Yr Eglwys Heddiw ac Yfory.

Erthyglau Nodwedd

Mae dyfodol yr eglwys yn ein dwylo ni.


Adolygiad o’r prif egwyddorion sy’n dylanwadu ar yr eglwys heddiw a chanllawiau goroesi.


Mae yna ddwsinau os nad ugeiniau o ddadansoddiadau treiddgar wedi eu cyhoeddi ynghyn a dyfodol yr eglwys. I’r fath raddau ei bod yn anodd dewis pa drywydd i’w ddilyn er mwyn goroesi. 


Rydym wedi bod mewn cyfnod cyn-argyfyngol ers blynyddoedd ac wedi ymestyn y pwynt tipio nes erbyn hyn rydym ar y llethr sgïo ac yn cyflymu i’r gwaelod. Wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddi mae pob cynllun yn gorfod newid rhywfaint er mwyn ymateb i anghenion y gynulleidfa a’r newid mawr yn ein cymdeithas. Mae’r ddau yn rhan bwysig o’n cynlluniau yn y cyfnod yma o newid ond mae Gair ein Duw yn parhau rhu’n fath ag erioed.


Mae’r erthygl nodwedd yma ar ffurf pwyntiau er mwyn eglurder ac ystyriaeth o’r camau goroesi posibl.


1. MAE'R POTENSIAL I ENNILL O HYD YN FWY NA'R POTENSIAL I GOLLI.


Bob tro mae newid mewn hanes, mae potensial i ennill a photensial i golli.

Mae potensial yr eglwys i ennill yn fwy na'r potensial iddi golli.

  • Rhaid nofio o flaen y don nawr er mwyn goroesi. Mae hyn yn meddwl cynllunio’n dda a chadw at y cynllun.

  • Rhwydo arweinwyr cymdeithas i ystyried rôl yr eglwys yn faterion y dydd, darganfod ac estyn llaw i’r anghenus, torri tir newydd ym maes technoleg fodern a datblygu proffil adnabyddus a dibynadwy i’r eglwys yn ei chymuned.

  • Cam 1: Angen cynllun pum mlynedd ac adolygiadau tymhorol.



2. BYDD EGLWYSI ​​SY'N CARU EU MODEL YN FWY NA’I GENHADAETH SIWR O FARW.



Pan ddyfeisiwyd y car, fe gymerodd drosodd yn gyflym oddi wrth y ceffyl a'r cart. Fe aeth y ceffyl a’r cart allan o ffasiwn, ond ffrwydrodd cludiant er gwaethaf hyn.

Y genhadaeth yn yr enghraifft yma yw teithio. Y bygi, car, beic modur neu jet yw'r model. Mae angen i eglwysi gadw ffocws ar y genhadaeth (arwain pobl i mewn i berthynas gynyddol gyda Iesu) a bod yn eithriadol o arloesol yn ein ffyrdd o deithio.



  • Fe’m gorfodwyd i newid gan Cofid. Achubwr ceidwadaeth nifer fawr o eglwysi yng Nghymru oedd yr haint. Fel mae nifer fawr o fobl sy’n gweithio i gwmniau mae’r cyfuniad o addoli mewn capel ac ar-lein yn opsiwm sy’n llwyddo. Rhaid atal unrhyw risg o lithro’n ôl i hen arferion ac ymgartrefi unwaith eto yn yr hen rhigol.

  • Cam 2: Gweithredu, arbrofi, adolygu, ail-gynllunio ac ail weithredu. Cylch heb ddiwedd iddi. Cofiwn mai cylch yw Duw lle mae’r canol ym mhobman ond heb gylchedd yn unman.



3. MAE'R EGLWYS ‘DORFOL’ YMA I AROS.


Mae'r eglwys bob amser wedi ymgynnull oherwydd bod yr eglwys yn gynhenid ​​gymunedol. Yn ogystal, mae'r hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd yn llawer mwy na'r hyn y gallwn ei wneud ar ein pennau ein hunain. A dyna pam y bydd eglwys sydd wedi ei threfnu’n dda yn dal yma.

