Banc Bwyd.
Mae ‘na gân boblogaidd Saesneg yn datgan “ You don’t know what you’ve got till it’s gone” yn ddihareb bellach yn enwedig wrth i ni symud o gyfnod o ddigonedd i ddiffyg bwyd a maeth.
Roedd ein rhieni a’n teidiau yn adrodd hanes am lyfrau ‘rashyn’ ac roedd storïau amdanynt yn taenu haen ysgafn o fenyn ar fara wedi ciwio yn hir amdano. Wel i rai anffodus yn ein cymunedau heddiw mae’r amser digalon wedi dod yn ôl i’n llethu eto.
Wrth i fanc bwyd Rhydaman ddathlu ei bodolaeth yn naw oed eleni gwelwn nad rhywbeth diweddar yw tlodi bwyd. Mae’r banc bwyd yn dathlu’r cyfnod wrth ddal i annog mwy i gyfrannu at ei hymgyrch i helpu pobl sy’n ymrafael a thlodi bwyd.
Dyma rhai o ystadegau i chi. Agorodd y banc bwyd yn 2013 wedi codi dros 3 tunnell o fwyd. Mae dros 18000 o bobl wedi ei bwydo yn y naw mlynedd ddiwethaf a phecynnau bwyd brys sydd yn dair gwaith poblogaeth Rhydaman. Dros y naw mlynedd ddiwethaf mae cyfranwyr o’r ardaloedd cyfagos wedi cyfrannu dros 18000kg o fwyd i’r banc bwyd sydd wedi caniatáu dosbarthu dros 174,000kg o fwyd i rheini mewn creisis ariannol. Mae 6,504 o blant wedi’u bwydo, 5,876 o becynnau brys wedi’u dosbarthu a dros 1,5200 o bobl wedi bwydo ers agos y Banc Bwyd.
Cafodd cynrychiolaeth o Gapel Seion wahoddiad i’r dathlu yn y Llusern yn Rhydaman gan ein bod yn gyfranwyr hael a’n cydnabod yn ffrind i’r achos. Cawsom groeso cynnes a wir roedd y datganiadau yn agoriad llygaid.
Medd un gwirfoddolwr “dyma ddrws ffrynt ein heglwys bellach”. Aeth ymlaen i ddisgrifio sut oedd y rhai hynny oedd gynt yn dioddef o dlodi bwyd ac wedi codi o’r trafferthion ariannol yn gwirfoddoli i helpu eraill yn yr un cyflwr.
“Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’ Mathew 25:40 Beibl.net.
Mae'n bwysig nodi mai'r rheswm pam y gwnaeth y bobl y gweithredoedd da hyn oedd oherwydd eu bod yn byw'n ffyddlon i Iesu. Roedd eu gweithredoedd yn dilyn eu ffydd ynddo Ef fel rhai etholedig ei Dad. Mae Iesu'n galw pawb sy'n feibion a merched i'w Dad, yn frodyr ac yn chwiorydd iddo. Ef yw eu Brenin, ie, ond mae hefyd yn frawd ysbrydol iddynt gan eu bod i gyd yn blant i Dduw. Mae Iesu yn deyrngar i'w deulu ac yn derbyn daioni, a wneir iddynt, fel daioni iddo.
Gawn ni yn yr un modd helpu’r person a’r teulu sydd yn ei hangen trwy wneud y pethau gymharol fach wrth gyfrannu bwyd i’r Banc Bwyd yn Rhydaman. Gallwch ddod a’ch cyfraniad i Hebron yn ystod y boreau coffi neu os ydyw’n hawsach ddod ag ef i’r Capel neu fynd ag ef yn syth i Rhydaman.
Diolch am eich haelioni ymlaen llaw. Gallwch gael fwy o fanylion ar https://ammanford.foodbank.org.uk
Dyma beth sydd angen i mis yma, Mehefin 22:
Llaeth UHT - allan yn llwyr
Sudd ffrwythau - allan yn llwyr
Moron mewn tin - allan yn llwyr
Pysgod mewn tin - allan yn llwyr
Tomatos mewn tin - isel iawn
Saws Pasta
Uwd
CUSTARD
Pwdin Reis
Tatws stwnsh