Y Wenynen

“Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‘heddiw’.”    Hebreaid 3:13

Mae yna wersi i’w dysgu mewn bywyd oddi wrth anifeiliaid a chreaduriaid eraill yn aml. Un creadur y gallwn ddysgu llawer oddi wrtho yw’r wenynen sy’n rhoi mêl i ni. Mae’n greadur diddorol a chreadigol a gallwn ddysgu oddi wrth ei arferion da.

Y wers gyntaf i ni yw ei fod yn greadur prysur tu hwnt sydd wedi arwain at y dywediad Saesneg “busy as a bee.” Mae’r gwenyn yn gweithio o doriad y wawr hyd y tywyllwch, heb orffwys. Fe gofiwch y geiriau yma am yr Arglwydd Iesu “Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneuthur daioni” – arwydd o brysurdeb Cristnogol ac fel yna mae ein Tad Nefol am i ninnau fod. Mi allwn gario ein hegwyddorion Cristnogol gyda ni mewn bywyd bob dydd ac ymarfer daioni trwy gydol yr wythnos, nid ar y Sul yn unig.

Yn yr ail le mae’r gwenyn yn hedfan yn syth; mi glywsoch ddywediad Saesneg arall mae’n siwr - “make a bee line.” Mae’r creadur bach prysur yn hedfan mewn i flodau yn ein gerddi, casglu’r nectar a’i gario yn syth i’w gartref ar gyflymder mewn llinell syth. Mewn ‘geometry’ fe fyddwn yn dweud mai’r pellter byrraf rhwng dau bwynt yw llinell syth. Dyw’r gwenyn ddim yn gwastraffu amser yn cyrraedd ei nod. Rhaid i ninnau fod yn barod i ledaenu ein newyddion da mewn modd di-wyro.

“Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni.” Rhufeiniaid 12:6

Rhinwedd arall gan y gwenyn yw eu bod yn gwybod sut i rannu dyletswyddau ymysg eu gilydd. Mae eu tasgau penodol gan bawb. Gwylio yw Gwaith rhai ac os byddwch yn amharu arnyn nhw mi ddaw rhagor allan i weld beth sy’n bod. Os bydd unrhyw un yn amharu ar eu cartref mae’r gwylwyr yn debygol o ymosod arnynt.

Rydw i wedi pregethu fwy nag unwaith bod ganddom ninnau i gyd ran i chware ac nad yn yr un maes y mae cryfder pawb, rhaid i pawb d“Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‘heddiw’.”    Hebreaid 3:13

Mae yna wersi i’w dysgu mewn bywyd oddi wrth anifeiliaid a chreaduriaid eraill yn aml. Un creadur y gallwn ddysgu llawer oddi wrtho yw’r wenynen sy’n rhoi mêl i ni. Mae’n greadur diddorol a chreadigol a gallwn ddysgu oddi wrth ei arferion da.

Y wers gyntaf i ni yw ei fod yn greadur prysur tu hwnt sydd wedi arwain at y dywediad Saesneg “busy as a bee.” Mae’r gwenyn yn gweithio o doriad y wawr hyd y tywyllwch, heb orffwys. Fe gofiwch y geiriau yma am yr Arglwydd Iesu “Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneuthur daioni” – arwydd o brysurdeb Cristnogol ac fel yna mae ein Tad Nefol am i ninnau fod. Mi allwn gario ein hegwyddorion Cristnogol gyda ni mewn bywyd bob dydd ac ymarfer daioni trwy gydol yr wythnos, nid ar y Sul yn unig.

Yn yr ail le mae’r gwenyn yn hedfan yn syth; mi glywsoch ddywediad Saesneg arall mae’n siwr - “make a bee line.” Mae’r creadur bach prysur yn hedfan mewn i flodau yn ein gerddi, casglu’r nectar a’i gario yn syth i’w gartref ar gyflymder mewn llinell syth. Mewn ‘geometry’ fe fyddwn yn dweud mai’r pellter byrraf rhwng dau bwynt yw llinell syth. Dyw’r gwenyn ddim yn gwastraffu amser yn cyrraedd ei nod. Rhaid i ninnau fod yn barod i ledaenu ein newyddion da mewn modd di-wyro.

“Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni.” Rhufeiniaid 12:6

Rhinwedd arall gan y gwenyn yw eu bod yn gwybod sut i rannu dyletswyddau ymysg eu gilydd. Mae eu tasgau penodol gan bawb. Gwylio yw Gwaith rhai ac os byddwch yn amharu arnyn nhw mi ddaw rhagor allan i weld beth sy’n bod. Os bydd unrhyw un yn amharu ar eu cartref mae’r gwylwyr yn debygol o ymosod arnynt.

Rydw i wedi pregethu fwy nag unwaith bod ganddom ninnau i gyd ran i chware ac nad yn yr un maes y mae cryfder pawb, rhaid i pawb ddefnyddio ei allu unigryw ef neu hi ei hunan i gyfrannu at fywyd yr eglwys. Fe ddylem i gyd fod yn barod i amddiffyn egwyddorion a bywyd yr eglwys yn ogystal.

