Wythnos Medi 25ain

Papurau £10 a £20 punt

Cofiwch newid y papurau arian sydd gennych yn y Banc gan na fyddwch yn gallu eu defnyddio wedi Medi 30ain.

_______________________________

Banc Bwyd.

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

https://ammanford.foodbank.org.uk

_______________________________

Bore Coffi Macmillan.

Dydd Mercher Medi 28ain. 11.00yb

Bydd bore coffi Macmillan yn cwrdd yn Hebron ar 28ain o Fedi i godi arian at yr elusen.

  • Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd hefyd yn ystod y boreon coffi.

__________________________

Oedfa Gymun Hydref 2ail.

Bydd Oedfa Gymun Hydref 2ail o dan ofal Gwyn i ddechrau fel arfer am 10.30yb.

‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’

Previous
Previous

Wythnos Hydref 23ain.

Next
Next

Wythnos Medi 18fed