Wythnos 22ain Ionawr

Banc Bwyd Rhydaman.

Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.

  • Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.

  • Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.

Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.

Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.

https://ammanford.foodbank.org.uk

_______________________________

Pwyllgor Apel Drefach, Cefneithin a Gorslas i godi arian i Eisteddfod yr Urdd

Cynhelir noson yn Neuadd y Gwendraeth Drefach nos Sadwrn Ionawr 28ain yng nghwmni’r grwp Baldande a hefyd band ifanc o Ysgol Maes y Gwendraeth Dros Dro. Bydd y noson yn cychwyn am 7.30. Pris mynediad £10. Cysylltwch gyda Ann neu fi am docynnnau.

Y Blog Wythnosol

Bydd ein blog yr wythnos yma yn trafod stiwardiaeth y ddaear a’n rôl ni fel Cristnogion yn arwain arno a pham mae cynaladwyedd yn ei ystyr ehangaf mor bwysig. Croeso i bawb ei ddarllen ar y wefan pan ddaw allan dydd Mercher.

Oedfaon y Sul

Bydd oedfa fore Sul Ionawr 29ed dan ofal Gwyn i ddechrau am 10.30yb Ymunwch â ni yno.

Previous
Previous

Wythnos 29ain

Next
Next

Wythnos 8fed Ionawr 2023