Y Llythyr Olaf

Stori am faddeuant.

Roedd Thomas Evans yn ddyn o egwyddorion—cryf, union, ac anhyblyg. Roedd wedi bod yn aelod o Gapel Salem ers dros bedwar deg mlynedd a phrin iawn oedd y Sul na welid ef yn y Sedd Fawr. Ond roedd un pwnc nad oedd neb yn sôn amdano yn ei gwmni. “Edward Morgan”.

Ugain mlynedd ynghynt, roedd Edward wedi benthyg arian gan Thomas i achub ei fusnes oedd ar fin methu. Aeth wythnosau’n fisoedd, ond ni thalwyd y benthyciad yn ôl. Yn waeth, roedd sibrydion wedi lledaenu fod Edward wedi defnyddio’r arian i adael y pentref a dechrau bywyd newydd yn rhywle pell. Ni faddeuodd Thomas iddo. Dim mewn gair a dim yn y galon.

Yna, yn annisgwyl, dychwelodd Edward.

Yn hŷn, gyda gwallt llwyd a cham ychydig yn arafach, symudodd i fwthyn bychan llwm ar gyrion y pentref. Croesawodd rhai ef. Cadwodd eraill eu pellter. “Does dim lle iddo fe yma,” meddai Thomas yn dawel wrth glywed ei enw. “Dyw dyn fel ‘na ddim yn haeddu bod ymhlith y cyfiawn.”

Y Sul ganlynol, pregethodd y gweinidog ar faddeuant. “Rydym ni fwyaf tebyg i Grist,” meddai, “nid pan farnwn, ond pan faddeuwn hyd yn oed y rhai anmaddeuol. Oherwydd pa werth sydd dim ond caru’r rhai sy’n ein caru ni?”

Symudodd Thomas ddim ei safbwynt. “Geiriau hawdd,” sibrydodd, “pan nad wyt ti wedi dy fradychu. Mab i ddyn ydw i, mab i Dduw oedd Iesu. Roedd yn llawer hawddach i ddo fe faddau”.

Yr wythnos ganlynol, daeth llythyr i Thomas. Ysgrifen llaw sigledig heb gyfeiriad arno.

Annwyl Thomas,
Rwy’n ddyledus i ti—ac nid yn unig mewn arian. Rwy’n cario cywilydd bob dydd. Gwneuthum benderfyniadau annoeth a buan iawn collais yr arian. Wn i ddim a allaf ddisgwyl maddeuant, ond gofynnaf yn daer amdano.
Yn edifeiriol iawn,
Edward..

Darllenodd Thomas y llythyr ddwywaith, a’i roi mewn drôr. Aeth dyddiau heibio. Yna wythnos. O’r diwedd, penderfynodd fynd at Edward—i’w wynebu, o leiaf.

Ond pan gyrhaeddodd y bwthyn, roedd y ffenestri’n dywyll. Daeth ei wraig allan. “Mae’n ddrwg gen i,” meddai’n dawel. “Bu farw Edward neithiwr. Methodd ei galon. Cauodd ei lygaid yn dawel ac mewn heddwch.”

Safodd Thomas yn llonydd, y llythyr yn ei law. Ni chafodd gyfle i siarad â Edward na barnu, na maddau.

Yn ystod gwasanaeth y Sul wedyn ar ôl y weddi, safodd Thomas i fyny yn y Sedd Fawr a chymerodd anadl ddofn. Agorodd y llythyr gyda’i ddwylo’n crynu.

“Roedd Edward yn gofyn am faddeuant,” meddai. “Ro’n i’n mynd i faddau… ond gadewais hi’n rhy hwyr. Bellach, ni fyddaf byth yn gwybod beth fyddai hynny wedi’i olygu—iddo fo… neu i mi.”

Distawodd am funud wrth fyfyrio ar ei neges.

Yna, ychwanegodd yn dawel: “Nid yw maddeuant a oedir, yn faddeuant o gwbl. Peidiwch ag aros i faddau i unrhyw un”.

Next
Next

Newyddion da.