Gwyn Elfyn Jones.
Y Parchedig Gwyn Elfyn Lloyd Jones B.A.
Mae cadw ‘bys ar y pỳls’ yn ddywediad sy’n gysylltiedig â’r byd meddygol ond dyma un sydd a’i fys ar bỳls y gymuned a’i phobl , y gymuned sydd bellach yn rhan o’r naratif o bwy ydyw. Un ohonom ni yw Gwyn y Mans.
Ganwyd Gwyn yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor yn fab i'r Parchedig Tudor Lloyd Jones a Deilwen Medi Jones. Fe’i magwyd yn Neiniolen cyn symud i Garno pan yn dair oed. Fel sy’n arfer i weinidog, cafodd tad Gwyn, y Parchedig Tudor Lloyd Jones alwad i Borthmadog a dyna le bu’r teulu byw hyd 1968. Daeth galwad arall iddo i arwain yr Eglwys yng Nghapel Seion, Drefach a symudodd y teulu unwaith eto. I’r De y tro yma lle mae’r teulu wedi sefyll ers hynny.
Bu gweinidogaeth y Parchedig Tudor Lloyd Jones barhau hyd at 1996 ac fe fagwyd Gwyn a’i chwaer Bethan ar aelwyd y Mans, mewn cymdogaeth Gymraeg a Chymreig. Bu Mrs Deilwen Jones yn athrawes Ysgol Uwchradd ac yn flaenllaw yn yr Ysgol Sul nes ei ymddeoliad.
Aeth Gwyn a’i chwaer Bethan i’r Ysgol Gynradd yn Nrefach ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth . Aeth Gwyn ymlaen i astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe aeth Bethan i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Wedi graddio ymunodd Gwyn â chwmni Theatr Crwban yn Aberystwyth. Yn 1984 dechreuodd yrfa hir a llwyddiannus gyda chast yr opera sebon boblogaidd, Pobol y Cwm. Daeth ei gymeriad, Denzil yn adnabyddus a phoblogaidd iawn, cymaint nes i bobl gredu’n iawn mai dyna pwy ydoedd yn iawn.
Capel Seion yw prif ffocws y teulu ac mae’i briod, Caroline yn rhan o lwyddiant yr Eglwys heddiw fel organydd, Ysgrifennydd y Chwiorydd ac yn athrawes yn yr Ysgol Sul. Mae ganddynt ddau fab, Rhodri a Rhys a’r ddau yn chwaraewyr rygbi profiadol wedi ennill ei lle ar lwyfan cenedlaethol. Mae Rhodri, ei briod Siwan a’u plant Rheon a Non yn byw yn y canolbarth erbyn hyn ac mae Rhys ac Esyllt yn byw yn Hermon ger Caerfyrddin.
Yng Nghaerdydd mae stiwdio Pobol y Cwm ond yn wahanol i’r drefn arhosodd Gwyn yn ei filltir sgwâr a’i gartref ym Mhontyberem a theithio i Gaerdydd yn ddyddiol i ffilmio. Gwnaeth hyn am dros ugain mlynedd. Ei fwriad yn hyn o beth oedd peidio â gollwng ei wreiddiau a pharhau i wneud gwahaniaeth ac i gyfrannu i’w gymuned yng Nghwm Gwendraeth,
Mae ei ystod o ddiddordebau yn ddiarhebol. O chwarae rygbi i’r Tymbl a hyfforddi’r ‘Seconds’, siaradwr gwadd penigamp, cadeirydd Menter Cwm Gwendraeth Elli, aelod o Undeb yr Annibynwyr Gymraeg yn sgil ei swydd newydd ers 2016 o fod yn Weinidog ar Eglwys ei dad yng Nghapel Seion, Drefach.
Fe’i magwyd yn y Mans, Drefach ac mae’r Eglwys wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd ac yng nghyfnodau a phenderfyniadau heriol ei yrfa. Mae’n rhoi o’i amser i bawb sy’n gofyn ac yn hael ei gyfeillgarwch a’i gymorth.
Fe’i hordeiniwyd yng Nhapel Seion, Drefach yn 2016 wedi cyfnod fel arweinydd. Erbyn hyn mae’n Weinidog rhan amser hefyd ar Eglwysi Bethesda, y Tymbl a Nasareth, Pontiets.
Ysgrifennodd ei hunangofiant, Gwyn Y Mans yn 2016 ac erbyn hyn mae ganddo ddigon o brofiadau bywyd i ysgrifennu sawl cyfrol arall!