Hud a Lledrith.
Cyfriniaeth Gwyl y geni sy’n destun cân i’r byd,
A hud y Seren Fore yn swyno dyn o hyd.
Un tro ....... Chi’n cofio eich rhieni yn cychwyn straeon fel yna pan oeddech yn blant? Straeon hud a lledrith oeddynt yn aml ac mae pawb, yn enwedig plant, yn hoffi cael eu hudo o bryd i’w gilydd.
Roedd ‘magicians’ ar y teledu yn beth fwy poblogaidd pan oeddwn yn iau – David Nixon a Paul Daniels er engraifft. Ein arbennigwr ni yn y maes, fel gweinidogion, yw Eirian Wyn neu Rosfa.
Mae’r nadolig ar y gorwel ac mae yna hud a lledrith yn sicr yn perthyn i’r wyl honno. Fe ddywed rhieni wrthoch chi nad yw’r un hud a lledrith yn perthyn i’r wyl wedi i’r plant dyfu fyny ac fe fyddwn yn cytuno cant y cant.
Mae gweld wyneb plentyn yn goleuo wrth agor ei anrhegion yn drysor gwerthfawr sydd yn aros gyda dyn am byth. Dyna pam y dylid canmol cyngor Sir Gâr am yr Apêl Teganau mae nhw’n redeg er mwyn sicrhau bod plant tlawd yn cael yr un cyffro a phlant eraill.
Cyn agor y parselau, cyn datod y rhubanau,
y gras, O Arglwydd, dyro im i gofio’r rhai na chawsant ddim.
Fe fyddwn yn dadlau bod elfen ffals yn yr hud mae’r siopau yn trio ei greu yn arwain i fyny at y nadolig wrth geisio cael pobl i wario. Rwy’n credu y bydd hi gryn dipyn yn anoddach ar lawer eleni fodd bynnag a dw i’n gweddio nad aiff pobl i ddyled.
Er y bydd masnachwyr yn gwthio am wythnosau dyw’r nadolig ddim yn dechrau i mi hyd nes i mi weld y plant yn perfformio drama’r Geni yn y capel.
Mae’r bardd Gwyn Thomas yn cyflwyno’r hud sydd yn perthyn i’r perfformiad hwnnw yn ei gerdd wych ‘Drama’r Nadolig’. Mae’n sôn am y dillad a wniwyd, anrhegion y doethion a wnaethpwyd, y ffraeo rhwng milwyr Herod a’u gilydd – y miri a’r rialtwch. Ond yna mae ganddo ddwy linell ddadlennol iawn yn cychwyn ei bennill olaf –
Ond yn y cariad fydd rhwng y muriau hynny
Ar noson y ddrama, bydd pawb yn deulu.
Ac mae llinell nes ymlaen yn cyfeirio –
At y goleuni hwnnw na ellir mo’i gladdu.
A’r gwpled olaf yn taro’r ergyd oesol –
Ac yng nghanol dirni ac enbydrwydd byd sy’n gaeth dan rym Herod
Fe ddywedir eto nad yw Duw ddim yn darfod.
Dyna’r hud a lledrith i mi a beth bynnag yw’ch cred neu’ch diffyg cred mae’r neges bytholwyrdd yma yn un am frawdgarwch a gofal a chyflwyno anrhegion i’n gilydd.
Bydd angen i ni weithio ein hud a lledrith trwy ddangos brawdgarwch a gofal yn ein cymunedau y nadolig hwn. Cefnogwch eich banciau bwyd a’ch elusennau dyngarol i geisio dwyn rhywfaint o hud a lledrith i nadolig pawb.
Byddai’n braf meddwl fod pob un, heb eithriad, yn gallu mwynhau cinio nadolig, yn gallu teimlo rhywfaint o gariad ac yn ddiogel ac yn gynnes.
Diolch i’r rhai sydd yn gweithio mor ddygn yn yr elusennau sy’n cesio dwyn nadolig hudolus i’r anffodusion yn ein plith. Ar adeg fel hyn mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cofio geiriau’r Iesu –
Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf,
i mi y gwnaethoch.
Alla i ddim meddwl am y Nadolig heb feddwl am y goeden, y celyn, y canhwyllau a'r goleuni a'r anrhegion wrth gwrs.
Gwyddom oll fod arbenigedd i wyl y Nadolig i bob Cristion. Ond mae'r Nadolig yn golygu un peth sy'n gyffredin i bob dyn a gellir cyfleu hynny mewn un gair - anrhegion. Ie, nid i'r plant yn unig ond i bawb o bob oed dyma'r wyl yn anad un pan roddir a derbynir anrhegion. Dros yr wyl fe fyddwn yn cofio i ni gael yr anrheg gorau erioed.
"Mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef,
a gelwir ei enw ef RHYFEDDOL; CYNGHORWR; Y DUW CADARN; TAD TRAGWYDDOLDEB;
TYWYSOG TANGNEFEDD"
Sa i'n gwybod amdanoch chi ond fi'n cael mwy o bleser, os rhywbeth, o roi anrheg nag o dderbyn un!
Beth am i ni gyflwyno anrheg i Iesu Grist y Nadolig hwn. Beth am addunedu gyda'n gilydd i fod yn fwy ffyddlon iddo yn y flwyddyn newydd sydd o'n blaenau?
Beth am addunedu i helpu pawb yn ein cymuned, yn ein gwlad, yn ein byd - ateb yr alwad am gymorth pan ddaw, ateb y gri am gariad a chydymdeimlad.
Beth am addunedu i weithio'n galetach i sicrhau heddwch yn ein byd cythryblus.
Beth am faddau eu camweddau i rai sydd wedi ein pechu.
Ond yn fwy na dim, wrth weithio’n hud a lledrith y Nadolig yma - ceisiwch wneud yn siwr fod lle yn y llety i bawb.