Camdrin Plant
Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.” Mathew 19
Dyna'r adnodau a'r egwyddor a ddysgwyd i ni gyd fel plant yn yr Ysgol Sul slawer dydd. Mae Iesu yn caru plant ac yn disgwyl i ninnau fod yn fawr ein gofal ohonyn nhw. Dyletswydd bleserus yw hon i'r mwyafrif llethol ohonom ond mae yna eithriadau wrth gwrs ac mae yna engreifftiau o gamdrin dybryd yn ein byd. Wedi cydnabod fod yna adegau o gamdrin does yr un ohonom, fel Cristnogion, yn disgwyl i'r camdrin hwnnw gymeryd lle wrth law rhai sy'n honni bod yn gynrychiolwyr Crist ar ein daear! Dyna'r hanes sydd wedi dod i'r golwg yng Nghanada ac fe gefais i fy nghyffwrdd yn aruthrol a'm syfrdanu gan yr hanes yng nghylchgrawn y Sunday Times.
Yn 1902 daethpwyd o hyd i gorff Duncan Sticks wedi hanner rhewi yn yr eira. Ffermwr ddaeth o hyd iddo - bachgen wyth mlwydd oed a gwaed ar ei fochau a thu ôl i'w glustiau a rhan o un foch wedi ei fwyta gan anifail. Roedd wedi rhedeg i ffwrdd o St.Joseph's Mission Indian Residential School ger Williams Lake, British Columbia, gyda 8 ffrind oherwydd eu bod yn cael eu camdrin.
Roedd llawer o redeg i ffwrdd o'r sefydliadau yma- dyma eiriau Ellen Charlie,
"Fe redais i ffwrdd bedair gwaith oherwydd roedd y Sisters a'r Fathers yn ein camdrin; roeddem yn cael bwyd gwael, ffit i foch; cefais fy nghloi mewn ystafell am wythnos; roedden nhw'n fy chwipio gyda strapen ledr ar fy ngwyneb ac weithiau yn fy stripio'n noeth a chwipio fi."
Ie, rydych chi wedi darllen yn iawn - 'Sisters a Fathers' - pobl honedig Gristnogol ond mae hynny yn amheus iawn yn ôl y dystiolaeth. Beth am dystiolaeth te?
Yn 2002 - canrif ar ôl darganfod corff Duncan mi wnaeth Edward Gerald Fitzgerald, cyn oruchwyliwr dormitory yn St.Joseph's ddianc i Iwerddon i osgoi cyfiawnder. Cafodd ei gyhuddo ar 21 cyfrif o ymosod rhywiol, 'buggery' ac ymosododiadau yn y 1960au a 70au yn St.Joseph's a Lejac, ysgol arall i Indiaid.
Beth oedd bwriad yr ysgolion yma felly, pam roedd y plant yno yn y lle cyntaf?
"The prevailing philosophy was "to kill the Indian in the child."
Rhoddwyd rhif i blant a newid eu henwau i enwau seintiau neu frenhinoedd Prydeinig.
Meddai Robert Baxter - "We couldn't speak a word of English, but we had to learn pretty quick. They would punish us, humiliate us, strap us if we spoke our native language."
Mae hyn yn ein hatgoffa ni o'r Welsh Not ond ar raddfa llawer mwy difrifol.
Wrth ystyried mai pobl grefyddol oedd yn rhedeg yr ysgolion yma rwy'n eich arwain at adnodau yn llythr Paul at yr Effesiaid.
15 Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. 16 Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman.
CHWILIO AM GYFIAWNDER
Yn 2008 mi sefydlwyd y 'Truth and Reconciliation Commission' gan lywodraeth Canada i archwilio. Eu canlyniad, yn 2015, oedd bod 4,100 o ddisgyblion wedi marw o glefydau, camdriniaeth, damweiniau, esgeulustod neu hunan laddiad dros gyfnod o ganrif a mwy.
Darganfyddwyd 'unmarked graves' yn ysgol Marieval yn Sasketchwan - 751 ohonyn nhw! Mae dros 1300 wedi eu darganfod i gyd mewn gwahanol leoliadau.
Mae Chief Fred Robbins o'r Esk'etemec First Nation yn sôn am y camdrin corfforol, rhywiol a geiriol ac yn dweud am "priests and supervisors" yn dod mewn wedi meddwi i welyau plant ac yn dweud - 'If you tell you are going to hell.' Roedden nhw'n honni mai nhw oedd gair Duw!
Mae clywed hynna yn codi cywilydd arna i fel gwas i Iesu Grist ond wedi dweud hynny, nhw sydd wedi anwybyddu neges yr Iesu. Mae'r llythr at yr Effesiaid yn glir yn hyn o beth -
Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw.
Y gwir plaen yw fod y dyn gwyn wedi rheibio cymaint o wledydd a camdrin y bobl frodorol ac fe ddylem ymddiheuro am hynny. Yr hyn sy'n waeth fan hyn wrth gwrs yw fod pobl honedig grefyddol wedi camymddwyn yn y fath fodd.
Dyw Cristnogion honedig ddim yn berffaith ar draws ein byd ond rhaid cofio nad yw pob un sydd yn galw ei hun yn Gristion yn Gristion go iawn.
Oddi wrth eu gweithredoedd mae dynion yn cael eu mesur.