“A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” Hebreaid 10:24

Dyletswydd eraill yw casglu mêl a’i gario ar eu coesau i’r cwch gwenyn. Pan gyrhaedda hwnnw gartref mae’n disgyn i’r llawr wedi blino ac mae un arall yn dod ac yn casglu’r mêl a’i roi yn ei le – pawb a’i dasg.

Ie, mae pob aelod a hyd yn oed y gweinidog yn blino weithiau! Dyletswydd pob un ohonom yw cynorthwyo ein gilydd, ysgwyddo baich y naill a’r llall pan fo pethau yn mynd yn ormod. Mae bywyd wedi bod yn anodd i nifer yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma a rhaid i’r rhai ohonom sydd yn teimlo’n egniol gario’n cyfeillion sydd yn cloffi pan fo angen.

“Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i.” Ioan 14:21

 

Mae’r gwenyn yn deyrngar i’w harweinwyr, byddant yn dilyn y frenhines heb gwestiynu dim. Gwae’r wenynen sydd yn crwydro oddi wrth y llu. Yn yr un modd os oes un yn diogi mi gaiff ei throi allan o’r cwch.

Teyrngarwch i Grist a’i eglwys yw ein blaenoriaeth ninnau ac ni ddylem golli golwg ar hynny.

“Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.” Eseia 1:17

Mae’r wenynen yn treulio ei amser yn gwneud bywyd yn felys. Pe bai Cristnogion yn treulio eu hamser yn yr un modd – yn gwneud bywyd yn felys – byddai ein byd yn dra gwahanol.

Mae’r gwenyn yn ddoeth, yn paratoi ar gyfer y dyfodol, mae’n casglu yn yr haf i’w cadw dros y gaeaf. Os gall y creadur bach yma edrych ymlaen a pharatoi ar gyfer y dyfodol pam na allwn ni? Mae’r Beibl yn dweud wrthym am baratoi i gyfarfod ein Duw. Yr unig ffordd i baratoi ar gyfer hynny yw derbyn Iesu Grist yn Waredwr ac Arglwydd a chyflwyno’n bywyd i addoli, gwasanaethu a thyfu yn y ffydd.defnyddio ei allu unigryw ef neu hi ei hunan i gyfrannu at fywyd yr eglwys. Fe ddylem i gyd fod yn barod i amddiffyn egwyddorion a bywyd yr eglwys yn ogystal.

“A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” Hebreaid 10:24

Dyletswydd eraill yw casglu mêl a’i gario ar eu coesau i’r cwch gwenyn. Pan gyrhaedda hwnnw gartref mae’n disgyn i’r llawr wedi blino ac mae un arall yn dod ac yn casglu’r mêl a’i roi yn ei le – pawb a’i dasg.

Ie, mae pob aelod a hyd yn oed y gweinidog yn blino weithiau! Dyletswydd pob un ohonom yw cynorthwyo ein gilydd, ysgwyddo baich y naill a’r llall pan fo pethau yn mynd yn ormod. Mae bywyd wedi bod yn anodd i nifer yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma a rhaid i’r rhai ohonom sydd yn teimlo’n egniol gario’n cyfeillion sydd yn cloffi pan fo angen.

“Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ei ddweud ac yn gwneud beth dw i'n ddweud ydy'r rhai sy'n fy ngharu i.” Ioan 14:21

 

Mae’r gwenyn yn deyrngar i’w harweinwyr, byddant yn dilyn y frenhines heb gwestiynu dim. Gwae’r wenynen sydd yn crwydro oddi wrth y llu. Yn yr un modd os oes un yn diogi mi gaiff ei throi allan o’r cwch.

Teyrngarwch i Grist a’i eglwys yw ein blaenoriaeth ninnau ac ni ddylem golli golwg ar hynny.

“Dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.” Eseia 1:17

Mae’r wenynen yn treulio ei amser yn gwneud bywyd yn felys. Pe bai Cristnogion yn treulio eu hamser yn yr un modd – yn gwneud bywyd yn felys – byddai ein byd yn dra gwahanol.

Mae’r gwenyn yn ddoeth, yn paratoi ar gyfer y dyfodol, mae’n casglu yn yr haf i’w cadw dros y gaeaf. Os gall y creadur bach yma edrych ymlaen a pharatoi ar gyfer y dyfodol pam na allwn ni? Mae’r Beibl yn dweud wrthym am baratoi i gyfarfod ein Duw. Yr unig ffordd i baratoi ar gyfer hynny yw derbyn Iesu Grist yn Waredwr ac Arglwydd a chyflwyno’n bywyd i addoli, gwasanaethu a thyfu yn y ffydd.

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Rhyfel Wcráin.

Next
Next

Gwneud pethau newydd.