
Adnewyddu Hebron.
Dyma gronfa o ddeunydd ac adnoddau ar gyfer costau adnewyddu gan gwmnïau adeiladu.
Cynllun Canolfan Hebron
Adnewyddu Hebron
Drefach. Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA14 7AA
Cais i’r Gronfa Gymunedol Pawb a’i Le.
Cynllun Canolfan Hebron.
Canolfan Hebron, Drefach.
SA14 7AA
Mae’r adeilad dros ganrif oed a heb yr adnoddau y disgwylir ar gyfer cymunedau heddiw.
Gweler isod ein bwriad i adnewyddu’r adeilad yn ôl cynlluniau arfaethedig ein cais am gymorth ariannol y loteri.
Festri Hebron Drefach heddiw.
Dyma Festri Hebron, Capel Seion yn Nrefach, Llanelli heddiw.
Mae gennym fwriad i ail geisio am arian lotteri ar gyfer ei adnewyddu yn ôl y cynlluniau pensaernïol gwreiddiol fel a ganlyn.
Mwy yn cynlluniau arfaethedig isod.
Cynllun ar gyfer cymorth gan y Loteri, Pawb a’i Le.
Cynllun ar gyfer Canolfan Hebron o ganlyniad i anghenion y gymuned.
O ganlyniad i’r arolwg cymuned a grwpiau ffocws, fe baratowyd cynlluniau er mwyn i’r anghenion gael eu diwallu. Cafwyd cyfarfodydd gyda’r pensaer ac fe ddatblygwyd cynllun arloesol i ymateb am y galw am gyfleusterau cyfoes ac atyniadol. Ar gyfer plant a rhieni roeddent am le i gyfarfod ac ymestyn syniadau am ddatblygiad y plant, pobl ifanc oedd a’r awydd i ddefnyddio’r adnodd i ymarfer technoleg gyfoes ac offerynnau a phobl hyn oedd am weld lle i alw heibio am goffi, pryd o fwyd ac i’r banc bwyd. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain ac mae dadansoddiad trylwyr o’r ymatebion yn y gyfres o arolygon uchod.
DEDDF CYNLLUNIO TREF A GWLAD 1990. Rhybudd Penderfyniad
Roddwyd Caniatâd Cynllunio Llawn yn Awst 2021.
Canolfan Hebron yn goroesi.
Cynllun ar gyfer can mlynedd arall o wasanaethu cymuned Drefach a’r cylch.
Mae’r cynllun yn flaengar gan greu gwagle amlbwrpas a chyfoes.
Cynlluniau Arfaethedig.
( Proposed architectural plans pdf. )
Lle i bopeth a phopeth yn ei le.
Neuadd a swyddfa amlbwrpas.
Neuadd amlbwrpas ar gyfer nifer o weithgareddau cymunedol. Gellir ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer rhyw weithgaredd ac yna bydd yn hawdd ei newid ar unwaith ar gyfer sioe, cyflwyniad, cynhadledd, sinema neu man cyfarfod ynhollol ddiffwdan.
Cegin amlbwrpas.
Gegin sy’n addas ar gyfer caffi, Pryd ar Glud, Dysgu sgiliau coginio, arlwyo cyfarfodydd a chynadleddau.
Caniatâd Cynllunio
( Planning agreed.)
Mesanîn amlbwrpas.
Llofft i’r gegin sy’n cynnig ei hun i lyfrgell, swyddfa dros dro, man cyfarfod, eitemau teledu a radio.