Beth am yr Eglwys?
Dywedodd Abraham Lincoln unwaith, 'Pe bai'r holl bobl sy'n mynd i gysgu mewn eglwys ar fore Sul yn cael eu gosod mewn rhes .... fe fydden nhw llawer mwy cyfforddus!"
Wrth dyfu fyny yn yr eglwys y peth cyntaf oedd yn dod i'n meddwl i gyd oedd seddau caled, tonau anodd eu canu, distawrwydd gorfodol a diflastod poenus. Roedd ficer yn mynd â bachgen bach o amgylch ei eglwys un diwrnod ac yn dangos y cofebion iddo. 'Dyma enwau'r rhai fu farw yn gwasanaethu,' meddai. Holodd y bachgen - 'Wnaethon nhw farw yn y gwasnaeth boreol neu gyda'r hwyr?"
Mae rhai yn cysylltu'r eglwys gyda gweinidogion, eraill gydag enwadau ac eraill wedyn gydag adeiladau. Ond dyw'r cysylltiadau yma ddim yn crynhoi beth yw eglwys. Mae fel gofyn 'beth yw priodas?'
Bydd rhai yn ateb - modrwy, tystysgrif, cyfreithiau priodasol ond nid dyna hanfod priodas. Rhan ganolog o briodas yw perthynas llawn ymddiriedaeth yn seiliedig ar gariad ac ymrwymiad. Yn yr un modd mae rhywbeth hyfryd iawn yn rhan ganolog o'r eglwys - y berthynas rhwng Duw a'i bobl.
Yn gyntaf, pobl yw eglwys - pobl Dduw. Mae'r ffydd Gristnogol yn cynnwys perthynas am i fyny (gyda Duw) ond hefyd perthynas ar draws - gyda pobl eraill.
Mae'r eglwys Gristnogol fyd-eang yn helaeth gyda dros ddau biliwn o Gristnogion yn y byd. Er bod yr eglwys yn edwino gyda ni yng ngorllewin Ewrop mae'r eglwys yn tyfu yn fyd-eang.
Ymddengys fod tri math o ymgynnull yn y Beibl - y cynulliad yw nifer fawr o Gristnogion yn dod at eu gilydd, yn enwedig lle mae eglwysi yn dod ynghyd ar achlysuron arbennig; y gynulleidfa, sef eglwysi unigol sy'n gwasanaethu'r gymuned ac yna cell neu grwp bychan o bobl sydd yn cyfarfod i astudio'r Beibl neu weddio neu drafod gyda'u gilydd.
Yn yr ail le, yr eglwys yw Teulu Duw. Mae pawb ohonom yn perthyn i un teulu ac er y gallai brodyr a chwiorydd gwympo mas neu beidio gweld eu gilydd am gyfnodau mae nhw'n parhau yn frodyr a chwiorydd i'w gilydd. Ni all unrhyw beth ddod a'r berthynas honno i ben.
Ar bob lefel dylem geisio undod, yn ein cynulleidfaoedd a'n henwadau. Gan fod gennym yr un Tad, rydym yn frodyr a chwiorydd i'n gilydd ac mae Ioan yn nodi hyn yn glir iawn -
"Os dywed rhywun, 'Rwy'n caru Duw', ac yntau'n casau ei gydaelod,
y mae'n gelwyddog, oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod
y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld."
Dywedodd John Wesley 'Nid yw'r Testament Newydd yn gwybod unrhyw beth am grefydd unigol'. Rydym wedi'n galw i gymdeithas â'n gilydd.
Fe wnaeth cwpwl ifanc oedd wedi dod i arddel ffydd yng Nghrist ysgrifennu fel hyn -
Rydym wedi bod yn dod i'r eglwys ers blwyddyn erbyn hyn, ac yn barod mae'n teimlo fel bod adref. Mae'n amhosibl dod o hyd i'r awyrgylch o gariad, cyfeillgarwch a chyffro unrhyw le arall.
Mi alla i, yn bersonol uniaethu gyda'r sylwadau yna. Mae pobl y capel yn ail deulu i mi.
Yn drydydd, corff Crist yw'r eglwys. Fe bwysleisiodd Paul hyn wrth gwrs. Chi gyd yn gyfarwydd gyda'r darn nad oes gan Grist ond ein traed a'n dwylo ni ac fel mae Paul yn ymhelaethu - Mae gan bobl ddoniau gwahanol ac mae nhw'n gwasanaethu mewn ffyrdd gwahanol ond mae pawb yn ffitio yn rhywle. Mae Duw yn rhoi gwaith i bawb ohonom yn yr eglwys, nid fel ein bod yn gallu dangos ein hunain, ond er budd cyffredin.
Yn bedwerydd, yn yr eglwys rydym yn cael profiad o bresenoldeb Duw mewn ffordd arbennig - dyma'r deml sanctaidd.Yr unig sôn am adeiladu eglwys yn y Testament newydd yw cyfeiriad am adeiladu gyda phobl.
Dywedodd yr Athro Gordon Fee fod presenoldeb yn 'air blasus'. Os ydych yn caru rhywun, yr hyn yr ydych eisiau yn fwy na dim arall yw presenoldeb yr unigolyn hwnnw.
Yn bumed, mae Iesu'n caru'r eglwys, hi yw ei briodferch. Mae Paul eto yn cymharu'r berthynas fel perthynas gwr a gwraig. Dyna'r cariad sydd gan Iesu tuag atom. Dywedodd Awstin Sant fod 'Duw yn caru pob un ohonom fel pe bai dim ond un ohonom i'w garu.'
Mae Duw, trwy ei gariad yn dweud; Rwyt yn un o'm pobl, rwyt ti'n rhan o'm teulu, rwyt ti'n un o'm cynrychiolwyr, rwyt ti'n gorff i mi ar y ddaear, rwyt ti'n deml sanctaidd, mae fy Ysbryd yn byw ynot ti, rwyt ti'n briodferch i mi.
Dyna eglwys Duw.