Felly er y gallai ein cynulliadau newid ac edrych yn wahanol nag y maent heddiw, bydd Cristnogion bob amser yn ymgynnull i wneud mwy nag y gallem erioed wneud ar ein pennau ein hunain.



  • Nid naill ai neu yw’r ddadl. Er i’r eglwys gynulleidfaol ei sefydlu yn y drydydd ganrif mae wedi llwyddo gan iddi foddhau’r awydd i ddynoliaeth ymgynull a chreu pherthynas. Roedd yr eglwys fore yn wahanol wrth i grwpiau llawer llai o faint fwynhau perthynas mwy agos-atoch.

  • Cam 3: Cynnal yr eglwys dorfol drwy arlwy o weithgaredd a gwasanaethau i gynulleidfaoedd sy’n rhannu’r un anghenion.



4. BYDD CRISTNOGAETH AR GYFER DEFNYDDWYR YN UNIG YN MARW A DISGYBLAETH FWY ANHUNANOL YN DATBLYGU.


Mae Cristnogaeth y defnyddwyr yn gofyn. “Beth alla i ei gael gan Dduw?” neu “Beth sydd ynddo i mi?”

Mae hyn i gyd yn wrthun i'r Efengyl, sy'n galw arnom i golli ein hunanoldeb er mwyn Crist er mwyn i eglwys fwy anhunanol ddod i'r amlwg. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau o hyd am gerddoriaeth, amseroedd oedfaon a hyd yn oed rhai gwahaniaethau am yr hyn rydyn ni'n ei gredu, ond bydd y naws yn wahanol. Pan nad ydych chi bellach yn canolbwyntio arnoch chi'ch hun a'ch safbwynt, mae naws newydd ysbrydoledig yn dod i'r amlwg.



  • Mae stori bore dydd Nadolig yn amlwg i bob rhiant. Mae gweld y mwynhad a’r wynebau plant a theulu yn gwneud y broses o rhoi yn deimlad braf.

  • Cam 4: Y ffordd orau yw cyfrannu at anghenion eraill er yn wahanol a heriol ei natur.

5. BYDD DYDD SUL YN DOD YN FWY AM YR HYN RYDYM YN EI ROI NA'R HYN A GAWN.


Bydd diwedd Cristnogaeth y defnyddwyr fel disgrifir uchod yn newid ein cynulliadau er gwell.

Bydd ein cynulliadau yn dod yn llai amdanom ni ac yn fwy am Iesu a'r byd y mae'n ei garu. Yn hytrach na chasgliad o'r rhai sydd eisoes wedi'u hargyhoeddi, bydd yr eglwys yn gorfod canolbwyntio ar y rhai hynny sydd ar y tu allan. Yna, bydd angen ychwanegi sgiliau, galluoedd a gweithredoedd at ein geiriau.



  • Yn ein heglwys yn y dyfodol, bydd bod yn iawn yn llai pwysig na gwneud yn iawn. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys cyfiawnder cymdeithasol a chwrdd ag anghenion corfforol, ond mae hefyd yn cynnwys trin pobl â charedigrwydd, tosturi ym mywyd beunyddiol a rhoi sylw i'w lles ysbrydol. Dyma’r math o ffocws allanol a ysgogodd ehangiad cyflym yr eglwys yn y ganrif gyntaf.



  • Cam 5: Daw’r galw i ni gyfrannu. Felly cyfranwn at elusennau ac angenion dyngarol eraill fel unigolion ac eglwys.



6. NI FYDD PRESENOLDEB YN GYRRU YMGYSYLLTU OND BYDD YMGYSYLLTU YN GYRRU PRESENOLDEB.


Ar hyn o bryd, mae llawer o eglwysi yn ceisio cael pobl i fynychu, gan obeithio y bydd hyn yn ysgogi ymgysylltiad.

Yn y dyfodol, bydd hynny'n newid. Bydd y sawl sy'n ymgysylltu yn cymryd rhan, i raddau helaeth oherwydd dim ond y rhai sy'n ymgysylltu fydd ar ôl.

