Byddin Iesu.
Yn 1 Timotheus 3:15, mae’r Apostol Paul yn dweud wrth Timotheus mai’r eglwys yw cartref y Duw byw. Corff Crist yw'r eglwys lle mae Crist yn ben, ac yn breswylfa'r Ysbryd Glân. Fel credinwyr yng Nghrist, rydym yn perthyn i'n gilydd fel aelodau o'i gorff. Dyna pam y cyfeirir at yr eglwys weithiau fel teulu. Mae’r bobl o'n blaen ni wedi eu dwyn i'r teulu hwn trwy eu cyffes bersonol o ffydd yn lesu Grist. Ar ôl cael eu harchwilio a’u cymeradwyo ar gyfer eu haelodaeth yma yng Nghapel Seion caiff bob un o’r bobl ifanc eu derbyn yn gyhoeddus a’u croesawu gan ein cynulleidfa.”
Mae aelodaeth eglwysig yn bwysig i bob un ohonom. Mae'n bwysig i bob un sy'n dilyn Crist ddod o hyd i eglwys sy'n canolbwyntio ar Grist ac nid yn unig ei mynychu, ond ymuno â hi. Mae ymuno ag eglwys yn arwydd o ymrwymiad i Dduw a’i bobl.
Dyma’r cwestiynau sydd rhaid i ni gyd ateb. Nid pobl ifanc yn unig. Mae adnewyddu addunedau priodas yn weddol gyffredin erbyn hyn. Pam na allwn adnewyddu ein hatebion i’r cwestiynau canlynol?
1. “Ydych chi’n cyffesu ffydd yn Iesu Grist fel eich Arglwydd a Gwaredwr personol ac ydych chi’n dymuno uwchlaw popeth arall i fyw iddo?”
2. “Ydych chi am ymuno â’r gynulleidfa hon?”
3. “Ydych chi’n datgan eich bwriad i fyw mewn cytgord â diwinyddiaeth a chredoau'r eglwys hon?”
4. “Ydych chi’n addo meithrin eich cerddediad gyda’r Arglwydd trwy’r disgyblaethau ysbrydol, a charu credinwyr eraill yn yr eglwys hon?”
5. “Ydych chi’n addo cynnal y gynulleidfa hon trwy eich presenoldeb ffyddlon yn ei gwasanaethau, trwy anogaeth ei harweinwyr, defnydd parod o'ch talentau yn eich gweinidogaeth bersonol, a rhoi o'ch talentau fel y rhoddodd Duw i chi?”
Mae bod yn ymroddedig i eglwys Iesu Grist nid yn unig yn aelod o eglwys ond yn fwy o ffordd o fyw.
Adnabod Iesu fel ffrind yw’r maen clo. Yr un sy'n dal holl strwythur yr eglwys ynghyd ac un sy'n amddiffyn, yn darparu sefydlogrwydd, yn cynnal porth i'r Tad nefol ac yn bresennol bob amser hyd yn oed pan fydd trawma bob dydd yn ysgwyd pileri eich bywyd.
Y gwasanaeth o dderbyn aelod yw'r ail gam. Y cam cyntaf yw cael ein paratoi yn yr Ysgol Sul wrth adrodd ein hadnodau o'r pulpud, darllen emyn, darllen adran o'r Beibl neu'n gweddïo yng ngwasanaeth arbennig Cwrdd y Plant.
Ydy mae’r paratoi i gymryd y cam o ddod yn aelod eglwysig yn garreg filltir bwysig ond nid yr unig jyst yn rhan o’r daith y mae angen inni ganolbwyntio arni. Mae pobl ifanc wedi'u paratoi'n dda ar gyfer eu rôl yn yr eglwys ac mae ganddynt y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd angen eu meithrin gyda phrofiadau eglwysig a bywyd yn unig. Mae'r bobl ifanc a dderbyniwyd gennym yn brofiadol sydd wedi eu tymheru gan gariad Crist a heriau i'r naratif personol.
Croeso i bobl ifanc ac aelodau newydd Gapel Seion ac i fyddin Iesu yn Nrefach a'r cyffiniau.