Newid cyfeiriad.
RHAN 1
“Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.” 1 Timotheus 4:14
Mae sawl un wedi synnu i mi newid cyfeiriad yn y fath fodd a mynd yn weinidog ond pam fod cyn lleied o weinidogion o gwmpas ar hyn o bryd?Fe fyddai ysgrifenyddion cyhoeddiadau capeli yn dweud wrthych ei bod bron yn amhosibl cael gweinidog ordeiniedig i ddod atynt ar fore Sul. Y gwir yw fod gormod o eglwysi a dim digon o weinidogion i gyflawni’r gwaith.
Pan oeddwn i’n tyfu fyny yn y 70au ym mhen uchaf Cwm Gwendraeth roedd fy nhad yn weinidog yng Nghapel Seion ac mi ddywedodd wrth mam, “mae hon yn oes aur yn y cwm yma, welwn ni ddim cyfnod fel hyn eto.” Cyfeirio yr oedd e at y ffaith fod gweinidog ymhob eglwys. Roedd gweinidogion yn galw yn ty ni yn aml am sgwrs ac roedd ‘fraternal’ y gweinidogion ganddyn nhw i drafod syniadau.
Mae’r sefyllfa yn gwbl wahanol heddiw ac yn adlewyrchiad o Gymru ben baladr. Dw i’n ymwybodol mai prin iawn yw’r bechgyn neu ferched ifanc sydd yn dewis mynd i goleg diwinyddol o’r ysgol bellach ond mi fyddai fy nhad yn dweud o hyd y dylai dyn fynd i weithio ymhlith dynion cyn mynd yn weinidog, er mwyn dod i adnabod pobl. Sylw yr ydw i yn ddeall yn iawn erbyn hyn.
Dw i’n cael pleser aruthrol o weithio gyda pobl a gallu helpu pobl ond a ydy pobl ifanc yn gweld y weinidogaeth yn ddibwynt yn yr oes hon sgwn i?
Ydy’r hen syniad am weinidogion fel dynion dwys mewn siwt dywyll a thei yn parhau?
Ond mi oedd gweinidog yn berson y byddai pobl yn troi ato am gyngor a chymorth mewn pentref – mae hynny wedi prinhau hefyd. Efallai bod rhaid i ninnau yn ein heglwysi ystyried ein cyfeiriad a chraffu o ddifrif ar ein cyflwr. Oes angen gwneud newidiadau? A fyddai moderneiddio mewn gwahanol ffyrdd yn help i ddenu pobl ifancach i’r weinidogaeth? Dw i’n credu bod modd cynnal y weinidogaeth mewn amryw ffyrdd a does dim rhaid i bethau fod fel yr oedden nhw ganrif yn ôl. I ddychwelyd at y paragraff cyntaf – oes gormod o eglwysi i ateb y galw?“Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.” 1 Timotheus 4:14
Mae sawl un wedi synnu i mi newid cyfeiriad yn y fath fodd a mynd yn weinidog ond pam fod cyn lleied o weinidogion o gwmpas ar hyn o bryd?
Fe fyddai ysgrifenyddion cyhoeddiadau capeli yn dweud wrthych ei bod bron yn amhosibl cael gweinidog ordeiniedig i ddod atynt ar fore Sul. Y gwir yw fod gormod o eglwysi a dim digon o weinidogion i gyflawni’r gwaith.
Pan oeddwn i’n tyfu fyny yn y 70au ym mhen uchaf Cwm Gwendraeth roedd fy nhad yn weinidog yng Nghapel Seion ac mi ddywedodd wrth mam, “mae hon yn oes aur yn y cwm yma, welwn ni ddim cyfnod fel hyn eto.” Cyfeirio yr oedd e at y ffaith fod gweinidog ymhob eglwys. Roedd gweinidogion yn galw yn ty ni yn aml am sgwrs ac roedd ‘fraternal’ y gweinidogion ganddyn nhw i drafod syniadau. Mae’r sefyllfa yn gwbl wahanol heddiw ac yn adlewyrchiad o Gymru ben baladr. Dw i’n ymwybodol mai prin iawn yw’r bechgyn neu ferched ifanc sydd yn dewis mynd i goleg diwinyddol o’r ysgol bellach ond mi fyddai fy nhad yn dweud o hyd y dylai dyn fynd i weithio ymhlith dynion cyn mynd yn weinidog, er mwyn dod i adnabod pobl. Sylw yr ydw i yn ddeall yn iawn erbyn hyn.
Dw i’n cael pleser aruthrol o weithio gyda pobl a gallu helpu pobl ond a ydy pobl ifanc yn gweld y weinidogaeth yn ddibwynt yn yr oes hon sgwn i?
Ydy’r hen syniad am weinidogion fel dynion dwys mewn siwt dywyll a thei yn parhau?
Ond mi oedd gweinidog yn berson y byddai pobl yn troi ato am gyngor a chymorth mewn pentref – mae hynny wedi prinhau hefyd.
Efallai bod rhaid i ninnau yn ein heglwysi ystyried ein cyfeiriad a chraffu o ddifrif ar ein cyflwr. Oes angen gwneud newidiadau? A fyddai moderneiddio mewn gwahanol ffyrdd yn help i ddenu pobl ifancach i’r weinidogaeth? Dw i’n credu bod modd cynnal y weinidogaeth mewn amryw ffyrdd a does dim rhaid i bethau fod fel yr oedden nhw ganrif yn ôl. I ddychwelyd at y paragraff cyntaf – oes gormod o eglwysi i ateb y galw?
Ymunwch â ni wythnos nesaf am ail ran yr erthygl.