Hunanoldeb
Hunanoldeb
Crynodeb.
Mae diffyg cydraddoldeb yw gwraidd hunanoldeb yn bersbectif sy'n awgrymu pan bydd gwahaniaeth sylweddol neu anghydraddoldeb mewn adnoddau, cyfleoedd, a mynediad at anghenion sylfaenol o fewn cymdeithas. Gall arwain at ymddygiadau ac agweddau o hunanoldeb fel hyn, sef, cystadleuaeth am adnoddau cyfyngedig, brwydro am adnoddau, cyrchu adnoddau, diffyg empathi a rhaniad cymdeithasol.
Y syniad yw y gall mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac ymdrechu am gymdeithas decach helpu i leihau ymddygiadau ac agweddau o hunanoldeb, gan y gallai unigolion mewn cymdeithas fwy cyfartal fod yn fwy tueddol o rannu, cydweithredu, ac ystyried llesiant eraill. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd polisïau cymdeithasol ac economaidd sydd â’r nod o leihau anghydraddoldeb er mwyn hyrwyddo cymdeithas fwy tosturiol a llai hunanol.
Dyma fwy i chi:
“Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy'n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg – fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw.” Rhuf. 2:8
Mae’n byd ni wedi mynd yn fyd hunanol iawn – pawb drosto’i hunan yw hi a dw i’n teimlo fod y sefyllfa yma wedi gwaethygu ers cyfnod Brexit. Y gwir yw mai methiant llwyr yw Brexit wedi bod a methiant llwyr fydd unrhyw ymgais i fod yn hunanol hefyd.
Mi ellir dadlau fod Cristion hunanol yn waeth nac anffyddiwr hunanol gan fod egwyddorion Duw yn cael eu dangos yn amlwg yn y Beibl ac mae hunanoldeb yn cael ei gondemnio. Yr egwyddor o ‘câr dy gymydog’ a hyd yn oed ‘câr dy elynion’ yw hi ac fe gewn ein hannog i gynorthwyo’r gwan a’r tlawd yn ein cymdeithas.
Mae’r cymorth yr ydym yn ei roi i’r Banc Bwyd yn ganmoladwy ac yn dilyn yr egwyddorion a argymhellir, ond y gwir yw fod y Banc Bwyd yn gorfod bodoli oherwydd hunanoldeb rhai pobl, yn cadw’r gwan mewn cymdeithas i lawr trwy dalu cyflogau isel ac yn casglu’r cyfan i’w corlan eu hunain. Ble mae’r cymorth i’r bobl yma? Mae rhain yn haeddu cadw eu hurddas hefyd.
Mae yna adnodau yn frith trwy’r Ysgrythur i roi cyfarwyddiadau pendant i ni –
“Mae'r un sy'n gormesu'r tlawd yn amharchu ei Grëwr; ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn ei anrhydeddu.” Diar. 14:31
“Yr unig beth oedden nhw'n pwyso arnon ni i'w wneud oedd i beidio anghofio'r tlodion, ac roedd hynny'n flaenoriaeth gen i beth bynnag!” Galatiaid 2:10
Y dyhead am bwer a rheolaeth sydd gan amlaf yn achosi rhyfeloedd yn ein byd ac mae yna rhywbeth yn hunanol iawn yn hynny hefyd – yr awydd i reoli pobl eraill a’u dominyddu. Byddai rhai yn dadlau fod rhyfeloedd wedi bod erioed ac mae hynny yn berffaith wir. Mae’r Hen Destament yn llawn o hanes rhyfeloedd a brwydrau ond dyw hynny ddim i ddweud mai dyna sy’n iawn. Ond yr un rhesymeg sydd y tu ôl i bob gwrthdaro – hunanoldeb, yn deillio o’r awydd i reoli pawb arall ac yn aml o deimladau megis cenfigen. Yn llyfr Iago fe welwn y geiriau yma –
“Ond os ydych chi'n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio”
Y gwir yw fod unrhyw fath o hunanoldeb yn blentynaidd. Pan fo plentyn yn gwrthod rhannu rydym yn ei geryddu am fod yn hunanol ac os yw’n plant yn wynebu’r cyhuddiad yma yn yr ysgol onid ydym yn poeni am y peth. Mi ddylem boeni yn yr un ffordd am hunanoldeb o fewn ein cymdeithas ac o fewn ein byd hefyd.
Mae mwy na digon o fwyd i’w gael ar y ddaear yma – mwy nag sydd angen ond y broblem yw fod hunanoldeb a thrachwant am elw yn ei gadw yn nwylo’r ychydig.
Ymddangosodd cwestiwn syml ar y wê yn gofyn a oedd prinder bwyd yn y byd. Dyma’r ateb – mae yna 345 miliwn o bobl ar draws 79 o wledydd yn wynebu ansicrwydd bwyd dybryd gyda 50 miliwn bron yn llwgu. ‘Tip of the iceberg’ megis yw ein banciau bwyd ni a’r gwir yw fod eu sefyllfa hwy yn gwaethygu. Yn ein Banc Bwyd lleol ni yn Rhydaman mae 2 dunnell o fwyd ar gael lle bu 10 tunnell llynedd. Dyna realiti bywyd ein hoes ni.
Beth yw sefyllfa ariannol pobl felly? Mae ffigurau moel yn help weithiau i ddeall y sefyllfa – mae 1% o boblogaeth y byd yn berchen mwy o gyfoeth na’r 92% isaf! Ac mae’r 1% yna yn berchen ar hanner cyfoeth y byd!
Peidiwch a nghamddeall i, does gen i ddim byd ond edmygedd at y rhai sydd wedi sefydlu busnes, gweithio’n galed a chynyddu eu gwerth ond fe wyddom fod yna ffyrdd eraill, mwy hunanol, o ddod yn gyfoethog hefyd.
Efallai bod yr adnod yn llyfr yr Actau yn gyfarwyddyd da i’r bobl yma ac i ninnau i gyd hefyd –
“Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”
Gwyn E. Jones