Blogiau, gwasanaethau a digwyddiadau.

 

Calendr Ymwybyddiaeth.

Mae’r adran yma yn cael ei ddatblygu. Diolch am eich amynedd.

Beth yw Calendr Ymwybyddiaeth?

Mae diwrnod, wythnos neu fis ymwybyddiaeth cenedlaethol yn cyfeirio at gyfnod a drefnir fel arfer gan sefydliad, i goffáu achlysur neu roi pwyslais ar achos penodol. Yn greiddiol iddo, nod tynnu sylw fel hyn yw creu ymwybyddiaeth, weithiau ar gyfer cyflwr iechyd neu anghenion dyngarol o rhyw fath - trwy ddarparu gwybodaeth am y sefyllfa a thaflu goleuni ar yr heriau penodol y mae'n eu cyflwyno

Pam mae’r cyfnodau yma yn bwysig i’r eglwys?

Mae mwyafrif ein hymwybyddiaeth Gristnogol yn seiliedig ar foment neu ddigwyddiad arbennig ym mywyd Iesu. Mae dyddiau ac wythnosau ymwybyddiaeth yn helpu Cristnogion i gofio hanes ei fywyd, ond maen nhw hefyd yn tynnu sylw at arwyddocâd crefyddol cariad, gobaith a maddeuant.

Mae cyfnodau ymwybyddiaeth yn ein gwneud ni'n ymwybodol o'n hunain a'n gorffennol. Maent yn caniatáu inni rannu stori pobl eraill. Maent yn ein rhwymo i'n ffrindiau, ein teuluoedd a'n cymunedau. Fel bodau dynol mae gennym ni angen dwfn i berthyn neu fod yn rhan o rywbeth mwy na ni ein hunain. Rydym yn dod at ein gilydd fel cyplau, ffrindiau, cyd-ddisgyblion, cydweithwyr, timau, cymunedau a theuluoedd.

Mae cyfnodau ymwybyddiaeth ym mywyd ein heglwys hefyd yn rhoi cyfle i bobl gael seibiant o’u bywydau prysur a chefnogi eraill yn eu hamser o angen ac yn helpu i ledaenu’r neges o heddwch, cariad a chyfundod.

Calendr Capel Seion.

Byddwn yn eich hysbysu o unrhyw wasanaeth, digwyddiad, blog neu bodled yma ar y calendr.