Gweddïwn.
"Pan fyddi'n gweddio, dos mewn i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad sydd yn y dirgel." Mathew 6:6
Mae arolwg ar ôl arolwg wedi dangos fod tri chwarter poblogaeth y wlad ddi-gred a seciwlar hon yn cyfaddef eu bod yn gweddio o leiaf unwaith yr wythnos!
Mi allan nhw weddio dwy fath o weddi - gweddiau ddysgwyd i'r ifanc megis 'Dduw, bendithia Mam a Dad a gwna fi'n fachgen da.'
Yn ail - gweddi pan mewn argyfwng ac mae yna fwy nag un stori yn sôn am anffyddwyr yn gweddio ar adegau fel hyn.
Ond y gwir yw fod gweddi yn weithgarwch bwysig yn ein bywyd, dyma sut rydym yn datblygu perthynas gyda'n Tad yn y nefoedd. Perthynas yw gweddi, nid defod.
Pan fyddwn yn gweddio rydym yn siarad gyda Chreawdwr yr holl fydysawd a rhaid i ni dddeall hynny ac ystyried maint y bydysawd. Dywedodd yr awdur Cristnogol Andrew Murray - "Mae nerth gweddi bron a bod yn dibynnu'n gyfangwbl ar ein dealltwriaeth ni o bwy rydym yn siarad ag ef."
Sut mae gennym ni hawl i 'ddod at Dduw' felly? Rydym yn ennill y fraint yma trwy'r Mab - trwy Iesu. Dyna'r rheswm ein bod yn gorffen ein gweddiau gyda'r geiriau 'trwy Iesu Grist ein Harglwydd'. Nid ffurf ar eiriau'n unig yw hyn ond rydym yn cydnabod mai dim ond trwy Iesu y gallwn ddod at Dduw. Iesu, trwy farw ar y groes a symudodd y mur oedd rhyngom ni a Duw.
Mae gwerth siec yn dibynnu nid yn unig ar y swm, ond hefyd ar yr enw sy'n ymddangos ar y gwaelod. Byddai siec am ddeg miliwn o bunnau gyda fy enw i ar y gwaelod werth dim i chi ond petai enw Bill Gates ar waelod y siec er engraifft byddai'n werth yr union swm oedd ar y siec.
Pan fyddwn yn mynd i fanc y nef does gennym ddim yno, dim yn fy enw fy hun. Ond mae gan Iesu Grist gredyd diddiwedd yn y nefoedd ac mae wedi rhoi i ni'r fraint o gael defnyddio ei enw.
"Gofynnwch ac fe roddir i chwi; ceisiwch ac fe gewch; curwch,
ac fe agorir i chwi. Oherwydd mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl
sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo yr agorir y drws." Mathew 7:7-8
Mae llawer o resymau dros weddio - diolch, moli, addoli, cyffesu, gwrando ac mae pob Cristion yn gwybod, o'i brofiad ei hun, fod Duw yn ateb gweddiau. Ond fan yma rhaid i ni gyd gofio fod 'na' yn ateb hefyd.
Wrth edrych ar y Beibl cyfan, rydym yn gweld digon o resymau da pam nad ydym bob amser yn cael popeth yr ydym yn gofyn amdano.
Weithiau nid yw ein gweddiau yn cael eu hateb oherwydd y byddwn yn gofyn am bethau nad ydynt o les i ni. Mae Duw yn ein caru ac yn gwybod beth sydd orau i ni. Nid yw rhieni da yn rhoi i'w plant yr hyn mae nhw'n ofyn amdano trwy'r amser.
Rydym yn disgwyl ateb 'ie' neu 'na' i'n gweddiau ond weithiau yr ateb fydd 'aros', ac fe ddylem fod yn ddiolchgar am hyn.
Dywedodd Ruth Graham (gwraig Billy Graham) wrth gynulleidfa yn Minneapolis, "Nid yw Duw wedi ateb fy ngweddiau bob amser, neu fe fyddwn wedi priodi'r dyn anghywir - sawl gwaith!"
Ambell waith ni fyddwn yn cael gwybod yn y byd hwn pam bod rhaid aros a pam mai na yw'r ateb. Pan mae rhiant neu berthynas agos yn colli'r dydd er gwaethaf ein holl weddio mae yna demtasiwn i ddweud 'dw i ddim yn credu mwyach' ac mi wn am rai sydd wedi cymeryd y llwybr yna. Dylai'r rhai hynny gofio'r adnod fawr -
"Canys o ran y gwyddom."
Mae yna adegau pan fydd rhaid i ni aros nes y gwelwn wyneb Duw yn y nefoedd er mwyn deall ei ewyllys.
Sut y dylem weddio felly? Mae rhai yn awyddus i gael patrwm i'w cynorthwyo. Beth am rywbeth tebyg i hyn-
ADDOLI - addoli Duw am bwy ydyw ac am beth mae wedi'i wneud.
CYFFESU - gofyn i Dduw faddau i ni am unrhyw beth yr ydym wedi'i wneud sy'n anghywir.
DIOLCH - diolch i Dduw am iechyd, teulu, ffrindiau ac yn y blaen.
YMBIL - gweddi drosom ni ein hunain, dros ein ffrindiau a thros eraill.
Cofiwch nad oes raid i ni fod mewn adeilad arbennig i weddio. Gallwn weddio ar y trên, ar y bws, yn y car, wrth gerdded ar hyd y ffordd, wrth orwedd yn ein gwely, yng nghanol nos, pryd bynnag, lle bynnag yr ydym.
Mae Duw wedi ein creu i gael perthynas gydag ef, felly cofiwch, perthynas nid defod.