Wythnos Chwefror 26ain
Banc Bwyd Rhydaman.
Byddwn yn dal i gasglu at y Banc Bwyd gan fod gymaint o deuluoedd mewn tlodi.
Bydd plant ac oedolion yn gallu gadael eu cyfraniadau o fwyd yng nghyntedd y capel ar fore Sul.
Bydd modd hefyd i gyfrannu yn ystod y boreau coffi yn Hebron bob pythefnos.
Mae sawl trip wedi cludo bocsis a bagiau llawn bwyd i’r Banc Bwyd a mawr oedd diolch y trefnwyr am haelioni aelodau a ffrindiau Capel Seion.
Diolch am eich haelioni cyson ar hyd y blynyddoedd.
https://ammanford.foodbank.org.uk
_______________________________
Ysgol Gân
Cofiwch am yr Ysgol Gan yn y Capel heno am 5.30. Croeso cynnes i bawb. Cofiwch mi fydd Rihyrsal ar Sul Mawrth 12fed o dan arweiniad Catrin Hughes.
_______________________________
Oedfaon y Sul
Bydd ein hoedfa fore Sul nesaf Mawrth 5ed yn Oedfa Gymun am 10.30 dan ofal ein Gweinidog Gwyn.
_______________________________
Cwrdd Gweddi’r Chwiorydd
Mi fydd y Cwrdd Gweddi i’r Chwiorydd yng Nghapel Bethesda Tymbl ddydd Gwener nesaf , Mawrth 3ydd am 2.00 y prynhawn
‘Yn gwneuthur daioni na ddiogwn.’