan edrychwn ar sut mae'r rhan fwyaf ohonom yn mesur llwyddiant gwelwn ein bod yn treulio llawer o'n hamser a'n hegni yn ceisio gwneud yr union beth.

Yn ddiweddar mae ‘na lawer o bostiadau Facebook a blogiau yn hiraethu am yr “hen ddyddiau da” pan oedd eglwysi yn llawn ar fore Sul, gyda’r nos ac yn ystod yr wythnos.

Rydym yn deall yr hiraeth hwnnw’n iawn. Wedi’r cyfan, rydym i gyd wedi profi ar lawer i ddydd Sul presenoldeb digalon o fach yn y capel. Ond mae 'na sawl problem fawr gyda’r meddylfryd “hen ddyddiau da”.

Yn gyntaf, doedd yr “hen ddyddiau da” ddim mor dda.

Mae gennym gof dethol. Pe baem yn cael ein cludo yn ôl yno, byddem i gyd eisiau dal y DeLorean cyntaf yn ôl i heddiw mor gyflym ag y gallem.

Yn ail, mae hiraeth am y gorffennol yn ein paratoi ar gyfer cael ein trechu.

Gallwn ni ddim mynd yn ôl i’r gorffennol! Dim ond i un cyfeiriad ac ar un cyflymder y mae teithio drwy amser. Ni ddylai unrhyw eglwys fyth fod eisiau mynd yn ôl. Gadewch i ni anrhydeddu'r gorffennol ond byw yn y presennol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn drydydd, dydyn ni ddim am glywed am eglwysi yn llanw fel arwydd o adfywiad, adnewyddiad neu ddeffroad ysbrydol mwyach!

Rhaid i ni ddechrau clywed am eglwysi yn symud allan. Allan i'w cymuned i weinidogaethu, i wasanaethu ac i rannu'r newyddion da. Mae hynny'n arwydd mwy o adfywiad nag a fydd cynnydd mewn presenoldeb yn ein heglwysi.

Does dim angen eglwysi mawr nac eglwysi bach wedi'u llanw ar ein byd. Mae angen trawsnewid bywydau, teuluoedd, dinasoedd a chenhedloedd arnom.

Gadewch i ni bwysleisio'r hyn y pwysleisiodd Iesu.

Cymerwch olwg ar yr Efengylau. A dreuliodd Iesu ei amser yn yr eglwys? A geisiodd gael pobl i fynd i'r eglwys? Wnaeth y disgyblion?

Na. Doedd Iesu na’r disgyblion erioed wedi pwysleisio mynd i’r eglwys. Fe wnaethon nhw bwysleisio bod angen i’r eglwys “fynd i'r byd.” (Marc 16:15)

Dywedodd Iesu ddim wrthym am weddïo y byddai’r eglwysi yn cael eu llanw. Dywedodd wrthym yn Luc 10:2 “Gofyn i Arglwydd y cynhaeaf, felly, anfon gweithwyr allan i’w faes cynhaeaf.”

Nid yw eglwys yn ymwneud â llanw adeilad. Mae’n ymwneud â llanw’r gymdogaeth â’r newyddion da am gariad Iesu.

Mae’r consept o eglwys yn ymwneud â ‘mynd allan’, nid ymgynnull mewn adeiladau yn unig.

Wrth gwrs mae'n wych pan fydd eglwys wedi'i llanw â chredinwyr brwdfrydig, addolgar diffuant. Ond ni ddylai llanw adeilad eglwys byth fod yn nod.

Mae adeiladau eglwysig yn arfau y mae Duw am eu defnyddio i gyrraedd y byd, nid yn ddiben ynddo'i hun. Bu gormod o weithiau mewn hanes pan y mae adeiladau eglwysig wedi eu llanw tra bod y gymydogaeth o'u hamgylch yn ddioddef.

Dylid anelu pob profiad eglwysig gwirioneddol tuag at ddau beth:

1. Gogoneddu’r Crist atgyfodedig.

2. Anfon credinwyr allan i wasanaethu a rhannu'r newyddion da mewn gair a gweithred.

Efallai y dylem ddechrau mesur iechyd eglwysig ac adnewyddiad ysbrydol yn ôl y ffordd yr ydym yn gwagio ein heglwysi, nid yn unig sut yr ydym yn eu llanw.

Beth ydych chi'n feddwl?

Previous
Previous

Rhannu’r Efengyl.

Next
Next

Ein Athrawiaeth.