Os ydych chi wir yn meddwl am hyn... presenoldeb sy’n gyrru pobl i fynychu yw'r union beth sydd wedi tanio'r eglwys ar ei adegau gorau trwy gydol ei hanes. Mae’n newid cyffrous.

  • Cyn i unrhyw newid ddigwydd i ymddygiad sydd wedi’i wreiddio bydd angen cyfnod o ymwybyddiaeth a threuali. Mae hyn yn cymryd amser, i fyny at bedair blynedd weithiau. Cewch fabwysiadwyr cynnar wrth gwrs ond bydd y nifer fwyaf yn llusgo rhywfaint gan aros i weld y canlyniad wrth i fabwysiadwyr cynnar fentro.

  • Cam 6: Rhaid creu sefyllfaoedd i bobl ddechrau ymgysylltu. Mae hyn yn amrywio cymaint. Y gwir yw mae pob cyfle yn gyfle i ymgysylltu yn ogystal a dyfeisgarwch yr eglwys.



7. BYDD GWEINIDOGAETHAU SYDD MWY SYML YN GWNEUD BYWYDAU POBL YN FWY CYFLAWN, NID CYSTADLU Â BYWYDAU POBL.


Ers blynyddoedd, y dybiaeth yw mai po fwyaf y tyfodd yr eglwys, y mwyaf o weithgarwch y byddai'n ei gynnig.

Mae'r eglwys ar ei gorau bob amser wedi arfogi pobl i fyw eu ffydd yn y byd. Ond mae'n rhaid i chi fod yn y byd i ddylanwadu ar y byd.

Bydd eglwysi sy'n canolbwyntio eu hegni ar yr ychydig bethau y gall yr eglwys eu gwneud orau yn yn dod i'r amlwg fel yr eglwysi mwyaf effeithiol wrth symud ymlaen. Bydd eglwysi symlach yn ategu at tystiolaeth ei phobl, nid yn cystadlu â thystiolaeth ei phobl.



  • Dyma gwerth yr eglwys fore. Grwpiau llai sydd gan amlaf yn llai nag wyth o bobl. Gall fod yn deulu, cymdogion, cydweithwyr neu rhai sy’n rhannu’r un diddordebau a chefndir. Fe gofiwch o gymal 3 bod gwerth hefyd i eglwys torfol ond wrth i’r dorf ymbellhau rhaid buddsoddi mewn eglwys llai mewn nifer. Bydd modd o hyd i’r grwpiau llai i uno i ffurfio torf ar adegau arbennig.

  • Cam 7: Dyma’r cyfle i’r Cylch, sef cynllun ar gyfer ffurfio grwpiau llai ei maint i ymgysylltu a ffurfio perthynas â Duw a’i bobl.


8. BYDD EGLWYS AR-LEIN YN YCHWANEGU GWERTH AT Y DAITH A NID JYST AT Y DAITH EI HUN.


Mae yna drafodaeth fawr ar hyn o bryd ynghylch yr eglwys ar-lein. Mewn rhai cilfachau y gallai’r eglwys ar-lein ddod yn eglwys i rai nad oes ganddynt unrhyw fynediad arall i'r eglwys.

Ond mae rhywbeth am berthynas ddynol sy'n gofyn am bresenoldeb. Oherwydd bydd yr eglwys bob amser am ymgynnull, bydd eglwys ar-lein yn ategu at y daith hyn. Mae ein perthnasoedd ar-lein yn berthnasoedd go iawn, ond nid dyma'r perthnasoedd gorau y gall pobl eu cael.


  • Meddyliwch amdano fel cyfarfod â rhywun ar-lein. Gallwch gael perthynas ffantastig. Ond os ydych chi'n cwympo mewn cariad, yn y pen draw rydych chi eisiau cwrdd a threulio'ch bywyd gyda'ch gilydd. Felly y mae gyda Iesu, pobl a'r eglwys.

