Ffydd Syml Plentyn.

Dychmygwch yr olygfa ar ddiwrnod prysur arall ym mywyd Iesu. Mae ei enw da wedi lledaenu a phrin y mae ganddo amser iddo'i hun mwyach. Ym mhob man y mae ef a'i ddisgyblion yn troi, mae yna bobl. Pobl sâl, pobl anghenus, pobl sy’n cyhuddo, pobl amheus. Ac, ar y diwrnod rydym yn ystyried, mae yna hefyd griw o blant o amgylch.

Roedd yn ymddangos bod rhieni yn y dorf wedi dechrau gwthio a gwthio eu ffordd ymlaen gyda'u plant eu tynnu’n agosach at Iesu. Roeddent wedi dod oherwydd ei bod yn arferiad yn y dyddiau hynny i athro mawr y gyfraith osod eu dwylo ar blant a gweddïo drostynt er mwyn eu bendithio. Dyna’n union beth roedd y rhieni hyn yn ei wneud.

Roedd disgyblion Iesu ddim eisiau unrhyw ran ohono. Yn wir, “ceryddodd” y disgyblion y rhieni gan fod y plant yn anflonyddu’r cyfarfod (Mth. 19:13). Roedd y dysgyblion ddim yn gwrtais o gwbl; “Mae Iesu yn dysgu ar hyn o bryd, ond rydyn ni’n mynd i gael cyfarfod a chi nes ymlaen ac mae felly mai croeso i chi ddod wedyn.”

Yr oedd Iesu, serch hynny, wedi cynhyrfu hyd yn oed yn fwy nag erioed: “Pan welodd Iesu hynny, digiodd a dywedodd wrthynt, ‘Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi’” (adn. 14).

Roedd Iesu'n siomedig iawn gyda'i ddisgyblion, ond dyma’r unig amser yn y Beibl lle mae’n “ddig” gyda nhw. Yn amlwg, roedd y disgyblion wedi methu rhywbeth hollbwysig am natur teyrnas Dduw a beth mae’n ei olygu.

“Peidiwch â'u hatal, oherwydd i rai fel y rhain y mae teyrnas Dduw yn perthyn. Yr wyf yn eich sicrhau: Pwy bynnag nad yw'n croesawu teyrnas Dduw fel plentyn bach, ni chaiff byth fynediad iddi.”

Mae’n ymddangos, er yr holl gynnydd mewn gwybodaeth, dealltwriaeth ac agosrwydd at Iesu yr oedd y disgyblion heb symud ymlaen o gwbl. Mewn gwirionedd, roedd y plant hyn yn nes at ddeall beth mae'n ei olygu i ddod at Iesu a chofleidio ei deyrnas nag oedd y disgyblion. Mae'r un peth yn wir i ni. Os ydyn ni am ddod at Iesu, yna mae'n rhaid i ni ddod at Iesu â ffydd plentyn.

Ond beth mae hynny'n ei olygu? Dyma dair nodwedd:

1. Mae ffydd plentyn yn syml.

Rydym yn tueddu cymhlethu pethau wrth dyfu’n hÿn. Ond mae pethau'n fwy syml i blant, ac mae hynny'n nodwedd hardd pan ddont i ffydd. Mae ffydd plentyn yn sicr ac yn fwy na digon:

Mae Iesu'n fy ngharu i. Mae Iesu yn ffrind i mi. Mae Iesu yn dweud y gwir. Bydd Iesu o hyd yn gwneud y peth iawn. Bydd Iesu yn cadw ei addewidion.

2. Nid yw ffydd plentyn yn hunanymwybodol.

Mae’n ansicrwydd yn tyfu wrth i ni dyfu’n hun. Rydym yn siarad, yn gweithredu, yn postio, yn symud - i gyd wrth edrych yn ôl i weld sut mae pobl yn ymateb. Ond mae plant yn wahanol. Mae plant yn rhai sy’n gwneud. Dyw plant ddim yn poeni cymaint am farn pobl eraill; does dim amser ganddynt i bethau o'r fath. Byddai'n dda i ni ddysgu oddi wrth blant pan ddaw i ffydd.

Mae cael ffydd fel plentyn yn golygu ein bod ni'n gweddïo. Yn ufuddhau yn y modd mwyaf syml. Yn syml, mae angen i ni ymddiried, a pheidio a poeni gormod am beth mae pobl eraill yn meddwl amdanom.

3. Mae ffydd plentyn yn llawen.

Fel oedolion, mae ein ffydd yn cael ei harfer yn aml gydag ymdeimlad o galedi. Mae hynny oherwydd ein bod wedi cronni oes o siomedigaethau a theimladau loes, o frad a phoen. Ond mae ffydd plentyn yn cael ei nodi gan fath llawen o ddisgwyl. Mae'r plant yn gofyn am rywbeth ac yna'n aros i weld yr ymateb. I'r gwrthwyneb, rydym yn betrus yn gwneud ceisiadau.

Gadewch inni fod yn ofalus nad ydym yn mabwysiadu agwedd y disgyblion. Gadewch i ni fod yn ofalus ein bod ddim yn diystyru ysgogiadau’r plentyn o’n mewn, oherwydd os gwnawn ni, efallai y na fyddwn yn rhan o deyrnas Iesu.

Previous
Previous

Cyfnod y Cofid.

Next
Next

Byddin Iesu.