Ble mae dyn?
Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
Mae llawer o sôn wedi bod am gofio ymdrechion y milwyr yn yr ail ryfel byd a chofio am y rhai fu'n garcharorion rhyfel, yn enwedig yr Iddewon mewn lleoedd erchyll fel Auschwitz ac yn y blaen.
Roeddwn yn darllen hanes un ferch yn mynd oddi amgylch yr 'Holocaust Exhibition' yn yr Imperial War Museum gyda Jonathan Sachs oedd, ar y pryd, yn Brif Rabbi Prydain. Mi ofynnodd y ferch iddo - "Chwe miliwn wedi eu lladd; pobl a'u ffydd yn gryf. Ble roedd Duw?
Ateb Sachs oedd "Y cwestiwn yw, nid ble roedd Duw ond ble roedd dyn?"
Mae hwnna'n fy arwain at hanes bachgen oedd yn byw ar stâd dai lle roedd y tai wedi eu hadeiladu oddi amgylch sgwar mawr o wair. Dyma le gwych i'r plant chwarae wrth gwrs a'r rhieni yn gallu cadw llygad arnyn nhw.
Un diwrnod bu cryn ffrae wrth i fachgen bostgar ddwyn beic bachgen llai a phlygu ei olwyn. Mi ddechreuodd y bachgen llai feichio crio ond roedd y plant i gyd yn meddwl ei fod yn dipyn bach o fabi mam fyddai wastad yn llefain beth bynnag. Felly roedd y plant i gyd yn sefyll o'r neilltu yn gwylio'r bachgen mawr yn ei bryfocio.
Yn sydyn ymddangosodd Mamgu y bachgen oedd yn adrodd y stori ac roedd mamgu yn fenyw gadarn. Mi holodd bob un o'r plant beth oedden nhw'n feddwl o'r bachgen mawr. Fe grybwyllwyd y gair 'bwli' gan bron bob un o'r plant.
Pan holodd am y bachgen bach mi ddywedodd pawb ei fod yn llefain o hyd. Dyma mamgu yn gofyn i'r plant os oedden nhw'n gwybod pam ei fod yn llefain o hyd? Oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw beth fyddai'n ei wneud yn anhapus?
Ac roedden nhw yn gwybod - roedd tad y bachgen bach wedi marw gan adael ei fam i fagu pedwar o blant ar ei phen ei hun; roedd y pedwar yn gorfod gwisgo dillad ail law ar ôl eu gilydd a'r plant eraill yn gwneud hwyl am eu pennau; a'r unig feic oedd ganddynt rhyngddyn nhw oedd y beic oedd newydd gael ei falu.
Roedd cywilydd mawr ar y plant.
Yna meddai mamgu, "Amgylchiadau sydd yn siapio bywyd pob yr un ohonom ac os na allwch chi ddychmygu eich hunain yn esgidiau'r bachgen bach yna a deall yr hyn mae wedi ddioddef a sut mae'n teimlo, does gyda chi ddim hawl barnu na bwlio. A trwy sefyll o gwmpas yn gwenud dim rydych chi gyd yr un mor euog! Roeddech chi'n gwybod fod rhywbeth o'i le yn yr hyn oedd yn digwydd a wnaethoch chi ddim byd. Mae hynny'n golygu nad ydych chi damaid yn well na'r bwli!"
Dyma ddywedodd Gandhi yn y cyswllt yma -
"In my humble opinion, non-cooperation with evil is as much a duty as is cooperation with good."
Mae'r geiriau yna yn procio cydwybod dyn wrth feddwl am yr holl fwlio sydd yn mynd ymlaen yn ein byd ni heddiw. Gwledydd mawr yn bwlio rhai llai, y cyfoethog yn bwlio'r tlawd, pobl grefyddol o bob cred yn cael eu bwlio am eu daliadau.
Oherwydd ein bod ni yn credu fod y problemau mor fawr fel na fydd ein barn ni yn cyfrif rydym yn sefyll yn ôl ac yn gwylio o'r ochr - yn union fel y plant gyda'r bwli. Rydym yn gwybod fod yr hyn sy'n digwydd yn anghywir ond yn gwneud dim. Allwn ni ddim beio Duw am hynny - ein bai ni yw hynny!
Cofiwch hefyd am y rhai sy'n cael eu cam-drin, fel tasech chi'ch hunain yn dioddef yr un fath.
GWEDDI
Gwyddom, O! Arglwydd, mai dy ddymuniad, a’th orchymyn di, yw ar i ni garu ein gilydd. ‘Dyma fy ngorchymyn i, ar i chwi garu eich gilydd fel y cerais i chwi.’ Rhaid inni gydnabod nad ydym yn llwyddo i wneud hynny bob amser.
Dyro i ddynion ym mhob gwlad ddod i sylweddoli o’r newydd fod cariad yn rhagori ar gasineb, a daioni yn rhagori ar ddrygioni. Gwrando arnom yn ein gweddi, a helpa ni i weini cyfiawnder wedi ei seilio ar yr egwyddor o gariad, yn enw Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.