  • Cam 8: Mae’r eglwys ar-lein wedi llwyddo i gyrraedd nifer fawr o fobl sydd wedi ymgysylltu a derbyn gwasanaeth ar-lein. Mae symud o ymwybyddiaeth ac ymgysylltu i gyfranogaeth yn hawsach drwy ffurfio Cylch ac o hyny i wasanaeth arferol. Rhaid cofio mae derbyn gwerthoedd y daith sy’n bwysig nid yr annogaeth i wasanaeth yn y capel ei hun. Chwildro mawr i’r meddylfryd traddodiadol.



9. BYDD YR EGLWYS AR-LEIN YN DOD YN FWY BLAENLLAW NAG O’R BLAEN.


Nid oes amheuaeth bod eglwys ar-lein heddiw wedi dod yn ffordd i Gristnogion sydd wedi gorffen mynychu eglwys yn y ffordd arferol.

Er bod eglwys ar-lein yn ychwanegiad derbyniol iawn i bobl na allant gyrraedd gwasanaeth, nid yw o hyd ar gyfer Cristnogion lle mae ganddynt ymrwymiad i’r eglwys draddodiadol.

O fewn ychydig flynyddoedd, bydd y llwch yn setlo a bydd rôl newydd ar gyfer eglwys ar-lein a gweinidogaeth ar-lein yn dod i'r amlwg. Mae gan eglwys ar-lein y potensial i ddod yn ddrws ffrynt enfawr i rai chwilfrydig, y rhai sydd heb eu hargyhoeddi ac i'r rhai sydd eisiau gwybod beth yw Cristnogaeth.


  • Yn yr un ffordd ag y byddwch yn prynu bron dim byd heb ddarllen adolygiadau ar-lein neu anaml yn ymweld â bwyty heb ei wirio ar-lein yn gyntaf, bydd presenoldeb yr eglwys ar-lein yn safle y bydd bobl yn mynd ato’n gyntaf, i lawer, yn arwain at gysylltiad personol â Christ.

  • Cam 9: Rydym yn cystadlu am sylw ac felly mae’n anorfod i’n delwedd neu frand fod cystal os nad yn well na’r hyn sydd gan ein cystadleuwyr i sylw ein cynulleidfa yn y byd masnachol.



10. BYDD OEDFAON YN LAI A MWY AR YR UN ADEG.

Mae maint yr eglwys braidd yn amherthnasol i effeithiolrwydd yr eglwys.

Bydd rhai eglwysi yn sefydlu cynulliadau llai. Mae tuedd gan filflwyddiaid ac eraill geisio cysylltiadau a grwpiau llai a thynnach. Yn baradocsaidd, mae eglwysi mwy yn y dyfodol yn debygol o dyfu’n fwy o hyd nid oherwydd eu bod o reidrwydd yn casglu llawer mwy mewn un gofod, ond oherwydd eu bod yn casglu'r nifer hwnnw trwy ddwsinau o gylchoedd llai o dan ryw fath o arweinyddiaeth a rennir ganddynt. Gweler cymal 7 uchod. 


  • Efallai y bydd rhai o'r cynulliadau hynny mor syml ag mewn siop goffi neu hyd yn oed lleoliadau cartref o dan strwythur syml. Byddwn yn gweld eglwysi mwy ac eglwysi llai yn dod i'r amlwg ar yr un pryd ag y mae'r eglwys ymgynnull yn parhau i newid.

  • Cam 10: Mae’r dorf oherwydd ei maint yn gorfod cyfarfod mewn eglwys neu neuadd ac mae dylanwad y dorf yn fodd i adeiladu awydd a bwriad i ennill fwy. Mae’n fwy na phosibl i Gylch gwrdd mewn unrhyw le sy’n addas a derbyniol i’r Cylch. Beth sy’n well na choffi bach a chlonc mewn caffi? Mae’n bosibl wrth gwrs i gylchoedd gwrdd gyda’i gilydd ond efallai mai unwaith y mis bydd hyn. Mewn oedfa wahanol, Oedfa Gylch efallai?


Next
Next

Cynhaliaeth a chadwraeth