Neges y Nadolig.
Caredigrwydd
Ystyr caredigrwydd, gweithredoedd o garedigrwydd, tynnu sylw at bobl garedig a sut mae caredigrwydd yn dod yn gariad, yn creu cariad.
Yn yr eiliad arbennig hon yr ydym yn mynd drwyddi, mae'n bwysig gwrando ar ein gilydd, bod yn dyner, caru, a rhoi i'r bobl sydd ei angen fwyaf, i'r byd a natur.
Gall gair caredig newid byd rhywun… pan byddwn yn caredig mae’n newid pawb.
“Mae un weithred o garedigrwydd yn danfon gwreiddiau i bob cyfeiriad, ac mae'r gwreiddiau'n ymestyn ac yn gwneud coed newydd”
- Amelia Earhart
Mae caredigrwydd yn costio dim, dewch i ni ei basio ymlaen.
Gofalu
Gofalu, gwrando, amddiffyn, bod yn ddynol.
Mae teimlo gofal yn erbyn straen yn cynyddu emosiynau cadarnhaol, yn hyrwyddo gwytnwch, ac yn cynyddu gofalu am eraill.
Rydyn ni'n treulio ein bywydau yn chwilio am ystyr bywyd, dilyn breuddwydion, cyfoeth, pan yn y pen draw, yr hyn rydyn ni i gyd ei eisiau yw cariad.
“Pan fydd pobl yn gofalu am ei gilydd, ma’ nhw bob amser yn dod o hyd i ffordd i wneud iddo weithio”
- Nicholas Sparks
Mae gofalu yn costio dim, dewch i ni ei basio ymlaen.
Ymwybyddiaeth
Mae gan y byd lawer o heriau, gadewch i ni greu ymwybyddiaeth, gadewch i ni addysgu. Sgyrsiau go iawn am anghyfiawnder, hiliaeth, cynhesu byd-eang, newyn, iselder ysbryd, ein bywyd gwyllt, plastigau.
Pwysigrwydd creu ymwybyddiaeth ynghylch sut i ofalu am yr amgylchedd, parchu eraill, ymwybyddiaeth o bob crefydd sy'n bwysig. Pob ffordd o fyw hefyd.
“Mae geiriau’n gwneud dau brif beth: Maen nhw'n darparu bwyd i'r meddwl ac yn creu golau ar gyfer dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.”
- Jim Rohn
Yr un cariad, yr un hawliau. Gadewch i ni addysgu. Sgyrsiau go iawn am ymwybyddiaeth.