Dylanwadau

jon-tyson-P2aOvMMUJnY-unsplash.jpg

1 Corinthiaid 3 : 10-11

Rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai ond un sylfaen sy'n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia.

Diarhebion 1 : 10

Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw.

Pregethwr 12:1

Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd.

Dyna dair adnod allan o dri gwahanol lyfr yn y Beibl - o'r Hen Destament a'r Testament Newydd. Wrth edrych ar yr adnodau yna rwy'n meddwl am y fagwraeth gafodd cynifer ohonom yn y chwedegau a'r saithdegau ym mhentref Drefach. Mae cyfeillion ac arferion bore oes yn dylanwadu cymaint arnom fel unigolion, yn llunio ein dyfodol yn ddiarwybod i ni bron.

 

Pan gyrhaeddais ysgol Drefach yn 1968 cefais fy rhoi i eistedd wrth ochr bachgen o'r enw Julian Nicholas. Dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach rydym yn dal yn ffrindiau pennaf er fod Julian yn Dubai ers blynyddoedd.

Y bachgen cyntaf i ddod yn y car gyda ni, yn mynd adref am ginio dw i'n credu, oedd Gareth Griffiths. Deunaw mlynedd yn ddiweddarach roedd Gareth yn was priodas i mi a Caroline.

Ar fy niwrnod cyntaf yn ysgol y Gwendraeth cafodd Julian a fi ein gwahanu gan fy mod i'n mynd i'r ffrwd Gymraeg. Doeddwn i'n nabod neb yno ond mi wnes ffrindiau gyda bachgen o Bontyberem, Huw Williams. Fe ddaeth Huw a finnau yn agos iawn ac rydym yn dal yn ffrindiau da.

Yn y dosbarth Ysgol Sul yn Hebron yn y saith degau roedd tri ohonom yn nosbarth y bechgyn - Gareth, Stephen a finnau ac rydw i yn weinidog ar yr eglwys lle cawsom ein magu a Gareth a Stephen yn ddiaconiaid ac yn ffrindiau ffyddlon.

Dylanwadau a chyfeillion bore oes.

 

Mae fy meibion i fy hunan yn synnu pan dw i'n esbonio iddyn nhw faint o siopau oedd yn Drefach pan oeddwn yn tyfu fyny - y garej, siop trin gwallt Anona, y Coffee Bar, Siop Vince (ironmonger), siop Edwina, siop Ifor y bwtsiwr, Emlyn y Chemist, Swyddfa'r Post a siop fach Mrs.Greville.

Roedd mam yn ceisio cefnogi pob un o'r rhain a hynny, heb i mi sylweddoli, yn dysgu pwysigrwydd cefnogi'n cymuned ein hunain i mi. 

 

Rydym yn dod allan o'r cyfnod o ynysu ac mae'n bwysig ein bod ninnau yn cefnogi ein busnesau lleol. Mi gollwyd nifer o siopau pentref wrth i ni fynnu cael nwyddau rhatach mewn archfarchnadoedd. Mae yna wers bywyd fan yna hefyd.

 

Roedd y gwersi a ddysgwyd yn yr Ysgol Sul yn wersi moesol hanfodol er nad oeddem yn gwerthfawrogi hynny ar y pryd wrth gwrs. Dylanwad pobl fel May Isaac ac Ernie Roerts a Handel Greville oedd yn gyfrifol fy mod i a nghyfeillion yn ymwybodol iawn o wirionedd yr adnod

"Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw."

Mewn dyddiau lle mae cymaint o newid yn ein pentrefi a phobl ddiarth yn llawer mwy amlwg nag yr oedden nhw, mae dyn yn sylweddoli faint oedd dylanwad ein ffordd o fyw a phobl ein cymuned arnom fel plant yn tyfu fyny. Roeddwn yn dweud yn ddiweddar fy mod yn siwr mai fy nghenhedlaeth i fydd yr olaf fydd yn cerdded o gwmpas y pentref "yn disgwyl adnabod" pawb arall!

Wrth gofio'n ôl, ac mae yna berygl o wisgo'r "rose tinted glasses" wrth gwrs, syml oedd ein arferion chwarae ni fel plant a ieuenctid. Mi fydd rhai yn cofio mai'r gêm fwyaf mentrus i ni oedd "kiss, kick or kill"! Dyna'r unig amser y byddai'r merched yn ymuno yn chwarae'r bechgyn. Rhedeg ar ôl ein gilydd ac o ddal rhywun cael y dewis - kiss, kick or kill - wnes i erioed ddeall y 'kill'!

Fe fyddem fel bechgyn yn chwarae peldroed yn ddyddiol ar y parc neu ar gwrt pêl rhwyd y Gwendraeth. Byddai digon ohonom i wneud dau dîm deche - Gareth, Julian, Stephen, Alan Bennett, Hugh Lloyd, Hugh Davies, Anthony Jones, Rhys Trevor, Ithel Morgan, Gareth Williams, Gareth y Pentre, Clem Thomas, Jeff Williams i enwi rhai, a byddai bechgyn eraill hÿn na ni yn ymuno weithiau hefyd.

Un peth arall oedd gennym heblaw pêl, sef beic, er fy mod i yn eitha hwyr yn cael fy meic cyntaf - un glas ail law ar ôl Alan Bennett. Lawr i 'Gwaith Bach' i sgramblo, heb sylweddoli fod shaftiau peryglus yn guddiedig yno! Doedd dim rhwystr arnom fel plant rhag mynd i unrhyw ran o'r pentref yr adeg honno, yn wahanol i'r dyddiau gwyliadwrus yma.

Ond roedd festri Hebron a Chapel Seion yn ganolog i mywyd i a nifer eraill hefyd. Yr Ysgol Sul, dwy fws ar drip yr Ysgol Sul, Y Gymanfa a'r bechgyn ar un ochr i'r galeri a'r merched yr ochr arall. Y cyfan yn dylanwadu mewn modd tawel a'r egwyddorion yn treiddio i'r isymwybod.

Wrth i flynyddoedd cynradd dreiddio i flynyddoedd uwchradd fe ddatblygodd y rygbi a'r diddordeb amaethyddol a bu'r ddau fyd hynny yn ddylanwad mawr arna i hefyd ond gobeithio na wnes i anghofio "fy nghrëwr tra roeddwn yn ifanc."

Ie, hwn oedd y sylfaen ac mae'r cyfan a wnes i yn ystod fy mywyd wedi ei adeiladu ar y sylfaen hwnnw. Er fy hoffter o mhêl a'm beic yn y cyfnod cynnar yma fe hoffwn feddwl mai'r "gonglfaen oedd Iesu Grist."

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Daniel yn tystio.

Next
Next

Ble mae dyn?