Buddigoliaeth y Groes.

Mae’r wythnos sanctaidd hon yn wythnos hynod o bwysig ar y calendr Cristnogol. Dyma’r wythnos pan fyddwn yn dathlu digwyddiadau a gwirioneddau mwyaf canolog ein ffydd. Yr wythnos hon, dathlwn wythnos olaf gweinidogaeth ddaearol Iesu: ei fynediad i Jerwsalem, y swper olaf, ei frad, ei farwolaeth, a’i atgyfodiad.


Bydd gwasanaeth Gwener y Groglith yng Nghapel Seion am 10.30 bore Gwener, Ebrill 15ed pan fydd Bethesda a Nasareth yn ymuno gyda ni i gofio marwolaeth Iesu ar y groes. 

Clywais rywun yn cellwair unwaith gan ofyn, “Pam rydyn ni'n ei alw'n Ddydd Gwener y Groglith? Nid yw’n ymddangos ei fod yn ddiwrnod da iawn i Iesu.” Ac mae hynny'n ymddangos yn bwynt da. Roedd y diwrnod y croeshoeliwyd Iesu yn ddiwrnod difrifol a garw.

Oherwydd natur treisgar y dydd, gallwn fod â’r duedd i drin gwasanaeth Gwener y Groglith fel petai’n angladd Iesu. Ond mae hynny’n methu rhywbeth o ddaioni Dydd Gwener y Groglith. Mae daioni dwfn a chyfoethog iddo. Mae’n ddiwrnod mae Duw am inni ei ddathlu.


Bu Marwolaeth Iesu yn Fuddugoliaeth Ufudd-dod.

Cawn ein llorio pan ddarllenwn am eiriau Iesu oddi ar y groes: “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”

Wrth inni glywed geiriau Iesu o boen, cawn gip ar y dioddefaint a brofodd wrth iddo hongian ar y groes drosoch chi a fi. Nid yw hyn yn rhywbeth y dylem byth ei brwsio heibio neu ei gymryd yn ysgafn. Yn y foment honno, torwyd yn llwyr y cysylltiad oedd wedi bod rhwng y Tad Nefol a'r Mab Iesu. Felly pan mae Iesu’n gofyn pam mae Duw wedi ei wrthod, mae hynny oherwydd ei fod yn teimlo pwysau gwahanu tragwyddol oddi wrth ddwyfoldeb yn yr eiliad honno ar y groes.


Unwaith i Bawb Oedd Marwolaeth Iesu.


Wrth ddathlu Dydd Gwener y Groglith, cofiwn fod Iesu wedi marw unwaith ac am byth. Ac mae hynny'n golygu nad oes angen i ni ei groeshoelio eto bob blwyddyn. Mae hyn hefyd yn golygu nad oes angen inni ddarostwng ein hunain i olygfeydd o “Ddioddefaint y Crist,” nac i ddisgrifiadau goriog am erchyllterau’r croeshoelio.

Nid pwynt stori’r croeshoeliad yw sgandal a dioddefaint corfforol Iesu – er ei fod yn ddirmygus. Ni ddigwyddodd dim i Iesu nad oedd yn rheoli.

Y pwynt yw bod Iesu yn gwneud aberth unwaith am byth i chi a fi. A'i aberth wedi ei gwblhau. Mae'r gwaith wedi'i orffen.


Gweithred Cariad oedd Marwolaeth Iesu.

Mae stori'r croeshoeliad yn ymwneud â gweithred o gariad. Roedd yn weithred o gariad i chi a fi. Mae’r manylion sy’n sefyll allan yn naratif y croeshoeliad ac yn fffordd yr oedd Iesu’n caru pobl, hyd yn oed yn yr eiliadau tywyllaf yn ei fywyd daearol. Pan edrychodd Iesu ar y bobl oedd yn gwneud y pethau erchyll hyn iddo, gweddïodd am iddynt dderbyn maddeuant, oherwydd nid oeddent yn deall beth yr oeddent yn ei wneud. Pan bu Iesu’n hongian wrth ymyl troseddwr ar groes fe addawodd Iesu baradwys iddo oherwydd ei ffydd.

Pan edrychodd Iesu ar ei fam a'i ffrind, Ioan, fe anogodd eu calonnau trwy ymddiried gofal ei fam i Ioan. A phan orffennwyd ei weithred o gariad, efe a gyflwynodd ei ysbryd i ddwylo'r Tad. Dyma beth rydyn ni'n ei gofio ar Ddydd Gwener y Groglith: y weithred eithaf o gariad.

Trwy ei aberth, mae Iesu wedi talu'r gosb. Mae wedi ein cymodi ni yn ôl â Duw. Nid ydym bellach yn bodoli mewn perthynas â Duw a ddiffinnir gan euogrwydd a chywilydd. Rydyn ni'n gweithredu mewn perthynas sy'n llawn diogelwch a chariad.

Ydyn ni'n dal i bechu? Ydyn. Oes angen inni gyfaddef hyn o hyd? Yn hollol. Oes angen inni lanhau ein calonnau yn barhaus a cheisio’r daioni y mae Iesu’n ein galw i mewn iddo? Boed i ni ei dderbyn fel galwad i fyw yng Nghrist.

Pwynt Dydd Gwener y Groglith yw bod gennym bellach y modd i agosáu at Dduw. A gallwn nesau at Dduw yn hyderus. Dyma’r berthynas y mae Iesu wedi’i gwneud yn bosibl i ni.

Rhoddodd Iesu Ei Fywyd Er mwyn i Ni Brofi Bywyd Digonol.

Nid marwolaeth yw pwynt Gwener y Groglith. Pwynt dydd Gwener y Groglith yw bywyd. Rhoddodd Iesu ei fywyd, er mwyn i chi a minnau gael bywyd. Rhoddodd ei fywyd fel y gallwn brofi math toreithiog o fywyd. Felly nid gwasanaeth angladd yw Dydd Gwener y Groglith. Mae’n ddathliad o bopeth mae Iesu wedi’i wneud i ni. Mae'n bwynt rali o'n buddugoliaeth fwyaf. Hyd yn oed mewn marwolaeth, ni allai Satan ennill. Profodd Iesu fuddugoliaeth ar y groes, a ninnau hefyd.

Mae marwolaeth wedi colli ei bigiad.

Previous
Previous

Oes aur.

Next
Next

Dylanwad y Pasg