Llawenydd

Daw llawenydd mewn nifer o ffyrdd i nifer o fobl ac mewn nifer o amgylchiadau.

 

Mi ddarllenais yn ddiweddar am wyliau nadolig a dreuliodd yr awdur a'r darlledwr Sheridan Voysey a'i wraig gyda ffrindiau ar ynys Mull yn yr Alban ac yn rhyfeddu at ei ddisgrifiad o'r ynys, a hynny yn arwain at y pethau oedd yn rhoi pleser iddo. Mae ynys Mull yn le lledrithiol - mynyddoedd ag eira ar eu copa, yr awyr yn ddramatig, melyn a brown y triwedd yn drawiadol. Un munud mae dyn yn gyrru trwy storm o eira a'r funud nesaf fe welwch chi yr haul yn torri trwy'r cymylau gan oleuo'r dyffryn niwlog yn felyn. Roedd Voysey yn sôn am eistedd yn y 'conservatory' a gweld enfys ddwbl ac roedd yn teimlo fod Mull yn le llawn o hud a lledrith.

Roedd harddwch naturiol fel yna yn ei wneud yn hapus a dechreuodd feddwl am bethau eraill oedd yn ei wneud yn hapus - teithiau hir ar y trên, siop lyfrau ail law, tafarn gysurus ar ddiwrnod glawog, sgwrs ddifyr, chwerthin plentyn, cerddoriaeth New Order a Florence and the Machine, bwyty dim sum da, pancos gyda siwgr a lewmwn, darllenwr yn dweud wrtho fod un o'i lyfrau wedi eu helpu a ceirios wedi eu gorchuddio â siocled tywyll. (I arall eirio Benjamin Franklin - mae siocled yn profi fod Duw yn bod a'i fod eisiau i ni fod yn hapus!)

Mi wnaeth darllen rhestr a disgrifiadau Voysey wneud i mi feddwl am y llefydd a'r pethau oedd yn fy ngwneud i yn hapus - dw i'n hapus o hyd yn ardal Frejus yn Ne Ffrainc lle mae'r môr a'r mynyddoedd yn llawn lliw a heulwen, Cymanfa Ganu Capel Seion, gwylio gêm yn Old Trafford, pryd o fwyd gyda ffrindiau mewn bwyty da, chwarae golff gyda'r meibion, cael cwmni'r wyrion, gwrando ar gerddoriaeth Chiz neu Billy Joel a dw innau hefyd yn hoff iawn o siocled!

Tro nesaf y byddwch yn teimlo'n chwithig neu ar goll meddyliwch am y pethau sy'n eich gwneud yn hapus neu'n rhoi llawenydd i chi.

 

Y Beibl

Fe honnir bod mwy am lawenydd yn y Beibl nac am hapusrwydd a hynny am reswm da. Mae'r pethau sy'n eich gwneud yn hapus yn bethau dros dro - dyw siocled ddim yn para, mae'r caneuon yn gorffen mewn ychydig funudau, mi ddiflanna'r haul yn Ne Ffrainc. Ond mae llawenyd y Cristion yn hir ymaros.

Mae'n tarddu o Ysbryd Crist sydd yn dod i fewn ac yn byw ynom os ydym yn dymuno hynny. Mae'r llawenydd yma yno hyd yn oed ar adegau anhapus.

Fe ddywed fy Meibl wrtha i fod pob rhodd yn dod oddi wrth Dduw, gan  gynnwys pethau byrhoedol megis heulwen, bwyd a hapusrwydd. 

Duw roddodd y gallu i ddyn wneud siocled a gwin! Mae profi'r ddau gyda'u gilydd yn gallu bod yn fendigedig a hyd yn oed os mai byrhoedlog yw'r pleser mae'n bwysig ei fwynhau tra'i fod yn para. A dweud y gwir rhaid sawru'r hapusrwydd sydd yn y foment - cwmni difyr, bwyd da, haul ar y môr. Dyw rhain ond yn rhoi cipolwg o'r llawenydd sydd ar gael i ni.

Yn anffodus mae yna bwyslais ar bwer ac ariangarwch yn ein byd ond dyw hyn yn ddim byd newydd wrth gwrs. Mae cyfeiriad at hyn yn Hebreaid 13 -

 

Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! — byddwch yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi.   

Efallai bydd arian yn eich gwneud yn hapus am ychydig ond mae'r pethau chi'n fwynhau trwy ras Duw yn rhoi gwir lawenydd i chi. 

Ers sawl blwyddyn bellach dw i wedi sylweddoli bod rhoi yn well na derbyn, hynny yw, adeg y nadolig er engraifft mae'n well gen i weld y llawenydd yng ngwyneb person wrth roi anrheg iddyn nhw na derbyn anrheg fy hunan. Mae cynifer ohonom yn chwennych ennill y loteri ond hyd yn oed o wneud hynny mae'n bwysig dilyn cyngor y Beibl er mwyn i'r hapusrwydd hynny droi yn wir lawenydd.

Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. Ac mae rhai pobl, yn eu hawydd i wneud arian, wedi crwydro oddi wrth y ffydd.        1 Timotheus 6 : 10

Mae egwyddorion ein ffydd mor bwysig ac yn arwain at wir lawenydd ac yn hynny o beth dw i'n cloi gyda dyfyniad Eleanor Roosevelt sy'n dweud y cyfan

He who loses money, loses much; He who loses a friend, loses much more; He who loses faith, loses all. 

Gwyn Elfyn Jones

Gweinidog, actor a chefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Cyfrannwr hael i gymunedau’r fro, chwaraeon ac i weithgaredd pobl ifanc.

Previous
Previous

Camdrin Plant

Next
Next

Albert Schweitzer