Oes aur.

Ioan 10:14

"Fi ydy'r bugail da. Dw i’n nabod fy nefaid fy hun a mae nhw'n fy nabod i...”

Rydw i am ysgrifennu am rywbeth hollol wahanol i’r arfer yn y blog yma a gofyn cwestiwn – pam fod cyn lleied o weinidogion o gwmpas ar hyn o bryd?

Fe fyddai ysgrifenyddion cyhoeddiadau capeli yn dweud wrthych ei bod bron yn amhosibl cael gweinidog ordeiniedig i ddod atynt ar fore Sul. Y gwir yw fod gormod o eglwysi a dim digon o weinidogion i gyflawni’r Gwaith.

Pan oeddwn i’n tyfu fyny yn y 70au ym mhen uchaf Cwm Gwendraeth roedd fy nhad yn weinidog yng Nghapel Seion ac mi ddywedodd wrth mam, “mae hon yn oes aur yn y cwm yma, welwn ni ddim cyfnod fel hyn eto.” Cyfeirio yr oedd e at y ffaith fod gweinidog ymhob eglwys. Fe fydd nifer yn cofio y canlynol –

Fy nhad yn Capel Seion; Eurfin Morgan yn Bethesda; Glyndwr Richards yn Bethel; Tom Eirwyn Evans yn Bethania; D.J.Jones yn Cross Hands; Emrys Williams yng Nghefneithin; Wilbur Lloyd Roberts, Gwyn Eifion Rees a Densil Morgan ym Mhenygroes; Richard Hughes ac yna Hywel Evans yn Llanddarog; Bryn Jones ym Mhorthyrhyd; Dafyddd Wyn William ym Mhontyberem.

Roedd yna rai eraill hefyd a bron yn ddieithriad yn weinidog ar un eglwys.

Dw i’n cofio nifer fawr o’r enwau uchod yn galw yn y Mans yn Drefach.

Beth yw’r sefyllfa erbyn heddiw, tua hanner can mlynedd yn ddiweddarach?

Rydw i yn gweinidogaethu yn Capel Seion a Bethesda ynghyd â Nasareth, Pontiets; mae Aled Maskell ym Mhorthyrhyd a Phenygroes; mae Emyr Williams yn Llanddarog a Soar, Pontyberem; mae Emlyn Dole yn Caersalem a Hermon, Llannon a Meinciau. A dyna ni, o Benygroes i Drimsaran!

Y gwir yw fod hyn yn adlewyrchiad o Gymru ben baladr, dy’n ni ddim gwahanol i unrhyw gwm neu ddyffryn arall.

Beth sydd i’w feio am hyn? 

Dw i’n ymwybodol mai prin iawn yw’r bechgyn neu ferched ifanc sydd yn dewis mynd i goleg diwinyddol o’r ysgol bellach a rhaid derbyn fod y mwyafrif sydd wedi troi at y weinidogaeth yn ddiweddar wedi gwneud hynny wrth newid cyfeiriad. Mi ydw i fy hunan wedi gwneud hynny, fel fy nghyfeillion Emyr Williams, Gareth Ioan ac Euron Hughes er engraifft.

Wn i ddim am y lleill ond doeddwn i yn sicr ddim yn ddigon aeddfed i ymgymryd â’r barchus arswydus swydd hon yn gynt. 

Mi fyddai fy nhad yn dweud o hyd y dylai dyn fynd i weithio ymhlith dynion cyn mynd yn weinidog er mwyn dod i adnabod pobl. Dyna sylw arall o’i eiddo yr ydw i yn ddeall yn iawn erbyn hyn.

Wrth geisio edrych pam fod y fath newid wedi cymryd lle ga i fentro dweud mai’r pwyslais ar fateroliaeth a’r newid yn ein ffordd o fyw sydd i gyfrif. 

Mae newid aruthrol wedi bod yn ein defnydd o’r Sul; bellach mae dydd Sul fel pob diwrnod arall i’r mwyafrif llethol. Dw i wastad wedi dadlau mai difaterwch ac nid anffyddiaeth yw problem fawr Cymru. Oherwydd yr angladdau yr ydw i yn eu cynnal i bobl nad ydynt yn mynd yn agos i gapel rwy’n gwybod eu bod yn credu ond mae pethau eraill, pwysicach yn llenwi eu Suliau a’u bywydau.

Dw i’n cael pleser aruthrol o weithio gyda pobl a gallu helpu pobl ond y gwir yw os ydy’n heglwysi yn wag mae llai o bleser i’w gael i’r cyfeiriad yma. 

O’r herwydd a ydy pobl ifanc yn gweld y weinidogaeth yn gyfeiriad anodd i’w ddilyn neu yn ddibwynt yn yr oes hon efallai?

Efallai bod rhaid i ninnau yn ein heglwysi ystyried ein cyfeiriad hefyd a chraffu o ddifrif ar ein cyflwr. Oes angen gwneud newidiadau? A fyddai moderneiddio mewn gwahanol ffyrdd yn help i ddenu pobl ifancach i’r weinidogaeth?

Hawdd yw beio eraill o hyd. Yn sicr, mae yna newid pwyslais mawr wedi bod mewn cymdeithas ond fe ddylem holi ein hunain a ydym ni wedi ceisio newid er mwyn cystadlu gyda’r newidiadau yma?

Mae arna i ofn mai holi ydw i nid cynnig yr atebion ond fe hoffwn derfynnu gyda dau sylw.

Cais ar i eglwysi sydd yn brin eu cynulleidfa ac aelodau i weithio gyda’u gilydd yn wyneb y ffaith syml nad oes digon o weinidogion i lenwi pob pulpud ar yr un pryd.

Cais hefyd ar i eglwysi beidio ofni newid oherwydd mae’r eglwys wedi diwygio cyn hyn a chyn belled a bod Crist yn y canol does dim gwahaniaeth.

I unrhyw un allan yna sydd yn ystyried gyrfa yn y weinidogaeth neu wedi meddwl am y peth ga i ddweud fod yna fodlonrwydd mawr i’w gael o allu bod o gymorth i bobl yn eu hangen a phleser mawr mewn gweld pobl ifanc yn datblygu yn oedolion hyderus wedi cael sylfaen gadarn.

Mathew 20 : 26-27

Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod fel gwas bach.

 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Cysur y Pasg

Next
Next

Buddigoliaeth y Groes.