Mehefin 26
Ysgol Drefach a Cross Hands.
I ddathlu 'diwedd' y pandemig, mae Ysgolion Drefach a Cross Hands yn cynnal gweithdy gyda'r Prifardd Aneirin Karadog a'r Cartwnydd ( 'r Rhondda) Sion Owen ar y thema Caredigrwydd. Y bwriad yw creu gwaith celf sy'n cynnwys cartwnau a barddoniaeth gwreiddiol ar ffurf posteri a fydd yn gallu cael eu harddangos o gwmpas y ddau bentref i ddiolch i bawb am ddangos caredigrwydd yn ystod cyfnod heriol y pandemig.
Hoffem estyn croeso i aelodau o gymuned Drefach i ymuno gyda'r plant mewn gweithdy a gynhelir yn Ysgol Cross Hands ( ddim lle yn Ysgol Drefach!) ar brynhawn dydd Mercher, Gorffennaf 6ed rhwng 1.00 a 2.30. Croeso cynnes i chi gyd a does dim disgwyl i neb fod yn
artist nag yn fardd!
Yn anffodus, i'r rhai ohonoch sy'n adnabod Estyn, maent wedi gwahodd eu hunain i'r achlysur, ond plis peidiwch à chymryd unrhyw sylw o hyn! Fe fyddai Ysgol Drefach wir yn gwerthfawrogi unryw gefnogaeth i’r digwyddiad yma er mwyn dathlu pwysigrwydd Caredigrwydd yn ein cymuned.
__________________________________________
Bore Coffi Llyfrau Llafar Cymru.
Mae Rhian, staff a ffrindiau Llyfrau Llafar yn diolch o galon i bawb am gefnogi’r gwasanaeth gwerthfawr hyn i’r bobl hynny sy’n cael anhawster darllen print.
Bu’r bore coffi yn llwyddiannus a chodwyd £560.00
__________________________________________
Banc Bwyd.
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
__________________________________________
Bore Coffi Hebron.
Gan amlaf byddwn yn cynnal bore coffi yn Hebron bob pythefnos ar fore dydd Mercher rhwng 9.30 a 11.00yb. ( Cofiwch bod wythnos y bagiau sbwriel du )
Byddwn yn casglu at y Banc Bwyd yn ystod y boreon coffi.
__________________________________________
Sul Gorffennaf 3ydd.
Bydd oedfa Gymun fore Sul nesaf o dan ofal ein Gweinidog, Gwyn am 10.30yb.
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’