Cyfnod y Cofid.

“A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni”.

Hebreaid 10:24

Efallai bod yr adnod uchod yn crynhoi yr hyn yr oeddem fel Cristnogion yn ceisio ei wneud yn ystod y cyfnod Covid diweddar. Mi oedd yna newid mawr yng nghalendr ac yn arferion pob un ohonom.

Roeddwn i, fel pawb arall, yn colli’r oedfaon, yr ymweld, y cymdeithasu, y cyhoeddiadau mewn capeli eraill, y boreau coffi. Oherwydd fy mod i wedi cael llythr yn fy ngorchymyn i gysgodi roedd yn rhaid i mi golli nifer o angladdau ac roedd hynny yn fwy o loes calon na dim.

O safbwynt personol mi gollais i gyfle i ymweld â Grand Prix Monaco, y sioe a’r steddfod ond yn fwy na dim efallai colli’r trip a drefnwyd i Oberammergau,. Mi oedd colli chwaraeon byw yn golygu cryn newid i mi hefyd.

Ond wedi dweud hynny i gyd mi wnaeth y newidiadau yma ein gorfodi i feddwl ‘tu allan i’r bocs’ fel petai. Mi ddechreuais recordio myfyrdodau ar You Tube ac rydw i’n parhau i wneud; cawsom oedfaon llwyddiannus gyda chynulleidfa niferus ar Zoom ac fe gynhaliwyd Cyrddau Plant yn yr un modd.

O ran cadw cysylltiad gyda teulu fe fu Face Time yn fodd i weld ein gilydd, gweld mam a gweld ein hwyrion yn ein hachos ni. Fe fu criw ohonom yn cynnal cwis wythnosol ar Zoom.

Y defnydd o dechnoleg oedd y newid mwyaf a orfodwyd arnom mae’n siwr a rhaid dweud fy mod i yn edmygu pobl yn eu hwythdegau lwyddodd i feistroli’r dechnoleg.

Mae yna lawer o ddilorni neu anwybyddu y dechnoleg fodern wedi bod ymhlith rhai ond fe ddangosodd y cyfnod diweddar yma fod yna ddefnydd adeiladol iawn i’w wneud o dechnoleg fodern. Peth arall yr oeddem i gyd yn ei wneud oedd archebu ein bwyd ar lein. Doeddem ni erioed wedi cael bwyd wedi ei gario i’r ty cyn hyn ond fe brofodd yn llwyddiannus. Pan oeddem yn cael mentro allan rhaid canmol ein siop leol yn Drefach. Mi fu Simon a Daniel a’r tîm yn gefnogol tu hwnt i drigolion y pentref a rhaid cofio hynny yn y misoedd sydd i ddod.

“Mae unrhyw un sy'n gwrthod gofalu am ei berthnasau, yn arbennig ei deulu agosaf, wedi troi cefn ar y ffydd Gristnogol. Yn wir mae person felly yn waeth na'r bobl sydd ddim yn credu.” (Colosiaid 3:15)

Peth arall oedd yn digwydd pan oedd modd mynd allan oedd mynd i gerdded yn fwy aml a chyfarfod pobl eraill yn cerdded neu seiclo. Onibai am y cyfnod yma fyddai llawer ddim wedi mentro allan cymaint.

Yn ystod y cyfnod rydw i wedi bod yn cysylltu gyda aelodau dros y ffôn ac yn parhau i wneud hynny nes y bydd hi’n ddiogel i fynd o dy i dy. Rhaid dweud, er mor ddefnyddiol oedd hyn, fy mod yn colli ymweld a siarad wyneb yn wyneb â phobl ar eu haelwyd.

 

Diarhebion 19:3

“Ffolineb pobl sy'n difetha eu bywydau, ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD.”

Un peth oedd yn fy ngwylltio oedd clywed rhai pobl yn siarad fel pe bai peidio cymdeithasu a gwisgo mwgwd yn ddiwedd y byd; bois bach, dim ond am gyfnod byr ni'n siarad. Mi allwn ni gyd roi rhywbeth lan am gyfnod er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel.

Mae lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn holl bwysig; dyma mae rhai ddim yn ddeall. Mae nhw'n dweud nad yw clo a rheolau ymbellhau ac yn y blaen yn gwella pawb ond nid dyna'r pwynt - lleihau'r pwysau fel bod y gwasanaeth iechyd yn gallu delio gyda'r sefyllfa yw'r nod ac mae’r brechlyn yn gwella'r cyflwr.

Bellach rydym yn gweld y golau ym mhen draw’r twnel ac roedd gan rai ohonom ffydd yn Nuw y byddem yn ddiogel yn y pen draw. Yn anffodus fe fu yna golledion ar y daith ac rydym yn cydymdeimlo’n fawr gyda’r rhai sydd mewn hiraeth am rai annwyl.

1 Corinthiaid 1 : 9

“Gallwch chi drystio Duw yn llwyr. Mae'n gwneud beth mae'n ei ddweud.”

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Banc Bwyd.

Next
Next

Ffydd Syml Plentyn.