Swyddi Hebron
Swyddi Newydd yng Nghanolfan Gymunedol Newydd yn Hebron
Rydym yn falch o gyhoeddi dwy swydd newydd yng Nghanolfan Gymunedol Hebron. Mae'r ddwy rôl yn hanfodol i dwf a llwyddiant parhaus Hebron ar ei newydd wedd.
Mae'r ddwy swydd i redeg o fis Medi eleni hyd ddiwedd Ionawr 2026, cyfnod o bum mis, er mwyn rhoi hwb i ddechrau gweithgaredd yn Hebron.
1.Swyddog Reoli Hebron (24 awr yr wythnos)
Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar reoli Hebron o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod anghenion y rhai sy'n defnyddio’r cyfleusterau yn cael eu bodloni. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal amgylchedd croesawgar i bawb sy'n ymweld â Hebron.
2. Swyddog Prosiectau Hebron (14 awr yr wythnos)
Bydd y swydd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau cymunedol amrywiol yn yr adeilad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i roi bywyd i fenter sydd i gyfoethogi bywydau ein cymuned leol, gan gefnogi a datblygu partneriaethau.
Sut mae gwneud Cais
Mae poster ynghylch y swyddi yn y cyntedd ac mae taflenni ar gael i chi fynd adref a’u cyflwyno i bwy bynnag ydych yn teimlo bydd yn gymwys.
Gallwch gael mynediad i’r ffurflen gais ar safle arbennig Hebron, sef: hebrondrefach.org
Bydd hysbyseb yn ymddangos ar safle Capel Seion ac ar FaceBook Capel Seion.
Rydym yn annog unrhyw un sydd ag awydd am ddatblygu cymunedol ac ymestyn y deyrnas i ymgeisio.
Pob llwyddiant i bawb!